Alert Section

Safonau Isafswm Tai Amlfeddiannaeth (HMO).


Coronafeirws (COVID-19): canllawiau i landlordiaid ac asiantau rheoli yn y sector rhentu preifat:
https://llyw.cymru/coronafeirws-covid-19-canllawiau-i-landlordiaid-ac-asiantau-rheoli-yn-y-sector-rhentu-preifat


Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth?

O dan Ddeddf Tai 2004, mewn telerau syml, Tŷ Amlfeddiannaeth yw:

  • Tŷ cyfan neu fflat sy’n cael ei feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac sy'n rhannu cegin, ystafell ymolchi a thoiled.
  • Tŷ sydd wedi’i droi’n fflatiau un ystafell neu lety arall heb fod yn hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac sy'n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.
  • Tŷ wedi’i addasu sy'n cynnwys un fflat neu fwy heb fod yn gwbl hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy.
  • Adeilad sydd wedi’i droi yn gyfan gwbl yn fflatiau hunangynhwysol lle mae llai na dwy ran o dair wedi’i feddiannu gan y perchennog a lle nad oedd yr addasiad yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 1991.
  • Llywodraethu ystyr HMO (cyswllt allanol).

Trwyddedu Gorfodol

Dan Ddeddf Tai 2004 mae trwyddedu rhai mathau penodol o Dai Amlfeddiannaeth yn orfodol.

Yn gyffredinol bydd angen trwydded orfodol ar gyfer HMO:

  • Os yw’n cael ei rannu gan bump o bobl neu fwy
  • Os oes ganddo dri llawr neu fwy (gan gynnwys isloriau, atigau ac unedau masnachol)

Rheoliadau Rheoli


Categori A1 Fflatiau un Ystafell

Mae ‘fflatiau un ystafell’ er dibenion y safonau hyn, yn golygu tai amlfeddiannaeth sy’n cynnwys nifer o osodiadau fflatiau un ystafell ar wahân nad ydynt yn hunangynhwysol. Mae cyfleusterau coginio a pharatoi bwyd yn cael eu darparu o fewn yr unedau unigol o lety, erefallai y bydd rhai preswylwyr yn rhannu cegin gymunedol, a bydd toiledau a chyfleusterau ymolchi'n cael eu rhannu. Bydd pob fflat un ystafell yn cael eu gosod i unigolion ar wahân neu gyplau gyda’r preswylydd (preswylwyr) yn byw’n annibynnol o’r unigolion eraill.

Y Safonau

Categori A2 Tai Amlfeddiannaeth Math Eiddo un Ystafell

Mae ‘Tai Amlfeddiannaeth Math Eiddo Un Ystafell" yn golygu, i ddibenion y safonau hyn, Tai Amlfeddiannaeth sy’n cynnwys nifer o ystafelloedd unigol sy’n cael eu rhentu nad ydyntyn hunangynhwysol lle y darperir cegin sy’n cael ei rhannu. Nid oes modd coginio yn yrystafelloedd gosod unigol. Efallai y bydd ystafell fyw gymunedol yn cael ei darparu. Felarfer mae tenantiaethau unigol yn hytrach nag un denantiaeth ar y cyd. Bydd clo arddrysau'r ystafelloedd gwely fel arfer. I ddechrau, efallai y bydd ychydig iawn neu dimrhyngweithio cymdeithasol ymysg y preswylwyr ond efallai y gall hyn newid dros amser.

Y Safonau

Categori B Tai a Rennir

Mae ‘Tai a Rennir’ yn golygu, at ddibenion y safon hon, HMOs lle mae'r eiddocyfan wedi cael ei osod ar rent gan grŵp adnabyddadwy o rannwyr megismyfyrwyr, cydweithwyr neu ffrindiau fel cyd-denantiaid. Fel arfer, mae gan bobpreswylydd ei ystafell wely ei hun, ond maent yn rhannu'r gegin, cyfleusteraubwyta, ystafell ymolchi, toiled, ystafell fyw a phob rhan arall o'r tŷ.

Y Safonau

Categori F Fflatiau Hunangynhwysol

Mae “Fflatiau Hunangynhwysol” yn golygu, at ddibenion y safon hwn, tai neu adeiladausydd wedi eu hadeiladu fel neu wedi eu trosi’n gyfan gwbl yn fflatiau hunangynhwysol,hyd yn oed os yw cyfleusterau penodol wedi cael eu lleoli y tu allan i brif ddrws y fflat.

Y Safonau