Mwy o wybodaeth, adnoddau a chymorth ynglŷn â mislif.
Cynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif
Ym mis Chwefror 2023, amlinellodd Llywodraeth Cymru y ffordd y bydd yn sicrhau urddas mislif yng Nghymru drwy gyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif. Mae’r cynllun yn nodi uchelgais i gael gwared ar dlodi mislif a sicrhau Urddas Mislif i ferched, genethod a phobl sydd yn cael mislif, erbyn 2027.
Bloody Brilliant
Fe greodd Social Change UK ‘Mislif Fi’ ar ran GIG Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn agor y sgwrs a darparu gwybodaeth ar iechyd mislif, fel nad yw cenedlaethau o bobl ifanc yn dioddef mewn tawelwch yn sgil ofn o siarad allan neu ddiffyg dealltwriaeth o ran yr hyn sy’n normal mewn perthynas â mislif.
Os nad ydych yn cael mislif, neu eisiau deall a chefnog rhywun sydd yn
GIG Cymru - Iechyd Mislif
Dyma dudalen gyfeirio iechyd mislif GIG Cymru ar gyfer rhagor o wybodaeth a grwpiau cefnogi.
‘Chwalu’r mythau - Mislif!’
Adnodd dysgu ar-lein i helpu athrawon, a dysgwyr 11 - 16 oed, i chwalu mythau am y mislif, edrych ar y dewisiadau o ran cynnyrch sydd ar gael, yn ogystal ag effeithiau cynnyrch a gwastraff ar ein hamgylchedd.
Er ei fod wedi ei anelu’n bennaf at ysgolion uwchradd, mae’r adnoddau hefyd yn cynnwys gwybodaeth allai fod o fudd i grwpiau cymunedol am ddewisiadau cynaliadwy i gynnyrch mislif defnydd untro a’r effaith y gall y rhain eu cael ar yr amgylchedd.
'The Menstrual Health Project'
Maent yn darparu cefnogaeth ymarferol ar gyfer y rhai sy’n dioddef o bryderon a chyflyrau iechyd y mislif, trwy addysg, offer ac adnoddau.
Cefnogi rhywun sy’n cael mislif
Os nad ydych yn cael mislif a/neu eisiau cefnogi rhywun sydd yn, mae’r dolenni isod yn darparu gwybodaeth a chanllawiau. I ddod â’r stigma ynghylch y mislif i ben, mae angen i ni gael y sgwrs i lifo.
Nid y merched yn unig sydd angen dysgu am y mislif. Mae’r ddolen uchod yn rhoi gwybodaeth i fechgyn am yr ochr gorfforol a seicolegol sy’n digwydd i ferched yn ystod eu mislif.