Alert Section

Adeiladau rhestredig


Grant Atgyweirio Adeiladau Treftadaeth

Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau rhestredig a threftadaeth roi baich sylweddol ar berchnogion, yn arbennig o ran costau atgyweirio.

Er mwyn ceisio darparu anogaeth a chymorth i berchnogion i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif i gadw adeiladau o’r fath mewn cyflwr cadwraeth cadarnhaol, mae’r Cyngor wedi datblygu cynllun grant atgyweirio adeiladau a fydd yn rhedeg yn ystod y flwyddyn ariannol yma a’r nesaf mewn ffurf beilot. Yna bydd y buddion yn cael eu gwerthuso ar gyfer cyllid yn y blynyddoedd i ddod.

Y nod yw darparu cymorth cymharol ar gyfer costau cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol, a’r egwyddorion allweddol tu ôl i hyn yw annog perchnogion i ddeall eu hadeiladau o ran eu dyluniad, strwythur a chyflwr, a chyflawni gwaith cynnal a chadw rheolaidd a phriodol. Os oes angen gwaith atgyweirio, dylai’r rhain fod y lleiafrif angenrheidiol er mwyn sefydlogi a chadw’r adeilad ar gyfer goroesiad hirdymor ac i fodloni gofynion defnydd parhaus.

Mae’r Cyngor wedi paratoi nodyn cyfarwyddyd cryno sy’n egluro prif egwyddorion atgyweirio, ac yn nodi’r math o ddull y mae’r Cyngor yn chwilio amdano o ran ei allu i gefnogi ceisiadau grant.

Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr

Mae’r Cyngor wedi paratoi nodyn cyfarwyddyd ar gyfer ymgeiswyr posibl sy’n nodi pwy all wneud cais ar gyfer y grant, pa fathau o adeiladau treftadaeth sy’n gymwys, pa waith sy’n cael eu cynnwys, a’r swm o grant sydd ar gael. Yn dibynnu ar y math o adeiladu treftadaeth, bydd y grantiau yn daladwy am hyd at hanner y costau cymwys, hyd at uchafswm o rhwng £2,500 a £10,000.

Sut i wneud cais

Dylai ymgeiswyr posibl adolygu’r ddau nodyn cyfarwyddyd uchod, a dylent ystyried gael trafodaeth anffurfiol  gyda’r Tîm Cadwraeth Adeiladau i amlinellu natur yr atgyweiriad y maent yn ystyried gwneud cais amdano, ac i gael safbwynt mewn egwyddor, yn ogystal â chyngor ar wybodaeth gefnogol sydd ei angen o fewn y cais.

Ar hyn o bryd mae’r Tîm Cadwraeth Adeiladau yn parhau i weithio o gartref yn sgil sefyllfa barhaus Covid a’r ffordd orau o gysylltu yw trwy e-bost i’r cyfeiriad canlynol conservation@flintshire.gov.uk.

Dylai’r ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais Grant Atgyweirio Adeiladau a’i ddychwelyd (drwy e-bost os yw’n bosibl) i’r Tîm Cadwraeth Adeiladau, i’r cyfeiriad uchod.

 

Gwaith ar adeiladau rhestredig - oes angen caniatâd arnaf?

Mae adeiladau rhestredig yn cael eu hamddiffyn yn fwy caeth gan reolau cynllunio nag adeiladau cyffredin, o ganlyniad, mae angen caniatâd yn aml cyn y gellir gwneud unrhyw waith.  Bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig os oes un o'r achosion hyn yn gymwys.

  • Os ydych am ddymchwel adeilad rhestredig.
  • Os ydych am addasu neu ymestyn adeilad rhestredig mewn ffordd a fyddai'n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Mae'r nodyn esboniadol isod yn rhoi gwybodaeth bellach am sut mae'r adeiladau rhestredig yn cael eu dewis, pa fath o waith sydd angen caniatâd ar ei gyfer a sut caiff cais am ganiatâd ei brosesu.

Nodyn Esboniadol Cynllunio Lleol 6 - Adeiladau Rhestredig

Dechrau gweithio ar adeilad rhestredig heb gael cymeradwyaeth yr ACLl yn drosedd a gallech dderbyn dirwy, cael eich gorfodi i ail-wneud y gwaith, cael eich erlyn neu'ch carcharu hyd yn oed.

Cyngor ar Adeilad Rhestredig / Ardal Gadwraeth Cyn Ymgeisio a Chyngor ar Adeilad Rhestredig Cyn Prynu 

O 1 Medi 2021 byddwn yn codi tâl am ddarparu cyngor cyn ymgeisio. O’r dyddiad hwn ymlaen bydd arnoch chi angen llenwi ffurflen safonol cyn derbyn cyngor. 

Efallai y bydd oedi wrth gofrestru ceisiadau newydd ar gyfer y gwasanaethau uchod.Sylwer na allwn brosesu ceisiadau papur a dylid eu cyflwyno ar e-bost i planningadmin@flintshire.gov.uk

Gwneud cais am ganiatâd

Mae gwybodaeth am wneud cais ar-lein, lawrlwytho ffurflenni cais, rhestr o ffioedd a beth i’w gynnwys yn eich cais i’w chael ar ein tudalen we Gwnewch gais am ganiatâd cynllunio.  Ni chodir unrhyw ffioedd am gais am ganiatâd adeilad rhestredig.

Sut allaf ddarganfod p'un a yw adeilad yn rhestredig?

Yn Sir y Fflint, mae bron i 1032 o adeiladau rhestredig, o'r rhain, mae 27 yn radd I, 79 yn radd II* ac mae'r gweddill yn radd II. Gallwch ddarganfod a yw adeilad yn rhestredig trwy gysylltu ag Is-adran yr Amgylchedd a Chadwraeth. Ffoniwch 07770 211401 new e-bost cadwraeth@siryfflint.gov.uk

Amgylchedd Hanesyddol (CADW)

Cof-Cymru - Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru (CADW)