Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Tai

Mae cymuned sy'n gyfeillgar i oed yn cefnogi pobl hŷn i wneud penderfyniadau ynglŷn â lle maent yn byw, gan alluogi pobl i aros yn eu cartrefi hunain wrth iddynt heneiddio, neu i ddod o hyd i lety sy'n addas i'w hanghenion yn agos at y bobl a'r llefydd sydd yn bwysig iddynt.

Housing

Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma? 

  • Cynlluniau sy’n helpu i addasu cartrefi i gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain
  • Amrywiaeth o gynlluniau tai i gwrdd ag anghenion unigolion
  • Gwasanaethau darparu prydau iach/fforddiadwy
  • Prosiectau sy’n galluogi preswylwyr cartrefi gofal i gymryd rhan yn y gymuned