Alert Section

Ysgol Glan Aber, Bagillt


Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud gwaith yn Ysgol Glan Aber, Bagillt, ar brosiect a fydd yn gwella darpariaeth addysg yn yr ardal.   Mae’r Cyngor, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi dros £2.3 miliwn yn yr ysgol gyda’r nod o ddarparu cyfleusterau bwyta a neuadd newydd, ystafell ddosbarth newydd a llety i drawsnewid y cyfleuster presennol i un sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif.  

Bydd amgylchedd dysgu gwell yn gymorth i ysbrydoli disgyblion i ddysgu ac yn cynorthwyo’r Cyngor i gyflawni ei ymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.   Mae’r prosiect yn hyrwyddo Cymru sy’n fwy cyfartal drwy ddarparu cyfleusterau cyfoes a fydd yn dymchwel y rhwystrau sy’n atal dysgu a chynyddu’r tebygolrwydd y bydd plant a phobl ifanc yn cyflawni eu llawn botensial.  

Lansiwyd y prosiect yn swyddogol ym mis Hydref 2018 a bydd yn cael ei ddarparu gan Kier Construction, a disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn y gwanwyn 2020.

Y Prif Gerrig Millitr:

Datganiad i’r Wasg:  Cyhoeddi’r Prosiect Hydref 2018 

Llun Cyhoeddi’r Prosiect