Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth
Crynodeb o’r drwydded 
Os ydych chi’n rhentu eiddo fel tŷ amlbreswyliaeth efallai y bydd arnoch angen trwydded gan eich awdurdod lleol. 
Meini prawf cymhwysedd 
Rhaid cyflwyno cais i’r awdurdod tai lleol. 
Gellir codi ffi. 
Mae’n rhaid i chi fod yn unigolyn priodol a chymwys i feddu ar drwydded o’r fath.
Crynodeb o’r Rheoliadau
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd)
Proses Gwerthuso Cais 
Rhoir trwydded os:
- Ydy’r eiddo yn addas neu y gellid ei wneud yn addas i nifer o bobl fyw ynddo 
 
- Ydy’r ymgeisydd yn unigolyn priodol a chymwys a’r unigolion mwyaf priodol i ddal y drwydded 
 
- Ydy’r rheolwr arfaethedig yn rheoli’r tŷ, ac yn unigolyn priodol a chymwys i weithredu fel rheolwr
 
- Ydy’r trefniadau rheoli yn foddhaol  
 
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 
Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 
Gwneud cais ar-lein 
Cais am drwydded tŷ amlbreswyliaeth (PDF)
Cais i newid trwydded tŷ amlbreswyliaeth (ffenestr newydd)
Gwneud iawn am gais a fethodd 
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Cewch gyflwyno apêl i dribiwnlys eiddo preswyl. 
Rhaid cyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod o wneud y penderfyniad. 
Gwneud iawn i’r Deilydd Trwydded 
Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.
Cewch gyflwyno apêl i dribiwnlys eiddo preswyl ynghylch amodau a roddwyd ar drwydded, neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddiddymu trwydded. 
Rhaid cyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod o wneud y penderfyniad. 
Cwyn gan ddefnyddiwr 
Os rhoir trwydded a’ch bod chi’n dymuno gwneud apêl yn erbyn cyflwyno’r drwydded cewch wneud hynny i dribiwnlys eiddo preswyl cyn pen 28 diwrnod o wneud y penderfyniad.  
Manylion cyswllt
Llythyrau: Rheoli Amgylcheddol, Cyngor Sir y Fflint, Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF
Rhif ffôn: 01352 703440
E-Bost: ppadmin@flintshire.gov.uk
Cymdeithasau / Mudiadau’r Diwydiant 
British Property Federation (BPF) (ffenestr newydd)
National Federation of Property Professionals (ffenestr newydd)
Mewn partneriaeth â EUGO