Alert Section

Cyfleoedd i Weithwyr Dan Hyfforddiant

Hyfforddai Sir y Fflint - Gweinyddiaeth Fusnes (Tîm Refeniw)

Beth mae’r tîm yn ei wneud:

  • Yn gyfrifol am weinyddu a chasglu Treth y Cyngor, Ardrethi Busnes, Mân Ddyledion, a chysoni incwm arian parod.
  • Siarad gyda threthdalwyr a thalwyr ardrethi yn ddyddiol dros y ffôn ac yn ysgrifenedig er mwyn darparu cymorth i dalu eu Treth Cyngor, ardrethi busnes a mân ddyledion.
  • Cynnig cyngor ar ostyngiadau / eithriadau perthnasol y gallai talwyr treth ac ardrethi fod yn gymwys iddynt er mwyn gostwng eu Treth Cyngor, neu Ardrethi Busnes a sut i’w hawlio.

Beth fyddech chi’n rhan ohono:

  • Diweddaru cofnodion cwsmeriaid gan ddefnyddio systemau cyfrifiadurol
  • Cefnogi’r gwasanaeth drwy ymgymryd ag ystod amrywiol a diddorol o weithgareddau swyddfa, gan gynnwys cyfeirnodi a mynegeio post gan ddefnyddio ein System Rheoli Dogfennau a Llif Gwaith
  • Ymdrin â phob agwedd ar brosesu debyd uniongyrchol 
  • Creu a chynnal taenlenni a darparu gwybodaeth ystadegol mewn amrywiaeth o fformatau
  • Cysylltu â chwsmeriaid yn rheolaidd dros y ffôn i ymdrin ag ymholiadau
  • Adolygu achosion cyn eu dyrannu i Asiantwyr er mwyn dilysu manylion cyswllt
  • Symud arian parod a chysoni taliadau er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y balansau cywir
  • A llawer mwy! 

Cymhwyster

  • Gweinyddu Busnes Lefel 2 / 3 

Gwneud Cais Ar-lein