Alert Section

Cymorth cyflogadwyedd yn Sir y Fflint

Cymorth cyflogadwyedd yn Sir y Fflint

Yn Sir y Fflint, rydym yn cynnig dwy raglen cyflogadwyedd i gefnogi pobl leol tuag at gyflogaeth: Cymunedau am Waith + a Chysylltu â Gwaith.

Mae'r ddwy raglen yn darparu cymorth personol ond maent wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion gwahanol.

Pan fyddwch chi'n cysylltu, bydd eich amgylchiadau a'ch anghenion cymorth yn cael eu trafod gyda chi fel y gallwch gael eich cysylltu â'r rhaglen sydd fwyaf priodol i chi.

Cymunedau am Waith+

Mae Cymunedau dros Waith a Mwy yn rhaglen I Mewn i Gyflogaeth am ddim a gwirfoddol i'r rhai 16+ oed sy'n byw yn Sir y Fflint sydd allan o waith, ddim mewn addysg neu sydd â hysbysiad diswyddo ac yn wynebu rhwystrau i gyflogaeth.

Mae'n darparu cymorth personol un-i-un i helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy â thâl trwy adeiladu hyder, hyfforddiant, gwirfoddoli a chymorth gyda cheisiadau a chyfweliadau swydd.

Cysylltu â Gwaith

Mae Cysylltu â gwaith yn rhaglen Cyflogaeth â Chymorth rhad ac am ddim a gwirfoddol ar gyfer pobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor a phobl sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.

Mae'n darparu cymorth personol, un i un i helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth ystyrlon â thâl, a’i chynnal, gan gynnwys cymorth i bobl sydd eisoes mewn gwaith ond sydd mewn perygl o golli eu swydd oherwydd eu hiechyd neu eu hamgylchiadau.

Gweler isod hon i wneud yn siŵr eich bod yn hapus i ddata gael ei ddefnyddio fel y disgrifiwyd: 

Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd – Rhaglenni Cyflogadwyedd

Hydref 2026

Mae gan Gyngor Sir y Fflint ddwy raglen cyflogadwyedd a ariennir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Cyngor Sir y Fflint fydd y rheolwr data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych wedi'i ddarparu mewn perthynas â'r Rhaglenni Cyflogadwyedd sydd ar gael yn Sir y Fflint.  Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu i ddiffinio pa raglen gyflogadwyedd sydd fwyaf addas ar gyfer anghenion unigol.

Mae'r prosesu'n cael ei gynnal fel rhan o weinyddiaeth y Cyngor o'r rhaglenni Cymunedau am Waith + a Cysylltu â'r Gwaith ac felly mae'n seiliedig yn fwy priodol ar dasg gyhoeddus yn hytrach na chaniatâd.

Pa ddata personol y byddwn yn ei gasglu a'i brosesu

Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.

Ar gyfer y rhaglenni cyflogadwyedd hyn, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:

  • Enw(au) cyntaf
  • Cyfenw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost personol
  • Rhif ffôn
  • Rhif yswiriant gwladol yr hawlydd
  • Dyddiad geni

Efallai y bydd data arall hefyd yn cael ei gasglu ond nid yw'n cael ei nodi fel data personol o dan GDPR y DU.

Data Categori Arbennig:

  • Rhyw
  • Ydy eich hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a roddwyd i chi ar eich genedigaeth
  • Ethnigrwydd
  • Cyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar weithio
  • Statws anabledd
  • Euogfarnau troseddol a chyfyngiadau

Mae'r prosesu hwn yn cael ei gynnal o dan Erthygl 6(1)(e) Tasg Gyhoeddus a, phan fo data categori arbennig yn cael ei brosesu, amod Erthygl 9.

Ar gyfer beth fydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio eich gwybodaeth?

Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth i benderfynu ar gymhwysedd ar gyfer y rhaglen a nodi'r llwybr cymorth a'r partner cyflenwi mwyaf priodol.

Mae ein staff wedi'u hyfforddi i drin eich gwybodaeth yn gywir a diogelu eich cyfrinachedd a'ch preifatrwydd.

Gall Cyngor Sir y Fflint rannu eich data gyda:

Dim ond gyda'r asiantaethau a'r cyrff hynny sydd angen gwybod y caiff eich gwybodaeth ei rhannu.  At ddibenion y rhaglen Cysylltu â Gwaith, bydd eich data yn cael ei rannu â Strategaeth Dinas y Rhyl sef y cyflenwr a gomisiynwyd ar gyfer y rhaglen hon. Mae Strategaeth Dinas y Rhyl yn gofyn am y wybodaeth hon i wirio cymhwysedd ar gyfer y rhaglen.

Sut fydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw fy nata yn ddiogel?

Caiff y data a gesglir gan Gyngor Sir y Fflint amdanoch ei gadw ar weinyddion diogel yn y DU mewn cronfa ddata ddiogel â mynediad wedi’i reoli sy’n cael ei phrofi’n rheolaidd o ran diogelwch a chadernid.  Bydd gan Gyngor Sir y Fflint gytundeb rhannu data ffurfiol ar waith pryd bynnag y byddwn yn rhannu eich data â thrydydd parti.

Mae gan Gyngor Sir y Fflint weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod toriad wedi digwydd, bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Am ba mor hir y cedwir eich manylion

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag sy'n ofynnol gan y rhaglen rydych chi'n derbyn cymorth ganddi ac yn unol â'r gofynion cyllido perthnasol.

Os byddwch yn derbyn cymorth drwy Cymunedau am Waith a Mwy (CaW+), bydd eich cofnodion yn cael eu cadw am 6 mlynedd yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

Os byddwch yn derbyn cymorth drwy Cysylltu â Gwaith, bydd eich cofnodion yn cael eu cadw am 7 mlynedd ar ôl diwedd y rhaglen Cysylltu â Gwaith, yn unol â gofynion yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae'r cyfnodau cadw hyn yn berthnasol hyd yn oed os byddwch yn gorffen derbyn cymorth cyn i'r rhaglen berthnasol ddod i ben.  Unwaith y bydd y cyfnod cadw perthnasol wedi dod i ben, bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu neu'n cael ei gwaredu'n ddiogel yn unol â'n polisïau rheoli cofnodion.

Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â diogelu data a'ch hawliau, gallwch ymweld â'n Tudalen Diogelu Data ar wefan y Cyngor.


Eisiau gwybod mwy?

Cysylltwch â’r tîm am sgwrs anffurfiol neu i drefnu apwyntiad dros y ffôn

Ebost: cfwtriage@flintshire.gov.uk

Facebook Twitter

wglogo
Cymunedau am Waith a Mwy - Communities for Work Plus

Oes gennych chi ddiddordeb?

  • 16+ oed?
  • Ydych chi’n ddi-waith a ddim yn y coleg/prifysgol, neu oes gennych chi hysbysiad diswyddiad sydd â dyddiad penodol? 
  • Yn byw yn Sir y Fflint?
  • Yn chwilio am waith neu hyfforddiant?

Efallai eich bod yn gymwys am Gymunedau am Waith / Cysylltu â Gwaith a Mwy. Gallwch gyfeirio eich hun neu rywun arall.

Gallwch gysylltu â ni isod. 

Cysylltwch â’r tîm

Dros 2000 o bobl wedi cymryd rhan

Wedi helpu dros  550 o bobl i ddod o hyd i waith

Pa gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig?

  • Mentora un i un
  • Cymhelliant a magu hyder
  • Adnabod a chynllunio cyfeiriad ar gyfer eich llwybr gyrfaol
  • Cefnogaeth gydag ysgrifennu CV’s, llythyrau eglurhaol a llenwi ceisiadau
  • Paratoi/hyfforddiant ar gyfer cyfweliadau
  • Cyrsiau Hyfforddi
  • Gwirfoddoli
  • Dod o hyd i waith
  • Dod o hyd i brentisiaethau 

Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cais?

  • Bydd gennych gynghorydd neu fentor eich hun
  • Mi fyddan nhw’n edrych i weld pa help sydd ei angen arnoch ac yn cytuno ar y camau nesaf gyda chi
  • Gallwch benderfynu os yw Cymunedau am Waith / Cysylltu â Gwaith a Mwy ar eich cyfer chi ar ôl cyfarfod gyda’ch cynghorydd neu fentor.  Nid oes raid i chi ymuno â Chymunedau am Waith / Cysylltu â Gwaith.
  • Os byddwch yn penderfynu ymuno â Chymunedau am Waith / Cysylltu â Gwaith bydd eich mentor yn trefnu cyfarfod neu’n cysylltu â chi yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch

Astudiaeth Achos

Roedd Lisha yn 19 oed, yn byw Sir y Fflint ac yn ddi-waith ers dros ddwy flynedd. Cafodd ei chyfeirio at Gymunedau am Waith a dyrannwyd mentor iddi. Nid oedd gan Lisha lawer o brofiad gwaith yn flaenorol ac roedd ei hyder yn isel ac nid oedd yn teimlo’n gyfforddus yn mynd allan o’i hardal leol.

Gweithiodd ei mentor gyda hi i godi ei hyder a’i pharatoi at wneud cais am gyfleoedd gwaith. Ym mis Awst, cynhaliodd Sainsbury’s ymgyrch recriwtio ar gyfer gweithwyr glanhau yn yr ardal. Llwyddodd Lisha i ddod o hyd i waith ar ôl cael cefnogaeth gan ei mentor gyda sgiliau cyfweld a chasglu’r ID priodol.

Mae Lisha wedi cael dyrchafiad i Reolwr Safle yn ddiweddar ac mae bellach yn gweithio’n llawn amser ac yn chwilio am ei chartref ei hun. Dywedodd Lisha ei fod “yn mynd yn wych. Rwyf wrth fy modd yn codi i fynd i’r gwaith yn y bore a rhoi fy ngwisg ymlaen, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd.”

Dywedodd mentor Lisha, er bod ganddi ddiffyg sgiliau, dim cludiant ac ychydig iawn o brofiad gwaith blaenorol, mae’n rhoi llawer o foddhad gweld pa mor dda y mae Lisha yn ei wneud rwan.  Mae wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywyd.  Mae hi wedi gwneud yn ofnadwy o dda ac fe ddylai fod yn falch iawn o’i hun.  

Astudiaeth Achos - Case Study