Alert Section

Ffurflen Ganiatâd a Hysbysiad Preifatrwydd

Ffurflen Ganiatâd Sir y Fflint Ifanc Medi 2025 - Awst 2026.

Mae Sir y Fflint Ifanc yn fodel llais pobl ifanc lle gall materion a godir gan bobl ifanc gael eu cyflwyno i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau, a gall pobl ifanc roi adborth ar fentrau cyfredol a newydd ar draws y cyngor. Gall y gweithgareddau hyn ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar lwyfannau ar-lein. Bydd staff o’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r tîm Ysgolion Iach yn cyfathrebu’n uniongyrchol â chynrychiolwyr Sir y Fflint Ifanc i gydlynu digwyddiadau a rhannu gwybodaeth.

Mae Cyngor Ieuenctid Sir y Fflint a thri chynrychiolydd Cyngor Ysgol o bob ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn bwydo i Sir y Fflint Ifanc.

Cwblhewch y ffurflen isod i gadarnhau eich rôl wrth gynrychioli pobl ifanc yn Sir y Fflint Ifanc rhwng 1 Medi 2025 a 31 Awst 2026.

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, byddwch yn cael e-bost gyda manylion am eich rôl yn Sir y Fflint Ifanc, a manylion cyswllt staff Sir y Fflint Ifanc yn y Cyngor.

Ffurflen Ganiatâd Sir y Fflint Ifanc