Caffael

Mae amcangyfrifon cyfredol gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod 60% - 81% o gyllidebau gweithredu sefydliadau’r Sector Cyhoeddus yn cael eu gwario gyda Chyflenwyr a Chontractwyr. Oherwydd hyn, mae'r Nwyddau, Gwasanaethau a’r Gwaith a ddarperir gan ein Cyflenwyr a'n Contractwyr yn allyrru canran sylweddol o'r carbon rydyn ni'n ei gynhyrchu.
Mae hyn yn gwneud datgarboneiddio o fewn prosesau comisiynu, caffael a rheoli contractau'r Cyngor yn nodwedd allweddol wrth ddylanwadu a lleihau ein hallyriadau.
Dyma rai o'r gwaith a'r prosiectau parhaus rydyn ni wedi'u cwblhau:
- Mae gan y Cyngor fethodoleg gref wedi'i sefydlu drwy ein fframwaith TOMs (Themâu, Canlyniadau a Mesurau) ein hunain sy'n defnyddio ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn gweithrediadau caffael.
- Gwasanaeth caffael ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych sy'n caniatáu cydweithredu i sicrhau'r arbedion cost ac effeithlonrwydd mwyaf posibl.
- Adolygu'r Cyd-Strategaeth Caffael Gwerth Cymdeithasol i ddarparu cysondeb a sicrhau nad yw ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cael eu peryglu.
Dyma’r meysydd sydd angen eu gwella yn ein barn ni:-
- Cynyddu'r defnydd o'r fframwaith TOMs wrth gaffael ar draws gweithrediadau'r Cyngor - gweithio gyda staff i wella ymwybyddiaeth a phwysigrwydd y fframwaith gwerth cymdeithasol wrth gyflawni ein nodau.-
- Sicrhau bod contractau o’n hymarferion caffael yn cael eu dyfarnu gan roi ystyriaeth briodol i flaenoriaethau lleihau carbon drwy osod elfen o ddyfarniad amgylcheddol ‘pwysoli’ ym mhob ymarfer sy’n berthnasol ac yn gymesur â’r nwyddau, gwasanaethau neu waith sy’n cael ei gaffael.
- Gwella ein prosesau rheoli contractau - monitro, rheoli ac adrodd ar berfformiad ein gweithgareddau datgarboneiddio cadwyn gyflenwi.
- Alinio polisïau gwerth cymdeithasol / buddion cymunedol - alinio'r polisïau a'r ffyrdd hyn o weithio, wrth barhau i gefnogi amcanion polisi Llywodraeth Cymru, drwy gaffael blaengar, economi sylfaenol a chylchol a datgarboneiddio
- Gwella cyfranogiad budd-ddeiliaid - gweithio gyda busnesau lleol i gefnogi atebion arloesol a chynaliadwy gan sicrhau bod canlyniadau gwerth cymdeithasol yn cael eu cyflawni.
- Cydweithio ar draws y rhanbarth - lle mae nwyddau a gwasanaethau tebyg yn cael eu caffael, ymchwilio.
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at y tîm newid hinsawdd ar: climatechange@flintshire.gov.uk