Alert Section

Cynnig y Ddarpariaeth Addysg Gatholig


Yn ddiweddar, cyhoeddodd Esgobaeth Gatholig Wrecsam (yr Esgobaeth) a Chyngor Sir y Fflint (y Cyngor), gynnig i ad-drefnu’r ddarpariaeth addysg Gatholig yn Sir y Fflint.

Fe geisiodd yr Esgobaeth a’r Cyngor farn budd-ddeiliaid allweddol ar gynnig i:

  • Gau Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Anthony yn Saltney erbyn 31 Awst 2026.
  • Uno Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant David yn yr Wyddgrug, Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir y Santes Fair yn y Fflint ac Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn yn y Fflint.
  • Byddai’r uno’n golygu y byddai’r ysgolion unigol yn cau erbyn 31 Awst 2026 ac ysgol unedig newydd, Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir 3-18 oed, Cyfrwng Saesneg, gydag enw a rhif ysgol newydd, yn agor ym mis Medi 2026, gan weithredu dros y tri safle presennol.
  • Symud yr ysgol newydd i’r adeiladau newydd o 1 Medi 2029.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ddydd Mawrth, 3 Mehefin 2025, a daeth i ben ddydd Gwener, 18 Gorffennaf 2025.

Mae'r adroddiad ymgynghori sy’n crynhoi'r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ochr yn ochr ag ymateb y Cyngor ar gael yn y dolenni cyswllt isod.

Adroddiad Ymgynghori

Ar 14 Hydref 2025 bu i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo cynnig i fwrw ymlaen â chyhoeddi hysbysiad statudol i ddechrau cyfnod 28 diwrnod o wrthwynebu.  

Hysbysiad Statudol

Bydd y Cyfnod Gwrthwynebu ar agor am 28 diwrnod rhwng 17 Tachwedd 2025 a 23:59 ar 15 Rhagfyr 2025. Yn ystod y cam hwn, gall unrhyw randdeiliad gyflwyno gwrthwynebiad i'r cynnig. Bydd y gwrthwynebiadau hyn yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Er mwyn eu hystyried yn wrthwynebiadau statudol, rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau’n ysgrifenedig neu mewn e-bost, a'u hanfon at y Cyngor cyn pen 28 diwrnod o'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad

Mae’r manylion cyswllt ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau wedi’u nodi ar yr Hysbysiad Statudol. 

Mae copïau caled o’r Hysbysiad Statudol hefyd ar gael ac os bydd arnoch angen copi ar bapur neu ar ffurf wahanol fel Braille neu brint bras, neu os oes arnoch angen cymorth i ddehongli’r ddogfen mewn iaith arall, cysylltwch â’r Tîm Moderneiddio Ysgolion ar 01352 704014, 01352 704018 neu 01352 702188, neu e-bostiwch CatholicEducationConsultation@flintshire.gov.uk