Alert Section

Rhentu Cartrefi Cymru - Y wybodaeth ddiweddaraf i Denantiaid Cyngor

Yn yr wythnosau nesaf bydd holl denantiaid (Deiliaid Contract) Cyngor Sir y Fflint yn cael copi o’u Contract Meddiannaeth (eich cytundeb tenantiaeth yn flaenorol). Cadwch lygad amdano.

Nid oes angen llofnodi unrhyw beth ac nid oes angen gadael i ni wybod eich bod wedi ei gael neu anfon copi yn ôl atom.  Oes gennych chi unrhyw gwestiynau, edrychwch ar y cwestiynau cyffredin isod sydd wedi eu diweddaru. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb i’ch cwestiwn, cysylltwch â ni.

Byddwn yn cynnal mwy o sesiynau gwybodaeth yn y gymuned dros yr wythnosau nesaf a gallwch ddod i gwrdd â staff y Gwasanaeth Tai a fydd yn ateb cwestiynau am Rentu Cartrefi. Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru’n fuan gyda rhestr o leoliadau, dyddiadau ac amseroedd.  

Testun yn nodi 'Gweithio gyda'n gilydd i roi cartref diogel i bawb'

Y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yw’r newid mwyaf i’r gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau a bydd yn effeithio ar yr holl landlordiaid, asiantau a thenantiaid.

Bydd y newidiadau yn digwydd ar 1 Rhagfyr 2022 a byddant yn gwella sut rydym yn rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi rhent.

Am ragor o wybodaeth, gwyliwch y fideo hwn neu ewch i llyw.cymru/rhentu-cartrefi

Cwestiynau Cyffredin

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi dod i rym yn llawn ers 1 Rhagfyr 2022.  Dyma’r newid mwyaf i gyfraith Tai yng Nghymru ers degawdau.  Mae hyn wedi newid y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu ei eiddo, gan wella’r profiad rhentu i bawb.

Fel un o denantiaid Cyngor Sir y Fflint, mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi ac mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl a’r hyn sydd angen i chi ei wneud.  Isod, yr ydym ni wedi ateb rhai cwestiynau cyffredin ynglŷn â’r broses, ond gallwch chi hefyd gael rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Beth yw Deddf Rhentu Cartrefi Cymru?

Yn 2016 pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a’r nod oedd ei gwneud yn symlach ac yn haws i landlordiaid a thenantiaid rentu cartref yng Nghymru.

Mae’n cyflwyno newid i gyfreithiau tenantiaeth, a bydd yn berthnasol i’r sector rhentu cymdeithasol a’r sector rhentu preifat.

Mae’n amddiffyn ac yn diogelu tenantiaid yn well, ac yn gwneud eu hawliau a’u cyfrifoldebau nhw’n gliriach.

Beth sydd wedi newid?

Bydd eich cytundeb tenantiaeth chi’n newid i fod yn “gontract meddiannaeth”. Bydd hwn yn disodli eich cytundeb tenantiaeth, ond bydd llawer o’ch telerau presennol yn aros yr un peth. Bydd rhai newidiadau, a byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n rhoi gwybod i chi am y rhain.

Bydd y newidiadau yn cynnwys:

  • Gwell diogeledd o ran cyfnodau rhybudd ar gyfer meddiant
  • Gwella diogelwch eiddo
  • Dull gweithredu teg a chyson o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Cynnydd mewn hawliau olynu
  • Trefniadau mwy hyblyg ar gyfer contractau ar y cyd

Pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud i mi?

Bydd yn symleiddio a gwella hawliau tenantiaid.

Ai Cyngor Sir y Fflint fydd fy landlord o hyd?

Ie. Byddwch chi’n parhau i gael yr un gwasanaeth gennym ni. 

A fyddaf yn denant o hyd?

Gallwch chi alw’ch hun yn denant o hyd ond dan Ddeddf Rhentu Cartrefi byddwch chi’n cael eich galw’n ddeiliad contract meddiannaeth yn gyfreithiol.

A fydd angen i mi symud tŷ?

Na fydd. Nid yw eich hawl i aros yn eich eiddo wedi’i effeithio.

 A fydd yn effeithio fy rhent?

Na fydd. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich rhent, ac ni fydd unrhyw gost i chi.  Bydd rhent yn parhau i gynyddu'n flynyddol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru fel y mae ar hyn o bryd.

Mae’r cyfnod rhybudd ar gyfer codi pris rhent wedi dyblu o un mis i ddau fis ac un cynnydd yn unig y gellir ei wneud bob blwyddyn.  

A fydd yn cael effaith ar fy mudd-daliadau?

Ni fydd yn cael effaith ar eich budd-daliadau os ydych chi’n eu cael nhw.

Beth yw contract meddiannaeth?

Dyma enw newydd eich cytundeb tenantiaeth.  Mae’r datganiad ysgrifenedig yn nodi telerau eich contract. Mae hwn yn esbonio'r hyn y gallwch chi ei wneud a’r hyn na allwch chi ei wneud, a'r hyn y gallwn ni, Cyngor Sir y Fflint, fel eich landlord chi, ei wneud a’r hyn na allwn ni ei wneud.

Pryd fyddaf i’n cael fy nghontract meddiannaeth?

Bydd tenantiaid presennol yn cael y contract meddiannaeth o fewn 6 mis o 1 Rhagfyr 2022 gan ddisodli eich Cytundeb Tenantiaeth.

Ni waeth pryd y byddwch chi’n cael eich contract, bydd y Ddeddf yn berthnasol i bawb o 1 Rhagfyr 2022.

Oes angen i mi lofnodi’r contract?

Nac oes. Nid oes angen i chi lofnodi’r contract neu gysylltu â ni yn rhoi gwybod eich bod chi wedi’i dderbyn. Nid yw’r datganiad ysgrifenedig yn gontract newydd, mae’n ddatganiad ysgrifenedig o delerau ac amodau presennol eich cytundeb tenantiaeth chi, sy’n cynnwys rhai ychwanegiadau a/neu newidiadau fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud yw darllen eich contract pan fyddwch chi’n ei gael ac ymgyfarwyddo â’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ei gadw’n ddiogel er mwyn i chi allu cyfeirio ato pan fydd angen.

A fydd yn ei gwneud yn haws i chi fy nhroi allan?

Na fydd. Mae eich hawl chi i fyw yn eich cartref yn dal i fod yn un peth. Fodd bynnag, gallech chi gael eich troi allan o hyd os byddwch chi’n mynd yn groes i delerau eich contract fel ôl-ddyledion rhent difrifol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Faint o rybudd sy'n rhaid i mi ei roi i chi os ydw i am ddod â fy nhenantiaeth i ben?

Mae'n rhaid i chi roi o leiaf bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig i ni os ydych chi’n dymuno dod â'ch contract i ben. Yr un peth ag yn awr. 

A fyddaf yn gallu cael tenantiaeth ar y cyd?

Byddwch.  Mae’r gyfraith newydd yn ei gwneud yn haws ychwanegu unigolion eraill at gontract meddiannaeth neu eu tynnu oddi arno oherwydd ni fydd angen dod ag un contract i ben a dechrau un arall mwyach. 

Os ydych chi’n denant ar y cyd. Byddwch chi’n cael eich galw’n ddeiliad contract ar y cyd yn awr.

Yn ogystal â hyn, mae bellach yn llawer haws i berson dynnu ei hun o gontract, heb roi contract y person sydd ar ôl mewn perygl.  

A allaf wneud cais i drosglwyddo o hyd?

Gallwch.  Mae gan ddeiliaid contract yr hawl i drosglwyddo eu contract meddiannaeth diogel i unigolyn arall sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso. Mae'r hawl yn dibynnu ar ganiatâd gan y landlord.

Caniateir trosglwyddo mewn 2 sefyllfa:

  • Trosglwyddo i olynydd posibl 
  • Trosglwyddo i ddeiliad contract diogel arall

Beth sy'n digwydd i fy hawliau olynu?

Mae’r gyfraith newydd yn gwella eich hawliau olynu. Yn syml, mae olyniaeth yn golygu pan fyddwch chi’n marw, y gallwch chi drosglwyddo'ch cartref i aelod arall o'r teulu neu ofalwr (os ydyn nhw'n gymwys) sy'n byw yno gyda chi ar y pryd. Gellir trosglwyddo eich cartref ddwywaith ar y mwyaf – yn gyntaf i olynydd â blaenoriaeth (er enghraifft eich priod/partner) ac yna i olynydd wrth gefn (er enghraifft eich plentyn sy’n oedolyn neu ofalwr).

A fyddwch chi’n fy helpu i os oes gen i broblemau â fy nghymdogion?

Byddwn.  Byddwn ni’n parhau i’ch helpu a’ch cefnogi chi os oes gennych chi broblemau â’ch cymdogion. Bydd pob contract meddiannaeth yn cynnwys amod ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad a waherddir arall. Os bydd deiliad contract yn mynd yn groes i’r amod hwn yn y contract, gallwn ni gymryd camau gweithredu.  Mae’n ymwneud â phob ymddygiad a allai effeithio ar bobl eraill, yn cynnwys sŵn gormodol, cam-drin geiriol ac ymosodiadau corfforol. 

Ydw i’n cael gwneud gwelliannau i fy nghartref?

Mae gennych chi’r un hawliau o hyd i wneud gwelliannau i'ch cartref. Bydd yn rhaid i chi gael caniatâd yn ysgrifenedig gennym ni cyn gwneud y gwaith. Efallai y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu a chynllunio arnoch chi hefyd.

Mae'r Ddeddf Rhentu Cartrefi yn gwella cyflwr eiddo rhent. Sut fydd hyn yn digwydd?

Mae'r gyfraith newydd yn nodi bod yn rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel ac yn addas i bobl fyw ynddo. Nod y rheoliadau hyn yw sicrhau bod pob landlord yn cynnal a chadw eiddo yn briodol a’i bod yn ddiogel byw ynddynt.

Mae hyn yn cynnwys gosod larymau mwg gwifredig, synwyryddion carbon monocsid a chael profion diogelwch trydanol yn rheolaidd. 

Fodd bynnag, os oes gennych chi unrhyw bryderon am gyflwr eich eiddo, cysylltwch â ni. 

A fydd gwaith atgyweirio yn cael ei wneud o hyd?

Byddwn ni’n dal i wneud gwaith atgyweirio yr ydym ni’n gyfrifol amdano.  Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am waith atgyweirio, byddwn ni’n cadarnhau a oes modd atgyweirio, pwy sy'n gyfrifol, (mae rhai atgyweiriadau yn gyfrifoldeb ar ddeiliad y contract), ac yn cadarnhau'r amser targed ar gyfer cwblhau'r gwaith atgyweirio neu'r ymweliad cyn-arolygu.  

Bydd y gwaith atgyweirio’n cael ei gwblhau o fewn amserlen resymol, ar ôl rhoi gwybod amdano’n uniongyrchol i’n Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid (01352 701660).  Bydd y Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth apwyntiadau ar gyfer gwaith atgyweirio penodol ac yn ceisio rhoi gwybod ymlaen llaw.  Byddwn ni hefyd yn gwneud iawn am unrhyw ddifrod a gaiff ei wneud o ganlyniad i’n gwaith atgyweirio.