Alert Section

Pa gefnogaeth fyddaf yn ei derbyn fel Cynghorydd Sir?


Tâl

Mae gan Gynghorwyr hawl i dderbyn cyflog am eu hymrwymiad a’u cyfraniad i’r gymuned leol. 

Mae pob Cynghorydd yn derbyn cyflog sylfaenol. Yn 2021/22 roedd yn £14,368.  Mae gan Gynghorwyr hefyd hawl i lwfansau teithio. Gallwch hefyd hawlio eich cyflog tra’n cymryd absenoldeb teulu fel absenoldeb rhiant. Gellir hefyd hawlio ad-daliad costau gofal tra’n ymgymryd â’ch dyletswyddau fel Cynghorydd. 

Bydd y Cynghorwyr hynny sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol fel bod yn aelod o’r cabinet, cadeirydd pwyllgor neu arweinydd eu grŵp gwleidyddol yn derbyn taliad ychwanegol. Mae hwn yn cael ei alw yn gyflog uwch swyddog ac mae’n cael ei gyfrifo yn seiliedig ar faint y Cyngor. Nid yw Cynghorwyr yn gosod eu cyflogau eu hunain, mae’r fframwaith ar gyfer cyflogau Cynghorwyr yn cael ei osod gan gorff a elwir yn Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Mae gan Gynghorwyr hefyd fynediad i’r cynllun pensiwn llywodraeth leol.

Dysgu a Datblygu

Bydd pob Cyngor yn cynnal rhaglen gyfeiriadedd i aelodau newydd i ddangos ble a phwy yw pawb, gyda rhaglen gynefino i ddilyn i’ch helpu i ddeall eich rôl, gweithdrefnau’r Cyngor a’r sgiliau ymarferol rydych eu hangen. Darperir hyfforddiant parhaus yn ôl yr hyn rydych ei angen.

Bydd manylion ar y rhaglen gynefino ar gyfer 2022 ar gael yn fuan.

Rhwydweithio 

Fel Cynghorydd byddwch yn cyfarfod ac yn gweithio gydag ystod eang o bobl o wahanol gefndiroedd yn edrych ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru. Mae detholiad o’r bobl fyddwch yn eu cyfarfod yn gallu cynnwys:

Preswylwyr / Pleidleiswyr

Fel rhan o’ch ymgyrch etholiad byddwch yn cwrdd ac yn siarad gyda llawer o breswylwyr i’w perswadio i bleidleisio drosoch chi. Byddwch yn dysgu am beth sy’n bwysig iddyn nhw, pa newidiadau maent yn dymuno eu gweld yn yr ardal a pha gefnogaeth gallwch ei rhoi iddynt i gyflawni newid. 

Cynghorwyr eraill

Byddwch yn cyfarfod ystod eang o Gynghorwyr yn eich rôl. Bydd yna 67 o Gynghorwyr Sir eraill yn cynrychioli Sir y Fflint, i gyd yn cynrychioli syniadau gwleidyddol gwahanol. Byddwch hefyd yn cyfarfod Cynghorwyr Sir o awdurdodau lleol eraill pan fyddwch yn cynrychioli’r Sir ar gyrff allanol a rhanbarthol. Bydd yna hefyd angen gweithio gyda Chynghorwyr Tref a Chymuned sydd o fewn yr ardal rydych yn ei chynrychioli. 

Swyddogion

I weld newidiadau a wnaed i wasanaethau byddwch angen gweithio gydag ystod eang o swyddogion o’r Cyngor sydd â chyfrifoldeb am y meysydd gwasanaeth hynny.  Mae’r rhain yn gallu cynnwys priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, goleuadau stryd a chynllunio. 

Sefydliadau Allanol

Yn eich rôl fel Cynghorydd byddwch yn gweithio gyda nifer o sefydliadau lleol sy’n chwilio am gymorth. Mae’n bosibl y byddwch yn edrych ar godi ymwybyddiaeth o’r sefydliadau hyn a’u hybu ymysg preswylwyr neu’n gweithredu rhyngddynt a’r Cyngor ac yn creu cysylltiadau i wella gwasanaethau lleol. Mae’n bosibl y byddwch yn gweithio gyda nifer o gyrff rhanbarthol hefyd.