Strategaeth Leol Sir y Fflint ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd
Dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae’n rhaid i bob cyngor sy’n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol gael Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd. Nid yw’r strategaeth yn dyblygu na disodli’r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i llunio, sydd i’w gweld ar www.llyw.cymru.
Mae’r Strategaeth hon yn egluro sut y bydd Cyngor Sir y Fflint, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Awdurdod Arweiniol Llifogydd Lleol Sir y Fflint, a’r awdurdodau sy’n bartneriaid iddo’n cydweithio i reoli risg llifogydd. Gellir gweld y Strategaeth gyfredol yn yr adran Dogfennau Defnyddiol ar y dudalen hon.
Mae’r Strategaeth yn ein helpu i ganfod risgiau llifogydd sy’n deillio o’r ffynonellau canlynol:
- dŵr wyneb wedi glaw trwm
- dŵr daear
- cyrsiau dŵr cyffredin fel nentydd a ffosydd
- ac adnabod y cymunedau ble mae’r risgiau mwyaf o lifogydd gyda’r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl. Gwneir hyn ar sail modelau llifogydd cenedlaethol.
Rydym hefyd yn ymchwilio i lifogydd lleol wedi iddynt ddigwydd. Mae canlyniadau’r ymchwiliadau hynny’n ein helpu i benderfynu a ddylid rhoi blaenoriaeth i weithredu mewn ardaloedd penodol.
Cyfunir yr holl wybodaeth yng Nghynllun Gweithredu’r Strategaeth. Diwygir y cynllun bob blwyddyn ac mae’n dangos y cynnydd a wnaed yn y deuddeg mis diwethaf. Gellir gweld Cynllun Gweithredu’r Strategaeth gyfredol yn yr adran Dogfennau Defnyddiol ar y dudalen hon.
Cynlluniau Lliniaru ar Lifogydd yn Sir y Fflint
Nid yw Cyngor Sir y Fflint yn cael cyllid penodol bob blwyddyn i adeiladu adnoddau lliniaru ar lifogydd. Yn lle hynny, mae’n rhaid inni ymgeisio am gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi rhestr o’r holl gyllid a ddyrennir drwy’r rhaglen ar ei wefan bob blwyddyn (www.llyw.cymru). Ar y rhestr, fe welwch yr holl brosiectau yn Sir y Fflint y dyrannwyd cyllid iddynt yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Dyma sut mae’r drefn gyllido’n gweithio:
- Ceisiadau blynyddol:
Ymgeisiwn am gyllid bob blwyddyn ar gyfer prosiectau penodol i reoli risg llifogydd.
- Cymeradwyo:
Adolygir pob cais ac mae’n rhaid i Weinidog Llywodraeth Cymru roi sêl bendith arno.
- Rhannu costau:
Mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn talu 85% o gostau cynlluniau a gymeradwywyd. Y Cyngor sy’n talu’r 15% sy’n weddill ac yn aml yn benthyca arian ar gyfer hynny.
Defnyddiwn wahanol ddulliau i leihau risg llifogydd, gan ddibynnu ar anghenion lleol
- Gwaith strwythurol
Adnoddau ffisegol fel muriau llifogydd, argloddiau a gwella ceuffosydd a systemau draenio.
- Rheoli Llifogydd yn Naturiol
Dulliau naturiol fel argaeau rhidyllog a chreu gwlyptiroedd, sy’n helpu i arafu llif dŵr a lleihau llifogydd.
- Gwaith Graddfa Fach
Mae grant ar gyfer gwaith graddfa fach yn ein galluogi i drwsio mân asedau sy’n gysylltiedig â llifogydd lleol nad ydynt yn gymwys ar gyfer rhaglenni cyllido mwy sylweddol.
- Rheoli risg llifogydd arfordirol
Ar hyd yr arfordir, mae cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer amddiffynfeydd mawr rhag y môr a chynlluniau i amddiffyn yr arfordir.
Sut cyflawnir cynlluniau llifogydd
Unwaith y cymeradwyir y cyllid, mae cynlluniau llifogydd yn mynd rhagddynt mewn amryw gamau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymeradwyo pob cam.
Mae’r camau hyn yn cynnwys:
- Llunio achos busnes:
Rydym yn asesu’r costau, buddion, lleihad risg llifogydd a’r effaith ar yr amgylchedd.
- Dylunio a chaniatâd:
Rydym yn llunio dyluniadau manwl ac yn ymgeisio am ganiatâd cynllunio a chydsyniad amgylcheddol.
- Adeiladu:
Contractwyr neu dimau’r Cyngor sy’n cyflawni’r gwaith.
- Yr amser y mae’r cynlluniau’n eu cymryd:
Mae’n cymryd amser i gynllunio dulliau lliniaru ar lifogydd a’u rhoi ar waith. Mae’n rhaid modelu llifogydd yn fanwl, cynnal asesiadau amgylcheddol, ymgynghori â’r cyhoedd, cael cymeradwyaeth o gyllid bob blwyddyn, trafod â pherchnogion tir, cael amryw fathau o ganiatâd cyfreithiol ac ymgymryd â gwaith adeiladu. Felly, mae hyd yn oed mân gynlluniau llifogydd yn aml yn cymryd rhwng pump a deng mlynedd o’r cychwyn i’r diwedd. Gall cynlluniau mawr a chymhleth gymryd yn hwy na hynny.