Alert Section

Sir y Fflint Ifanc

Sir y Fflint Ifanc - Young Flintshire

Beth yw Sir y Fflint Ifanc?

Mae Sir y Fflint Ifanc yn fodel llais ar gyfer pobl ifanc, lle caiff materion sy’n cael eu codi gan bobl ifanc eu rhoi gerbron rhai sy’n gwneud penderfyniadau a gall pobl ifanc roi adborth ar fentrau presennol a newydd ar draws y Cyngor. 

Bydd Cyngor yr Ifanc Sir y Fflint a thri chynrychiolydd (11 - 18 oed) o Gyngor Ysgol pob ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn cyfrannu at Sir y Fflint Ifanc.  Cefnogir y fforwm gan Swyddogion y Gwasanaeth Ieuenctid a Swyddogion Ysgolion sy'n Hyrwyddo Iechyd. 

Model Cyfranogi Sir y Fflint Ifanc

Model Cyfranogi Sir y Fflint Ifanc

Mae Sir y Fflint Ifanc yn fodel llais ar gyfer pobl ifanc, lle caiff materion sy'n cael eu codi gan bobl ifanc eu rhoi gerbron rhai sy'n gwneud penderfyniadau a gall pobl ifanc roi adborth ar fentrau presennol a newydd ar draws y Cyngor.

Gweithdai, Nodiadau Cyfarfodydd ac Adroddiadau

Nodiadau o weithdai a chyfarfodydd Sir y Fflint Ifanc, ynghyd â chyfeiriadau at adroddiadau.

Ffynonellau Data

Mae amrywiaeth o ffynonellau data yn llywio gwaith Sir y Fflint Ifanc a'r broses o wneud penderfyniadau.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chyfranogiad

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy'n rhwymo mewn cyfraith. Mae'n amlinellu hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pob plentyn, waeth beth fo'i hil, ei grefydd neu ei alluoedd.

Gwybodaeth i blant a phobl ifanc

Gwybodaeth am ysgolion iach i blant a phobl ifanc.

Cyngor Yr Ifanc

Mae pob unigolyn ifanc yn gymwys i ddod yn aelod o gyngor yr ifanc.

Ffurflen Ganiatâd a Hysbysiad Preifatrwydd

Ffurflen Ganiatâd Sir y Fflint Ifanc Medi 2025 - Awst 2026.

Cysylltu â Ni

Mae Sir y Fflint Ifanc yma i hyrwyddo ymgysylltiad ieuenctid ystyrlon o fewn y gymuned leol. Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch neges e-bost i’r cyfeiriad isod:

E-bost: young.flintshire@siryfflint.gov.uk