Alert Section

Beth sy'n digwydd i'ch deunyddiau ailgylchu?


Ystadegau Ailgylchu a Phen y Daith ar gyfer Eitemau Ailgylchu

Mae math a swm y gwastraff yr ydym yn ei ailgylchu yn cael ei fonitro’n agos iawn. Os ydych eisiau gwybod mwy am faint o wastraff y mae Sir y Fflint yn ei gynhyrchu, faint sy’n cael ei ailgylchu ac i ble y caiff yr eitemau hyn eu cludo, ewch i wefan Fy Ailgylchu Cymru: https://myrecyclingwales.org.uk/cy/local_authorities/sir-y-fflint

Beth sy’n digwydd i’ch gwastraff ailgylchu?

Ydych chi erioed wedi ystyried beth sy’n digwydd i’r gwastraff yr ydych yn ei ailgylchu wedi iddo gael ei gludo o’r blychau ailgylchu ar ochr y pafin neu wedi i chi fynd â’ch eitemau i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ? Er mwyn deall i ble mae eich caniau, eich gwastraff bwyd neu eich toriadau glaswellt yn cael eu cludo, ewch i wefan Ailgylchu dros Gymru:

https://www.recycleforwales.org.uk/cy/gwybodaeth-ailgylchu/pam-ailgylchu/sut-y-caiff-ei-ailgylchu

Os hoffech chi weld un o’r prosesau hyn yn fyw, ewch i gyfleuster compostio gwastraff gwyrdd y Cyngor sydd wedi’i leoli ger y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ ym Maes Glas.

Mae’r fideo hwn hefyd yn dangos sut y caiff eich gwastraff gardd ei drawsnewid yn gyflyrydd pridd maeth-gyfoethog i chi ei ailddefnyddio yn eich gardd. 

Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (casgliadau bin du)

 

 

Mae’r holl wastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei anfon i’w brosesu yn y ganolfan troi gwastraff yn ynni newydd, o’r enw Parc Adfer, ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn prosesu hyd at 200,000 tunnell o wastraff ôl-ailgylchedig a bydd yn cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu anghenion 30,000 o gartrefi.