Alert Section

Sir y Fflint sy'n Falch o'r Mislif

Cefndir

Ers 2019 mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, o'r enw 'Grant Urddas Mislif', i help i fynd i'r afael â thlodi mislif ar draws Cymru.

Archebu cynnyrch mislif am ddim i'r cartref

Os ydych yn 8-18 oed ac yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint, cwblhewch y ffurflen gan ddilyn y ffurflen.

Cynnyrch mislif am ddim mynediad i'r gymuned (i bawb)

Mae'r grant Urddas Mislif hefyd yn cefnogi ein cymunedau trwy ddarparu cynnyrch a chymorth am ddim trwy bwyntiau allweddol o gymorth, megis banciau bwyd, canolfannau cefnogi cymunedol a lleoliadau dysgu cymunedol i oedolion.

Adnoddau pellach a chefnogaeth

Mwy o wybodaeth, adnoddau a chymorth ynglŷn â mislif.

Cofrestru i Arweinwyd Balch o'r Mislif

Ar gyfer ysgolion a lleoliadau cymunedol sy’n darparu cynnyrch mislif, a fydd yr Arweinydd Balch o’r Mislif cystal â dilyn y ddolen isod i gadarnhau manylion yr Arweinydd a Lleoliad.

Bydd Cyngor Sir y Fflint a darparwr y cynnyrch mislif yn gweithio gyda’r arweinwyr o ran darparu’r cynnyrch wrth symud ymlaen. 

Cysylltwch â ni

Mae Sir y Fflint sy’n Falch o’r Mislif am roi pwynt cyswllt rhwydd ar gyfer mynediad i gynnyrch mislif am ddim a chyfeiriadau at gefnogaeth bellach. 

E-bost: periodproud@siryfflint.gov.uk

Mae 15% o ferched rhwng 14-21 oed yng Nghymru wedi methu â fforddio nwyddau mislif* *Plan International
Mae 48% o ferched yn y DU yn teimlo cywilydd o'u mislif* *Plan International
Mae 49% o ferched yn y DU wedi colli diwrnod cyfan o ysgol oherwydd eu mislif* *Plan International