Alert Section

Cefndir

Ers 2019 mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, o'r enw 'Grant Urddas Mislif', i help i fynd i'r afael â thlodi mislif ar draws Cymru.

Mae Urddas Mislif yn ymwneud â:

  • Pharch – cael gwared ar y stigma a’r cywilydd ynghylch mislif.
  • Addysg – helpu pobl i ddeall bod mislif yn normal ac yn iach.
  • Cydraddoldeb – gwneud yn siŵr bod gan bawb bopeth sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu mislif, a bod neb yn wynebu tlodi mislif.

Ni ddylai neb fod dan anfantais am eu bod nhw’n cael mislifoedd. Fe ddylai pawb gael mynediad at nwyddau mislif pan fyddan nhw eu hangen nhw – ond, yn anffodus, nid yw hyn yn digwydd bob tro.

Mae Bod yn Falch o’r Mislif yn golygu:

  • Bod pawb yng Nghymru yn cael eu trin yn gyfartal a chyda pharch. Ni ddylai neb gael eu dal yn ôl na’u hatal rhag cyflawni eu nodau am eu bod nhw ar eu mislif.

Adroddiadau Urddas Mislif Cyngor Sir y Fflint

Isod fe welwch chi ddolenni i adroddiadau sy’n rhoi trosolwg i Aelodau Cyngor Sir y Fflint o’r sefyllfa bresennol yn genedlaethol o ran Urddas Mislif, a sut y mae arian grant o fudd i ysgolion a chymunedau Sir y Fflint.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Cyngor a Democratiaeth - Cyngor Sir y Fflint.  

Mathau o Gynnyrch Mislif

I ganfod mwy am gynnyrch mislif y gellir eu taflu a’u hailddefnyddio, cliciwch ar y ddolen Bloody Brilliant, Period Products and staying fresh.

Cynnyrch Eco-gyfeillgar

Ynghyd â Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau y mae pob math o lygredd plastig yn ei achosi.  Yn unol ag ymrwymiadau amgylcheddol presennol Llywodraeth Cymru, rydym ni’n gobeithio cynyddu’r ganran sy’n cael ei wario ar gynnyrch mislif eco-gyfeillgar bob blwyddyn. Ein nod yw sicrhau bod 90-100% o’r cynnyrch mislif sy’n cael ei brynu drwy’r grant yn eco-gyfeillgar erbyn 2025-2026.

Mae sgôp y targed yno er mwyn cefnogi’r broses o symud i ffwrdd o ddewisiadau plastig defnydd untro y gellir eu taflu, tuag at ddewisiadau ailddefnyddadwy, di-blastig tra’n sicrhau dewis parhaus i ddefnyddwyr, hygyrchedd, ynghyd ag effaith amgylcheddol pwysig a chadarnhaol.

Cynnyrch y gellir eu golchi yw cynnyrch mislif ailddefnyddadwy, megis dillad isaf mislif, padiau y gellir eu hailddefnyddio a chwpanau silicon ar gyfer mislif y gellir eu hailddefnyddio.  Dewisiadau eco-gyfeillgar yw’r rhain nad ydyn nhw’n cynnwys plastig.

Cynnyrch mislif y gellir eu taflu yw cynnyrch defnydd untro megis tamponau, padiau tenau a thyweli hylendid. Gall pecyn o dyweli hylendid gynnwys hyd at 5 bag plastig. Gall cynyddu faint o gynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio helpu i leihau gwastraff a lleihau faint sy’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. 

Mae Cadw Cymru’n Daclus wedi llunio cynllun ynghylch sut gallwch helpu i leihau gwastraff ynghyd â chanllaw am y dewis o gynnyrch mislif, ynghyd â chanllaw i ddewis cynnyrch mislif. Ffynhonnell ryngweithiol ddefnyddiol arall gan Gadwch Gymru’n Daclus yw Chwalu Mythau am y Mislif

Darpariaeth Cynnyrch Mislif yn Sir y Fflint

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydweithio gyda Cheeky Wipes, y brand cynaliadwy sy’n cefnogi ‘Cynnyrch y gellir eu Hailddefnyddio’ i hyrwyddo urddas mislif, gan ddarparu cynnyrch mislif tafladwy ac y gellir eu hailddefnyddio yn rhad ac am ddim i ysgolion a lleoliadau cymunedol a danfon cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio yn rhad ac am ddim yn syth i ddrysau pobl ifanc.