Alert Section

Cofrestru i Bleidleisio


I bleidleisio mewn etholiadau lleol neu genedlaethol, rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol. Dyma restr o enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych chi ar y gofrestr, ni allwch bleidleisio. Nid ydych wedi’ch cofrestru’n awtomatig i bleidleisio, hyd yn oed os ydych yn talu’r dreth gyngor, felly mae’n bwysig cofrestru.

Etholiadau Cyngor Sir y Fflint a Thref a Chymuned – dydd Iau, 5 Mai 2022

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru pleidleiswyr – 11:59pm ddydd Iau 14 Ebrill 2022

  • Os ydych chi eisoes wedi cofrestru i bleidleisio yn eich eiddo a heb symud ers hynny, nid oes angen i chi ailgofrestru i bleidleisio
  • Os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar a heb gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, rhaid i chi wneud hynny erbyn 11:59pm ddydd Iau 14 Ebrill 2022.
  • Peidiwch ag anghofio y gall pobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor bellach bleidleisio yn etholiadau’r Cynghorau Lleol am y tro cyntaf.
  • Cofrestrwch erbyn dydd Iau 14 Ebrill 2022 neu ni fyddwch yn gallu pleidleisio ddydd Iau 5 Mai 2022.
  • Mae'n cymryd llai na thri munud i gofrestru ar-lein. Byddai’n help i gael eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law, mae i’w weld ar eich slip cyflog, P60, neu lythyrau am dreth, pensiynau a budd-daliadau.

Sut ydw i'n cofrestru?

Gallwch gofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn hawdd ar-lein.  Bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a'ch rhif Yswiriant Gwladol (YG) (os ydych yn 16 oed a throsodd).  Os nad ydych yn gwybod beth yw eich rhif Yswiriant Gwladol, cysylltwch â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Cofrestrwch i bleidleisio ar-lein

Gall pleidleiswyr hefyd gofrestru drwy ffonio 01352 702300

Pwy all gofrestru?

  • yn 14 oed neu'n hŷn (ond ni allwch bleidleisio nes eich bod yn 16 oed mewn etholiadau Senedd a Llywodraeth Leol, ac 18 oed mewn etholiadau eraill)
  • yn ddinesydd Prydeinig
  • yn ddinesydd Gwyddelig neu'r UE sy’n byw yn y DU
  • yn ddinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu sydd ddim angen caniatâd
  • yn ddinesydd gwlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu sydd ddim angen caniatâd 

O dan y ddeddfwriaeth gyfredol, nid yw priodas â dinesydd Prydeinig neu grant preswylio parhaol yn y DU yn rhoi dinasyddiaeth Brydeinig i chi, ac nid yw’n rhoi’r hawl i chi bleidleisio yn etholiadau’r DU.