Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i ddynodi’n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer Sir y Fflint.
Fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, mae gan Gyngor Sir y Fflint amrywiaeth o bwerau rheoleiddiol a chaniataol o ran rheoli risg llifogydd, a chyfrifoldeb dros reoli risg llifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau a phobl eraill hefyd i reoli risg llifogydd o bob ffynhonnell ar draws Sir y Fflint.
Fel corff rheoleiddio (Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol), mae dyletswydd arnom i reoli risg llifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin. Mae cwrs dŵr cyffredin yn golygu unrhyw gwrs dŵr nad yw’n brif afon a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys:
- cydlynu gwaith rheoli risg llifogydd o’r ffynonellau hyn ar draws Sir y Fflint, gan ddod â’r holl fudd-ddeiliaid perthnasol at ei gilydd
- rhoi caniatâd neu fel arall ar gyfer ceisiadau am unrhyw waith sy’n agos at gyrsiau dŵr cyffredin neu a allai effeithio ar lif y cyrsiau dŵr hyn (caniatâd draenio tir)
- gweithredu fel ymgynghorai statudol ar gynigion draenio dŵr wyneb ar gyfer ceisiadau cynllunio
- cofnodi ac ymchwilio unrhyw lifogydd sylweddol
- creu a chynnal cofrestr o asedau risg llifogydd
Er mwyn mynd i’r afael â risg llifogydd mewn modd integredig ar draws y rhanbarth, rydym yn aelod o grŵp Rheoli Risg Llifogydd Gogledd Cymru sy’n cynnwys 6 awdurdod lleol a budd-ddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ac unigolion sy’n gyfrifol am reoli risg llifogydd o ffynonellau eraill, gan gynnwys ffynonellau trawsffiniol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae’r Awdurdod Rheoli Risg sy’n gyfrifol am reoli materion llifogydd yn wahanol gan ddibynnu ar ffynhonnell y llifogydd. Gweler ein dogfen ‘Llifogydd a Draenio’ a luniwyd gan yr Awdurdod Priffyrdd i weld manylion penodol ond yn fyr:
Llifogydd o brif gyflenwad
Rhowch wybod i naill ai Dŵr Cymru neu Hafren Dyfrdwy. Gwiriwch eich bil dŵr i weld pwy yw eich cyflenwr.
Llifogydd draeniau a charthffosydd
Cyfrifoldeb perchennog yr eiddo yw llifogydd o ddraeniau preifat.
Dylid rhoi gwybod i Dŵr Cymru am lifogydd o garthffosydd preifat, sef systemau sy’n cario carthion a/neu ddŵr wyneb ffo o fwy nag un eiddo.
Dylid rhoi gwybod i Dŵr Cymru am lifogydd o garthffosydd cyhoeddus.
Llifogydd prif afonydd ac arfordirol
Dylid rhoi gwybod i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) trwy gysylltu â Floodline ar 03000 65 3000; llinell gyngor 24 awr.
Llifogydd priffyrdd
Cysylltwch ag adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint ar 01352 701234.
Cyrsiau dŵr cyffredin
Cyfrifoldeb perchnogion glannau’r afon yw cyrsiau dŵr cyffredin (e.e. nentydd neu ffosydd).
Gall Cyngor Sir y Fflint, wrth weithredu fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, helpu i ymchwilio i faterion ac mae ganddo bwerau i sicrhau nad oes rhwystrau i lif y cwrs dŵr.
Dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr mae gofyn i Gyngor Sir y Fflint, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ddatblygu, cynnal, gweithredu a monitro strategaeth ar gyfer rheoli risg llifogydd lleol (Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd). Yn y Ddeddf, caiff risg llifogydd lleol ei diffinio fel risg llifogydd o ddŵr wyneb ffo, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw llifogydd o brif afonydd.
Mae’r strategaeth leol yn nodi dull trosfwaol y Cyngor o reoli risg llifogydd lleol yn Sir y Fflint. Mae hefyd yn nodi pa brif risgiau sy’n bodoli mewn cymunedau, y prif Awdurdodau Rheoli Risg, gan gynnwys eu cyfrifoldebau dros risg llifogydd, a beth all cymunedau ei wneud drostynt eu hunain.
Cyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ei Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd gyntaf yn 2013 ac mae wrthi’n diweddaru’r strategaeth hon er mwyn alinio â’r Strategaeth Genedlaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020.
Cyfeiriwch at yr adran dogfennau defnyddiol i weld y strategaeth bresennol.
Mae dyletswydd ar Gyngor Sir y Fflint dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr i gadw cofrestr o strwythurau a nodweddion (asedau) sy’n cael effaith sylweddol ar risg llifogydd yn ei ardal.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Rheoli Risg Llifogydd.
Os ydych chi’n bwriadu gwneud gwaith mewn cwrs dŵr neu gerllaw, mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cwrs dŵr cyffredin arnoch gan Gyngor Sir y Fflint, sy’n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys adeiladu unrhyw strwythur (hyd yn oed un dros dro), neu blannu coed neu lwyni mewn cwrs dŵr arferol neu gerllaw yn Sir y Fflint.
Hyd yn oed os oes gennych chi ganiatâd cynllunio neu gydsyniad arall, mae’n bosib y bydd angen caniatâd gennym ni ar gyfer gwaith ar gyrsiau dŵr cyffredin neu gerllaw.
Dan Ddeddf Draenio Tir 1991, Adran 23, mae angen caniatâd gan Gyngor Sir y Fflint fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer codi neu addasu unrhyw argae melin, ceuffos, cored neu rwystr tebyg i lif cwrs dŵr cyffredin.
Mae mwy o wybodaeth amdanynt ar gael ar ein tudalen Caniatâd Draenio Tir.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i ddynodi fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer Sir y Fflint ond mae hyn ar wahân i’w ddyletswyddau fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol.
I gael mwy o fanylion am Systemau Draenio Cynaliadwy, ewch i’n tudalen Systemau Draenio Cynaliadwy.
Gall draenio tir fod yn faes cyfrifoldeb cymhleth, ond yn fyr, fe’ch ystyrir yn ‘berchennog glannau'r afon’ os ydych chi’n berchen ar dir y mae cwrs dŵr yn llifo trwy, o dan neu’n gyfagos i ffin eich tir. Mae cyrsiau dŵr yn cynnwys pob afon, nant, ffos, draen, ffrwd, ceuffos (rhannau â phibellau), llifddor a sianel y mae dŵr yn llifo drwyddynt.
Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael mwy o fanylion.
Mae llifogydd yn broses naturiol a bydd afonydd yn gorlifo’n naturiol i’w gorlifdiroedd yn ystod cyfnodau o law estynedig neu drwm. Mae llifogydd yn achosi perygl pan fydd llifddwr yn rhannu’r un lle â phobl ac eiddo.
Os ydych chi’n prynu tŷ, rhoi estyniad ar eich cartref neu’n paratoi cais cynllunio, gwiriwch eich risg llifogydd gan ddefnyddio mapiau llifogydd CNC. Cofiwch wirio’r risg llifogydd o afonydd neu’r môr a’r risg llifogydd o ddŵr wyneb er mwyn cael darlun llawn o’r risg yn eich lleoliad.
Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae risg llifogydd, mae angen i chi ddeall y risg honno a chynllunio ar gyfer llifogydd. Dylech fod â chynllun gweithredu yn barod rhag ofn i lifogydd ddigwydd a sicrhau bod gennych yswiriant cywir ar gyfer eich eiddo, a mesurau ar waith ar gyfer amddiffyniad a gwrthsefyll llifogydd.
Gweler ein tudalen Llifogydd a luniwyd gan ein tîm cynllunio rhag argyfwng i gael mwy o fanylion.