Alert Section

Hawlfraint


Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus SI 2005 Rhif 1515
(ar gael yn )
www.opsi.gov.uk

Y bwriad efo’r offeryn statudol Ailddefnyddio ydi annog defnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus, gan symbylu datblygu cynhyrchion yn ymwneud efo gwybodaeth, sy’n defnyddio syniadau newydd. Mae’r rheoliad yn darparu fframwaith cyson ar gyfer mynediad at wybodaeth sector cyhoeddus.

Nid ydi cael mynediad at wybodaeth yn golygu fod hawl awtomatig i’w defnyddio. Gall gwybodaeth barhau i fod o dan hawlfraint, ac efallai bydd angen trwydded i gael ei defnyddio. I wybodaeth fod ar gael i’w hailddefnyddio, rhaid bod modd cael mynediad ati, trwy ddeddfwriaeth fel y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Ddeddf Gwybodaeth Amgylcheddol, neu raid iddi fod ar gael yn rhwydd yn barod.

Yn unol efo egwyddorion yr offeryn statudol, mae’n nod gan Gyngor Sir y Fflint fod yn:

  1. Penderfynu beth ydi’r prif ddosbarthau o wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd i’w hailddefnyddio
  2. Pennu’n eglur pa daliadau sydd i gael eu gwneud am ailddefnyddio (gellir cael eglurhad llawn o’r sail ar gyfer codi tâl os bydd angen)
  3. Trin yr holl geisiadau mewn ffordd deg, gyson a heb wahaniaethu, ac ystyried anghenion defnyddwyr efo anableddau
  4. Prosesu pob cais am ailddefnyddio yn brydlon, yn agored ac yn eglur (yn dryloyw)
  5. Darparu trefn gwyno gyflym sy’n hawdd cael mynediad ati


Ceisiadau i Ailddefnyddio

  1. Os byddwch eisiau ailddefnyddio gwybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda efo’r Rheolwr Cofnodion, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6NB, neu RheolaethCofnodion@siryfflint.gov.uk
  2. Dylai ceisiadau fod mewn ysgrifen, a byddwn yn eu cymryd trwy e-bost, ffacs neu lythyr
  3. Os gwelwch yn dda, a wnewch gadarnhau eich enw, cyfeiriad, a sut rydych eisiau ailddefnyddio’r wybodaeth a phwy ydi’r gynulleidfa y bwriedir ei chyrraedd, er mwyn gallu ystyried eich cais
  4. Bydd y Rheolwr Cofnodion yn cysylltu efo’r swyddogion priodol ac yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, ond os ydi’r cais yn ymwneud efo gwybodaeth addysg gall yr ymateb gymryd 20 diwrnod tymor ysgol
  5. Lle bo hynny’n briodol, bydd trwydded i ailddefnyddio’r wybodaeth (sy’n ddilys am 5 mlynedd) yn cael ei darparu a lle bo’n briodol bydd cost safonol yn cael defnyddio. Ar hyn o bryd, y gost ymylol ydi £50.

Cofrestr Asedau Gwybodaeth

Mae cofrestr asedau gwybodaeth yn rhestr o’r prif ddosbarthau o wybodaeth sydd ar gael i’w hailddefnyddio, a bydd yn cynnwys data fel: awdur; cynnwys; ffurf; cyhoeddwr. Mae Cofrestr Asedau Gwybodaeth Cyngor Sir y Fflint yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae Cynllun Cyhoeddi Sir y Fflint yn rhestr o’r wybodaeth sydd wedi cael ei chyhoeddi’n barod ac ar gael. Gellir cael gwybodaeth arall drwy wneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Ddeddf Gwybodaeth Amgylcheddol [ond nid ydi hyn yn rhoi’r hawl i chi ailddefnyddio’r wybodaeth] ac efallai bydd angen talu taliadau eraill ar wahân.

Cliciwch yma i weld Canllaw Cyngor Sir y Fflint i Wybodaeth

Cliciwch yma i weld Copyright-Complaints--Cymraeg