Alert Section

Grant Cymorth Tai - Eich Gwasanaeth, Eich Llais


Mae eich Llais yn Bwysig

Mae’r arolygon hyn i bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau digartrefedd neu gymorth tai ar draws y rhanbarth, yn cynnwys:

  • Cefnogaeth yn ôl yr Angen
  • Gwasanaethau Atal
  • Llety â Chymorth
  • Llety Dros Dro 

Mae arnom eisiau deall profiadau pobl yn well fel y gallwn wella gwasanaethau, cynllunio cymorth yn well a deall pa help sydd ei angen yn y dyfodol.

Nid oes angen i chi roi eich enw nag unrhyw fanylion personol. 

Dim ond i helpu i wella gwasanaethau ac at ddibenion cynllunio ac adrodd fydd eich adborth yn cael ei ddefnyddio gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd unrhyw wybodaeth a ddefnyddir mewn adroddiadau yn ddienw. 

Eich dewis chi yw cymryd rhan neu beidio ac ni fydd eich atebion yn effeithio ar unrhyw gymorth a gewch.

I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth, gweler hysbysiad polisi’r Cyngor:  Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir y Fflint 

Yn yr holiadur, byddwch yn gweld termau fel ‘llety dros dro’, ‘llety argyfwng’, ‘tŷ amlfeddiannaeth’, ‘llety â chymorth tymor byr’, ‘atal cynnar’ a ‘chefnogaeth yn ôl yr angen’.

Darllenwch y diffiniadau isod cyn ateb yr holiadur.

Mae Llety Dros Dro yn llety a ddarperir i unigolion neu aelwydydd sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, tra bod datrysiad mwy parhaol yn cael ei drefnu. At ddiben yr holiadur hwn, mae ‘llety dros dro’ yn cyfeirio at unedau ar brydles hirdymor sydd fel arfer yn hunangynhwysol ac wedi’u dodrefnu’n llawn.  

Mae Llety Argyfwng yn fath arall o lety a ddarperir i unigolion neu aelwydydd sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, tra bod datrysiad mwy parhaol yn cael ei drefnu. Fel arfer, nid yw’r rhain yn llety hunangynhwysol ac mae’n bosibl y bydd unigolion neu aelwydydd yn rhannu rhai cyfleusterau megis cegin a/neu gyfleusterau ymolchi/toiled.  Fel arfer, mannau fel llety Gwely a Brecwast, Gwesty, Tŷ Amlfeddiannaeth ac ati.  

Tŷ amlfeddiannaeth - ystyrir bod eiddo’n dŷ amlfeddiannaeth os yw’n bodloni unrhyw un o’r canlynol: Mae tri neu fwy o bobl nad ydynt o’r un aelwyd yn byw yno a/neu mae’r preswylwyr hyn yn rhannu amwynderau sylfaenol megis cegin, ystafell ymolchi neu doiled. Gall yr eiddo fod yn dŷ neu fflat.  

Llety â Chymorth Dros Dro - tai â chymorth yw pan fo pobl yn byw mewn eiddo dynodedig fel deiliaid contract ond hefyd yn cael rhywfaint o gefnogaeth i fyw yno. Gall byw mewn tai â chymorth olygu byw mewn fflat ar eich pen eich hun, byw mewn tŷ a rennir, neu fyw mewn rhwydwaith o fflatiau megis hostel neu loches lle mae pawb yn cael cefnogaeth. Nid yw’r llety’n barhaol. Mae’n darparu llety tymor byr wrth i’r unigolion neu deuluoedd gael eu cefnogi i ganfod a symud i dai sefydlog hirdymor.

Mae atal yn gynnar mewn perthynas â chymorth tai yn golygu gweithredu ar y cam cynharaf i atal problemau tai rhag gwaethygu i ddigartrefedd neu argyfwng. Mae’n canolbwyntio ar adnabod risgiau, cynnig cyngor amserol, a darparu cymorth ymarferol er mwyn i bobl allu aros mewn cartrefi diogel.

Mae cefnogaeth yn ôl yr angen yn fath o gefnogaeth hyblyg yn gysylltiedig â thai ar gyfer unigolion dros 16 oed, er mwyn iddynt allu cael mynediad at eu llety eu hunain, ei gynnal a’i reoli. Gellir darparu’r gefnogaeth hon ar draws pob math o ddeiliadaeth tai, ac felly gallwch dderbyn y gefnogaeth os ydych yn byw mewn llety sy’n eiddo i’r Cyngor neu Gymdeithas Tai, neu os ydych yn rhentu gan landlord preifat, neu os ydych yn berchennog tŷ ac angen cefnogaeth i fyw mor annibynnol â phosibl yn y mathau hyn o eiddo. Gellir hefyd darparu’r gefnogaeth hon tra bod unigolyn neu aelwyd mewn llety dros dro neu frys ac yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, er mwyn eu cefnogi wrth chwilio am ddatrysiad mwy parhaol.

Isod, mae pum dolen gyswllt at bum arolwg gwahanol.    

I roi eich barn, cliciwch ar y ddolen ar gyfer yr arolwg sy’n cyd-fynd orau â’ch sefyllfa bresennol.