Alert Section

Siarad mewn Pwyllgor Cynllunio


Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ymestyn cyfranogiad y cyhoedd yn y broses gynllunio.

Mae’r broses cais cynllunio yn cynnwys ymgynghoriad sylweddol a gweithdrefnau hysbysu cymdogion. Yn ogystal â hynny, mae’r dudalen hon yn egluro’r weithdrefn i ymgeiswyr/asiantwyr, cefnogwyr, gwrthwynebwyr a Chynghorau Tref/Cymuned siarad mewn Pwyllgorau Cynllunio.

Bydd siarad cyhoeddus yn cael ei ystyried yn y cyfarfod Pwyllgor cyntaf y bydd y cais yn cael ei ystyried ond hefyd mewn cyfarfodydd dilynol os fydd y cais yn cael ei ohirio neu os gwneir cais am ymweliad safle. Nid yw’r protocol yn gymwys i Gynghorwyr Sir oni bai am y rhai sydd wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu (sydd â hawl i siarad am uchafswm o 5 munud). Y Cadeirydd sydd yn penderfynu ar ymddygiad yn y cyfarfod ac mewn amgylchiadau eithriadol mae gan y Cadeirydd y disgresiwn i wyro oddi wrth y protocol hwn.

Fel arfer cynhelir Pwyllgor Cynllunio bob 4 wythnos ar brynhawn dydd Mercher, yn dechrau am 13:00. Mae’r cyfarfod yn un hybrid, gan alluogi presenoldeb yn bersonol yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug neu ar-lein trwy lwyfan cyfarfod ar-lein. Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw ar wefan y Cyngor ac mae recordiad o’r cyfarfod yn cael ei uwchlwytho wedi hynny.


Gwneud cais i siarad mewn Pwyllgor

Gall unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ysgrifenedig ofyn i siarad yn y Pwyllgor ond dim ond un person allwn ni ganiatáu i siarad o blaid (yr ymgeisydd neu'r asiant fel arfer) ac un arall yn erbyn y cynnig. Gall gynrychiolydd Cyngor Tref/Cymuned hefyd gofrestru i siarad.

Os fydd cais yr ydych wedi gwneud sylwadau ysgrifenedig arno yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor (yn hytrach na phenderfyniad dirprwyedig), byddwn yn cysylltu â chi unwaith fydd dyddiad y pwyllgor yn hysbys, gan roi cyfle i chi gofrestru i siarad. Dylid derbyn ceisiadau erbyn y dyddiad yn y llythyr hysbysu, sydd fel arfer 48 awr cyn y pwyllgor a bydd eich manylion cais yn cael eu cofnodi ar gronfa ddata.

Pan gewch eich hysbysu o ddyddiad y pwyllgor ac os hoffech gofrestru i siarad yn y pwyllgor, cysylltwch â ni trwy e-bost planning.committee@flintshire.gov.uk . Bydd gofyn i chi ddarparu eich enw, rhif ffôn yn ystod y dydd, cyfeiriad e-bost, pa gais yr ydych yn dymuno siarad arno ac os ydych yn cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cais (yn unol â’r sylwadau rydych wedi’u gwneud a phwy ydych chi’n ei gynrychioli, e.e. ymgeisydd/asiant, Cyngor Tref/Cymuned neu aelod o’r cyhoedd.

Bydd gan yr ymgeisydd/asiant flaenoriaeth dros eraill sy’n dymuno siarad i gefnogi’r cais. Os fydd nifer o geisiadau i siarad yn erbyn y cais yn cael eu derbyn, byddwn yn cofrestru’r person cyntaf i gysylltu â ni. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn i’r person hwnnw os ydynt yn dymuno derbyn manylion cyswllt y partïon eraill sydd wedi gwneud cais i siarad, er mwyn galluogi’r rhai sydd â safbwyntiau tebyg i gytuno ar bwy ddylai siarad.  

Pan fydd y rhestr o siaradwyr yn cael ei chreu bydd yr ymgeisydd/asiant (neu’r person cyntaf o blaid) a’r person cyntaf yn erbyn ar y rhestr a fynegodd ddiddordeb, yn cael eu hysbysu o:

  • yr argymhelliad
  • lle y gellir arolygu’r adroddiad
  • trefniadau ar gyfer mynychu’r Pwyllgor 
  • trefniadau ar gyfer cyflwyno datganiad i’w ddarllen ar eich rhan
  • dolen i’r dudalen hon

Os yw’r person cyntaf o blaid neu yn erbyn ar y rhestr yn penderfynu peidio â siarad, cysylltir â’r ail berson ar y rhestr ac yn y blaen.

Bydd y rhaglen a’r adroddiadau ar gael o leiaf tri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod trwy ein gwefan. 

Bydd unrhyw wybodaeth ychwanegol a dderbynnir ar ôl i’r adroddiadau gael eu hysgrifennu yn cael eu rhannu ag aelodau’r Pwyllgor fel sylwadau hwyr. Rhaid i sylwadau pellach ar y cais gael eu derbyn erbyn 12pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Pwyllgor. Ni fydd sylwadau a dderbynnir ar ôl y terfyn amser hwn yn cael eu cynnwys yn y wybodaeth sylwadau hwyr a rennir gydag Aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod a byddent ond yn cael eu hadrodd ar lafar yn y cyfarfod gyda chytundeb y Cadeirydd/Is-gadeirydd.

Diwrnod y Pwyllgor Cynllunio

  • Os ydych wedi dewis i ymuno â’r cyfarfod ar-lein yna byddwch wedi derbyn cyfarwyddiadau a dolen i’r cyfarfod gan y Gwasanaethau Pwyllgorau. 
  • Os ydych wedi dewis cyflwyno datganiad yn hytrach na siarad yn y Pwyllgor, yna bydd yn cael ei ddarllen gan swyddog (neu gynrychiolydd arall) ar yr amser gofynnol.
  • Os y byddwch yn mynychu yn bersonol am 12:45, cewch eich cyfarch gan aelod o’r Tîm Rheoli Datblygu a fydd yn egluro lle byddwch yn eistedd a’r gweithdrefnau.
  • Bydd y Cadeirydd yn cael ei hysbysu o’r rhestr o siaradwyr cyn i’r cyfarfod ddechrau.
  • Bydd y Cadeirydd yn agor y cyfarfod ac os oes angen, yn egluro unrhyw newidiadau i’r rhaglen.
  • Bydd y Swyddog Cynllunio yn cyflwyno’r cais yn gryno trwy gyfeirio ar y cynnig ac amlinellu unrhyw bwyntiau neu faterion allweddol.
  • Bydd y Cadeirydd yn galw’r siaradwr cyntaf yn erbyn y cais ymlaen, gyda’r siaradwr o blaid y cais i ddilyn, ac yna cynrychiolydd y Cyngor Tref/Cymuned, os ydynt wedi rhoi hysbysiad eu bod yn dymuno siarad yn unol â’r protocol.
  • Bydd pob siaradwr yn eistedd mewn safle dynodedig gyda meicroffon ac yn cael uchafswm o dri munud i roi ei achos/hachos ymlaen. Unwaith i’r siaradwr ddechrau bydd clerc y pwyllgor yn dechrau’r cloc a fydd yn gwneud sŵn unwaith i’r tri munud ddod i ben. Gofynnir i unrhyw un sy'n parhau am fwy na thri munud gloi eu datganiad a dychwelyd i'w sedd cyn y gwahoddir siaradwr arall i'r meicroffon.

Paratoi eich datganiad i’r Pwyllgor Cynllunio

  • Cyn siarad yn y Pwyllgor dylech baratoi datganiad clir, cryno, wedi'i ategu â thystiolaeth, yn esbonio pam rydych yn credu y dylai'r cais cynllunio y mae gennych ddiddordeb ynddo gael ei gymeradwyo neu ei wrthod.
  • Mae’r Pwyllgor Cynllunio yn ystyried holl geisiadau ar sail cynllunio yn unig. Os y byddwch yn codi materion nad all y pwyllgor eu hystyried fel arfer, yna ni all y pwyllgor gymryd hwy i ystyriaeth.
  • Ni chaniateir i chi rannu nac arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig na ffotograffig, felly wrth baratoi eich datganiad, dylech geisio egluro:
    • Sut, yn eich barn chi, mae’r cynigion yn cydymffurfio neu’n gwrthdaro â pholisïau cynllunio cyfredol (e.e. y Cynllun Datblygu Lleol) a chanllawiau cynllunio perthnasol a gyhoeddwyd gan y Cyngor
    • Pa effeithiau, os oes rhai, y bydd y cynigion yn eu cael ar eiddo gerllaw
    • Y prif fanteision neu anfanteision i chi a’r gymuned ehangach
  • Ni ddylai cynnwys eich araith wneud beirniadaeth personol o unrhyw unigolion na defnyddioiaith anweddus, neu gall y Cadeirydd eich stopio rhag siarad. Fel arfer mae’r pwyllgor yn trafod eu busnes yn Saesneg ac os ydych yn dymuno siarad â’r Pwyllgor yn Gymraeg, dynodwch hynny wrth wneud cais i siarad fel y gellir trefnu cyfleusterau cyfieithu.

Mae’r rhestrau isod yn amlinellu’r materion y gall ac ni ellir eu hystyried fel arfer, ond nid yw’r rhain yn rhestrau cyflawn.

Materion y gall y pwyllgor eu hystyried fel arfer

  • Bwrw cysgod
  • Arsyllu a cholli preifatrwydd
  • Digon o le parcio a gwasanaethu
  • Natur ormesol y cynnig
  • Colli coed
  • Colli cynefinoedd ecolegol
  • Dyluniad ac edrychiad
  • Cynllun a dwysedd yr adeiladau
  • Effaith ar Adeilad(au) Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
  • Mynediad a diogelwch y briffordd
  • Cynhyrchu traffig
  • Sŵn ac ymyrraeth o’r cynllun
  • Aflonyddu gan arogleuon
  • Harddwch cyhoeddus (nid colled golygfa unigolyn preifat)
  • Perygl Llifogydd
  • Creu Cyflogaeth

Materion y nad all y pwyllgor eu hystyried fel arfer

  • Colli gwerth eiddo unigol
  • Colli golygfa
  • Anghydfodau terfyn, gan gynnwys llechfeddiant sylfeini neu gwteri
  • Cyfamodau neu gytundebau preifat
  • Ymddygiad neu hanes personol yr ymgeisydd
  • Cymhelliant yr ymgeisydd
  • Elw posibl i’r ymgeisydd o’rcais
  • Hawliau preifat i olau
  • Hawliau tramwy preifat
  • Difrod i eiddo
  • Amharu yn ystod unrhyw gyfnod adeiladu
  • Colli masnach a chystadleuaeth
  • Oedran, iechyd, statws, cefndir a phatrwm gwaith y gwrthwynebydd
  • Yr amser a gymerir i gwblhau’r gwaith
  • Cynhwyster draeniau preifat
  • Technegau adeiladu a strwythurol
  • Alcohol, hapchwarae neu drwyddedau eraill

Ar ôl i chi siarad

Bydd y pwyllgor yn trafod y cais gyda chynigydd ac eilydd i argymhelliad cyn i’r ddadl ddechrau. Ni ddylai aelodau o’r cyhoedd siarad gyda, neu basio gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor yn ystod y sesiwn. Bydd y Cadeirydd yn adrodd y penderfyniad i’r cyhoedd a bydd clerc y pwyllgor yn cofnodi pwy siaradodd yn y pwyllgor.

Ymddygiad

Rôl y Cadeirydd yw cynnal trefn a disgyblaeth yn y Pwyllgor Cynllunio. Gall aelodau o’r cyhoedd wylio’r trafodaethau ond ni allent siarad yn y cyfarfod oni bai eu bod wedi derbyn gwahoddiad i wneud hynny. Ar bob adeg arall, dylai'r cyhoedd gadw mor dawel ag y bo modd. Os fydd aelod o’r cyhoedd yn tarfu ar y trafodaethau neu’n drafferthus, gall y Cadeirydd ofyn iddo ef neu hi adael yr ystafell.

Hysbysiad Gweddarlledu

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu ffilmio ar gyfer darllediad byw a darllediadau dilynol ar wefan y Cyngor ac fe ellir eu defnyddio at ddibenion hyfforddi o fewn y Cyngor. Bydd yr holl gyfarfod yn cael ei ffilmio, ac eithrio eitemau cyfrinachol neu eithriedig, a bydd y ffilm ar y wefan am gyfnod amhenodol.

Yn gyffredinol, nid yw ardaloedd y seddi cyhoeddus yn cael eu ffilmio. Fodd bynnag, trwy fynd i mewn i'r Siambr rydych yn caniatáu i ni eich ffilmio a defnyddio’r delweddau hynny a’r recordiadau sain ar gyfer gweddarlledu a/neu at ddibenion hyfforddi.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn ynglŷn â hyn, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd ar 01352 702345