Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae’r cyfnod tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd bellach ar agor ar gyfer 2026

Published: 19/01/2026

 Mae preswylwyr yn cael eu hannog i gofrestru neu adnewyddu eu tanysgrifiad gwastraff gardd ar gyfer 2026, gyda gwasanaeth ehangach a fydd yn darparu casgliadau drwy gydol y flwyddyn am y tro cyntaf.

Ochr yn ochr â’r casgliadau arferol bob pythefnos am naw mis o’r flwyddyn, bydd y gwasanaeth yn awr yn cynnwys casgliadau misol ym mis Rhagfyr 2026, mis Ionawr 2027 a mis Chwefror 2027.Garden Waste.jpg

Cost flynyddol y tanysgrifiad gwastraff gardd ar gyfer 2026 yw £38 (beth bynnag fo dyddiad y taliad). Gallwch dalu:

·       Ar-lein

·       Yn un o swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu

·       Dros y ffôn: 01352 701234

Bydd casgliadau gwastraff gardd yn ailgychwyn ddydd Llun, 2 Mawrth 2026.

Anogir preswylwyr sydd eisiau elwa o’r gwasanaeth i gofrestru neu adnewyddu eu tanysgrifiad cyn gynted â phosibl er mwyn peidio â cholli’r casgliad cyntaf.

Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant Cyngor Sir y Fflint:  “Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn i breswylwyr, ac rydym yn falch iawn o allu cynnig casgliadau drwy gydol y gaeaf am y tro cyntaf. Drwy gyflwyno casgliadau misol yn y gaeaf yn ogystal â’n gwasanaeth bob pythefnos, rydym yn ei gwneud hi’n haws i aelwydydd reoli gwastraff gardd drwy gydol y flwyddyn wrth barhau i gefnogi ymdrechion ailgylchu Sir y Fflint.”

Ni fydd preswylwyr sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth yn y gorffennol yn derbyn sticer newydd unwaith y byddant wedi ail-danysgrifio. Os ydych yn danysgrifiwr newydd, bydd pecyn sticer yn cael ei anfon atoch drwy’r post.

Mae’r gwastraff gardd sy’n cael ei gasglu yna’n cael ei gompostio ac mae ar gael, yn rhad ac am ddim, i breswylwyr mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

I danysgrifio ar-lein, ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan.

Ni fydd y system dalu ar gael rhwng 6pm ddydd Gwener 27 Chwefror ac 8am ddydd Llun, 2 Mawrth. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.