(Gan gynnwys y palmant, ffyrdd cyhoeddus, cafnau, gratiau, draeniau priffyrdd neu ffosydd wedi’u blocio)
Rydym ni’n archwilio a chynnal y systemau draeniau priffyrdd uchod yn rheolaidd, gan gynnwys dyfrffosydd cwlfer (dyfais sy’n cael ei ddefnyddio i sianelu dŵr) a gorsafoedd pwmpio cysylltiedig i sicrhau eu bod nhw’n gwaredu dŵr yn effeithlon. Rydym yn clirio ac yn glanhau pob cafn yn Sir y Fflint yn flynyddol. Byddwn yn ymweld ag ardaloedd penodol yn fwy rheolaidd oherwydd galw lleol neu yn ystod cyfnodau lle mae nifer fawr o ddail yn cwympo.
Adrodd llifogydd ar y briffordd
Fel arall:
Beth sy’n digwydd nesaf?
Caiff eich adroddiad ei anfon at ein tîm Gwasanaethau Stryd. Os ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost byddwch yn derbyn neges gydnabod gyda’ch cyfeirnod ac yna diweddariad o gynnydd yn nes ymlaen. Os nad ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost gallwch gysylltu â gwasanaethaustryd@siryfflint.gov.uk am ddiweddariad.
Yn ddibynnol ar ddifrifoldeb y sefyllfa, byddwn yn ymateb i adroddiadau llifogydd o fewn 2-24 awr. Os yw llifogydd yn digwydd yn aml, byddwn yn adolygu’r sefyllfa ac yn newid y system ddraenio neu arwyneb y ffordd os oes angen.