Alert Section

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chyfranogiad

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy'n rhwymo mewn cyfraith. Mae'n amlinellu hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pob plentyn, waeth beth fo'i hil, ei grefydd neu ei alluoedd.

Mae Model Cyfranogiad Sir y Fflint Ifanc yn cefnogi pob erthygl yn y Confensiwn, yn enwedig Erthygl 12, sy'n nodi bod gan bobl ifanc yr hawl i fynegi eu safbwyntiau ar faterion sy'n effeithio arnynt, a bod y safbwyntiau hynny’n cael ystyriaeth ddyledus. Mae mwy o wybodaeth am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Hawliau Plant yng Nghymru ar gael drwy ddilyn y dolenni isod:

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol

Mae'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yng Nghymru yn tywys gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu cyfranogiad ieuenctid ystyrlon yn effeithiol. Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn rhan o’r gwaith dylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau.

Mae mwy o wybodaeth am Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru ar gael drwy ddilyn y ddolen isod:

Poster Safonau Cyfranogiad