Mae Cynnydd Chwareus yn darparu dewis o naill ai chwarae rhannau rhydd neu ddisgo distaw. Mae’r ddau weithgaredd yn darparu elfen addysgol yn ogystal â chefnogi lles drwy chwarae.
Mae gweithgaredd rhannau rhydd yn sesiwn bwrpasol lle gall ysgolion ddewis pwnc y mae’r plant yn ei ddysgu yn y dosbarth, a bydd y tîm chwarae’n helpu i gyflwyno hynny drwy rannau rhydd. Er enghraifft, rydym wedi cael themâu fel yr Ail Ryfel Byd, Gwytnwch, Cymunedau, Dyfeisiadau, Oes Fictoria, y Jyngl, ac ati. Mae hyn wedi galluogi plant i ddysgu am y pynciau hyn, ond hefyd i sianelu eu dychymyg i greu rhywbeth o’r adnoddau a ddarperir.
Mae’r disgo distaw yn ffordd hwyliog o wneud rhywfaint o waith Rhifedd, Llythrennedd a Daearyddiaeth trwy gemau bach gan ddefnyddio cerddoriaeth. Mewn sesiwn awr mae’r plant yn canu ac yn dawnsio i ganeuon adnabyddus, gan brofi eu sgiliau Mathemateg, creadigrwydd a’u gwybodaeth Ddaearyddol drwy gerddoriaeth. Daw’r sesiwn i ben gyda chwis ar gerddoriaeth ffilmiau, sydd bob tro’n boblogaidd.
Nod Cynnydd Chwareus yw ychwanegu elfennau chwareus i bynciau a gweithgareddau addysgol, gan gael hwyl drwy chwarae. Mae’n ffordd effeithiol o feithrin hyder, datblygu sgiliau gweithio mewn tîm, caniatáu i greadigrwydd a dychymyg ffynnu mewn amgylchedd diogel a chwareus.
Rydym yn cynnig sesiynau untro am ddim gyda’r dewis i dalu am sesiynau ychwanegol ar gost o £45.00.