Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol
Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio asesiad cychwynnol o’r nodweddion ecolegol sy’n bresennol, a’r rhywogaethau a all fod yn bresennol o fewn safle a’r ardal amgylchynol. Bydd yn rhaid cynnal Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol at ddibenion dilysu yn y sefyllfaoedd a restrir yn Ffigur 1, sydd i'w weld yn yr adran 'Pa wybodaeth ac arolygon sydd eu hangen er mwyn i gais fod yn ddilys?' uchod.
Mae Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol yn cynnwys astudiaeth ddesg ac arolwg cynefin, gydag asesiad ysgrifenedig i ddilyn.
Amcanion Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol:
- Canfod y cyfyngiadau ecolegol tebygol sy’n gysylltiedig â phrosiect gan ystyried graddfa a natur y prosiect
- Canfod unrhyw fesurau lliniaru sy’n debygol o fod yn angenrheidiol, gan ystyried yr ‘Hierarchaeth Lliniaru’ a ‘Dull Cam wrth Gam’
- Canfod cyfleoedd i ddarparu gwelliannau ecolegol ar y safle ar gam cynnar y broses ddatblygu, gan wneud y mwyaf o fuddion bioamrywiaeth o fewn y safle a lleihau’r angen am ddigolledu oddi ar y safle, a ddylai gael ei ystyried fel dewis olaf yn unig.
- Canfod unrhyw arolygon ecolegol ychwanegol a all fod yn angenrheidiol
Cynnwys Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol:
Yn y mwyafrif o achosion, disgwylir y byddai Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol yn cynnwys:
- Nodi unrhyw safleoedd cadwraeth natur dynodedig (statudol ac anstatudol) a allai gael eu heffeithio gan y prosiect.
- Map o’r mathau gwahanol o gynefinoedd sy’n bresennol i ddarparu cynrychiolaeth weledol o’r tir o fewn a ger ffiniau’r safle.
- Asesiad o bwysigrwydd tebygol y cynefinoedd sy’n bresennol, gan bennu (cyn belled ag y bo modd o fewn cyfyngiadau’r ymweliad(au) safle a gwblhawyd) p’un a oes unrhyw gynefinoedd a warchodir neu a flaenoriaethir yn bresennol, a allai gael eu heffeithio gan y prosiect. Dylid datgan unrhyw gyfyngiadau mewn perthynas â hyn yn glir.
- Asesiad o bresenoldeb tebygol rhywogaethau a warchodir ac a flaenoriaethir, a allai gael eu heffeithio gan y datblygiad arfaethedig, a chadarnhau presenoldeb neu absenoldeb rhywogaethau o’r fath, cyn belled ag y bo modd o fewn cyfyngiadau’r ymweliad(au) safle ac amser y flwyddyn y cwblhawyd hwy.
- Nodi unrhyw gyfyngiadau ecolegol i’r cleient ac unrhyw aelodau perthnasol o’r tîm prosiect (Yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd ym mhwyntiau bwled 1-4). Bydd hyn yn helpu i osgoi effeithiau sylweddol tebygol lle bynnag y bo modd drwy greu cynllun gofalus a sicrhau dealltwriaeth o’r gofynion tebygol ar gyfer lliniaru a thrwyddedu posibl (yn seiliedig ar lefel y wybodaeth sydd ar gael am y prosiect ar adeg yr asesiad).
- Mae’n debygol y bydd angen arolygon ecolegol pellach er mwyn llywio cynnig, ynghyd â’u cwmpas priodol, eu methodoleg a’r amseriad (Yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd ym mhwyntiau bwled 1-5)
- Canfod cyfleoedd ar gyfer gwelliannau ecolegol neu Fudd Net Bioamrywiaeth.
Astudiaeth ddesg neu chwiliad data cefndirol
Dylai astudiaeth ddesg neu chwiliad data cefndirol fod y cam cyntaf wrth gyflawni Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol, a lle bod angen, dylai gynnwys chwiliad data o’r ganolfan gofnodi leol ar gyfer Gogledd Cymru, Cofnod.
Cofnod yw’r unig sefydliad sy’n darparu gwybodaeth ar Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol a bydd yn sicrhau bod ymgynghorwyr yn ystyried holl rywogaethau a all fod yn bresennol.
Mae’n bosibl yr ymgynghorir â Data Map Cymru ynghylch cyfresi data penodol gan gynnwys Safleoedd Gwarchodedig Statudol a Choetir Hynafol.
Sylwer: Ni dderbynnir adroddiadau sy’n defnyddio data o’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol nad yw at ddibenion masnachol.
Nid yw map MAGIC yn cynnwys trwyddedu, gwybodaeth Safle Bywyd Gwyllt Lleol na gwybodaeth eraill am gynefinoedd yng Nghymru, gan ei fod yn berthnasol i Loegr yn unig.
Arolwg Cynefin
Lle bo’n briodol, dylai’r arolwg cynefin o fewn yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol gynnwys y canlynol:
- Cynllun o’r gwahanol fathau o gynefinoedd sy’n bresennol yn defnyddio dosbarthiad cynefinoedd cydnabyddedig a chyhoeddedig
- Asesiad o bresenoldeb tebygol rhywogaethau a warchodir neu a flaenoriaethir, a lle bo hynny’n berthnasol, asesiad o bwysigrwydd tebygol nodweddion cynefinoedd a effeithir gan y datblygiad arfaethedig, megis rhywogaethau, gan gyfeirio at wybodaeth yr astudiaeth ddesg sydd ar gael. Dylai hyn gynnwys:
- Planhigion
- Ffyngau
- Anifeiliaid di-asgwrn cefn daearol a dyfrol
- Pysgod (lle bo hynny’n berthnasol, yn seiliedig ar asesiad o unrhyw gyrsiau dŵr neu gyrff dŵr sy’n bresennol);
- Amffibiaid (gan gynnwys cynefinoedd magu a daearol)
- Ymlusgiaid
- Adar magu, gaeafu ac ymfudol
- Ystlumod (gan gynnwys safleoedd clwydo posibl, a chynefinoedd/nodweddion chwilota a chymudo)
- Rhywogaethau mamaliaid eraill a warchodir neu a flaenoriaethir, fel sy’n berthnasol
- Map o unrhyw glystyrau o rywogaethau planhigion estron ymledol.
- Cofnod o unrhyw rywogaethau blaenoriaethol neu a warchodir a gaiff eu gweld yn achlysurol neu unrhyw arwyddion maes o rywogaethau o’r fath.
- Mesurau a argymhellir i ddarparu Budd Net ar gyfer Bioamrywiaeth.
Arolwg rhywogaethau a Warchodir
Ystlumod
Mae’n rhaid cwblhau arolygon ystlumod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol canlynol.
Arolygon Ystlumod ar gyfer Ecolegwyr Proffesiynol: Canllawiau ar Arfer Da, 4ydd argraffiad – Canllawiau i weithwyr proffesiynol – Bat Conservation Trust..
If a bat survey demonstrates that bats and/or a known roost are likely to be affected by the proposed development and planning permission is to be granted, full information will be required prior to any decision, including complete details of mitigation, monitoring, long-term maintenance plans and compliance. The level of detail in the submission should be similar to that required in a European Protected Species Licence (EPSL). The LPA will place conditions and an informative on any application and it is the responsibility of the applicant to have an EPSL before work commences. Criminal proceedings may take place if the EPSL is not applied for and complied with in full.
Os yw arolwg ystlumod yn dangos bod ystlumod a/neu glwydfan hysbys yn debygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad arfaethedig ac y bwriedir rhoi caniatâd cynllunio, bydd yn rhaid cyflwyno gwybodaeth lawn cyn gwneud unrhyw benderfyniad, gan gynnwys manylion llawn ynghylch lliniaru, monitro, cynlluniau cynnal a chadw hirdymor a chydymffurfiaeth. Dylai lefel y manylder fod yn debyg i’r hyn sy’n ofynnol mewn Trwydded Rywogaeth a Warchodir gan Ewrop. Bydd yr ACLl yn gosod amodau a chyfarwyddiadau ar gyfer unrhyw gais, a chyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd sicrhau Trwydded Rywogaeth a Warchodir yn Ewrop cyn i’r gwaith ddechrau. Gall peidio â gwneud cais am a chydymffurfio’n llawn â’r Drwydded Rywogaeth a Warchodir yn Ewrop arwain at achosion troseddol.
Os daw’r Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol i’r casgliad bod datblygiad yn debygol o effeithio ar gynefin chwilota a/neu gymudo ystlumod, dylid cadw nodweddion llinellol megis rhesi o goed, a dylid ystyried plannu cydadferol lle bynnag y bo modd. Dylid adlewyrchu hyn yn y Datganiad Isadeiledd Gwyrdd. Cyflwynir amodau mewn perthynas â goleuadau sy’n gyfeillgar i ystlumod ar unrhyw ganiatâd.
Golau ac Ystlumod
Dylai cynlluniau golau gydymffurfio â chanllawiau ymarferol diweddaraf y Sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Goleuadau mewn perthynas â’r effaith ar ystlumod wrth greu cynlluniau golau ym mis Awst 2023: 'Ystlumod a Golau Artiffisial yn y DU' – Nodyn Canllaw GN 08 / 23.
Dylai unrhyw amodau sy’n cyfeirio at gynllun golau cyfeillgar i ystlumod gynnwys cynllun cyfuchliniau goleuadau. Cynllun cyfuchliniau o oleuadau llorweddol a gaiff ei baratoi gan weithiwr goleuadau cymwys a phrofiadol (Aelod o’r Sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Goleuadau, Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladau, y Gymdeithas Golau a Goleuo neu sefydliad tebyg i sicrhau cymhwysedd) yw hwn, mae’n defnyddio pecyn meddalwedd priodol i fodelu ‘Diwrnod 1’, graddau’r golau a deflir o’r goleuadau arfaethedig, y rhai a gedwir ac o bosibl, y rhai presennol. Gellir troshaenu lled y parthau clustogi amrywiol a’r cyfyngiadau o ran golau a gytunwyd â’r ecolegydd er mwyn pennu p’un a oes angen lliniaru pellach.
Madfall Ddŵr Gribog
Mae Gogledd Ddwyrain Cymru’n gadarnle ar gyfer y Fadfall Ddŵr Gribog. Mae’r rhywogaethau’n dibynnu ar gynefinoedd dyfrol a daearol ar gyfer magu, chwilota a chymudo. Gellir dod o hyd iddynt yn y fwrdeistref dros ystod eang o gynefinoedd.
Lle bo datblygiad o fewn 300m i bresenoldeb neu absenoldeb cynefin dyfrol addas, mae’n bosibl y bydd angen cynnal arolygon. Dylid penderfynu ar hyn yng nghasgliadau'r Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol.
Nes y cyhoeddir canllawiau pellach wedi’u diweddaru, dylid defnyddio The Great Crested Newt Mitigation Guidelines (2001) a The Great Crested Newt Conservation Handbook. Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol yn darparu gofynion lliniaru penodol ar gyfer safleoedd o amgylch Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Safleoedd Madfallod Glannau Dyfrdwy a Bwcle a Mynydd Helygain.
Mynegai Addasrwydd Cynefinoedd
Offeryn asesu cyflym yw’r Mynegai Addasrwydd Cynefinoedd, ac ymddengys ei fod yn aneffeithiol ar gyfer pennu presenoldeb y fadfall ddŵr gribog yng Nghyngor Sir y Fflint. Nid yw sgoriau isel ar y Mynegai Addasrwydd Cynefinoedd i bob rheidrwydd yn golygu nad oes madfallod dŵr cribog yn bresennol ar safle.
eDNA
Math arall o dechneg arolygu yw eDNA, nid yw’n ofyniad hanfodol. Byddwn yn derbyn y dechneg hon i bennu presenoldeb neu absenoldeb y fadfall ddŵr gribog os caiff samplau eu cwblhau yn gwbl unol â’r nodyn cyngor technegol cyhoeddedig a’u casglu gan arolygwr madfall ddŵr gribog trwyddedig hyfforddedig a phrofiadol. Gellir cymryd samplau rhwng 15 Ebrill a 30 Mehefin.
- Ni fydd y dechneg hon yn darparu asesiadau dosbarth maint poblogaeth.
- Pe bai angen asesiad dosbarth maint poblogaeth ar gyfer y datblygiad/prosiect arfaethedig, bydd ar yr ymgeisydd angen 6 ymweliad arolwg yn defnyddio dulliau arolygu traddodiadol, yn unol â’r argymhellion cyfredol o fewn The Great Crested Newt Mitigation Guidelines (2001).
Dyfrgwn
Pan fo ceisiadau’n cael effaith ar neu’n agos at gwrs dŵr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid cynnal arolwg dyfrgwn. Bydd yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol yn pennu hyn.
Pathewod
Mae pocedi bychain o bathewod wedi’u cofnodi yn Sir y Fflint. Mae’r gofyniad i gwblhau arolwg presenoldeb neu absenoldeb yn ddibynnol ar bresenoldeb cofnodion hanesyddol a natur y cais. Bydd yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol yn pennu hyn.
Moch Daear
Mae moch daear yn gyffredin iawn yn y sir, gellir dod o hyd iddynt ar draws pob cynefin ac maent yn gallu symud yn gyflym i safleoedd os yw’r cynefin a’r cyfleoedd porthi ar gael. Mae’n gyffredin i wiriadau cyn cychwyn gael eu cynnwys mewn amodau cynllunio. Er budd y datblygwr, dylai’r rhain gael eu cwblhau gan ecolegydd cymwys ac mor agos â phosibl i ddechrau’r gwaith.
Ymlusgiaid
Gellir dod o hyd i bum rhywogaeth yn Sir y Fflint ar draws gynefinoedd megis glaswelltir, mosaig agored, prysgwydd, rhostir a gwlypdir. Maent yn arbennig o gyffredin ar safleoedd tir llwyd a chwareli. Yn sgil y cyfnod arolygu cyfyngedig a’r ddibyniaeth ar y tywydd, mae’n rhaid cynnal arolygon cynllunio ymlaen llaw. Bydd yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol yn pennu hyn.
Amseru Arolwg
Ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd penodol, gellir cynnal arolygon ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond ar gyfer rhywogaethau eraill, mae’n rhaid eu cynnal ar adegau penodol o’r flwyddyn i roi’r canlyniadau mwyaf dibynadwy, fel y nodir yn Ffigur 4.
- Mae’n bosibl y bydd arolygon a gynhelir y tu allan i’r amseroedd priodol yn annibynadwy. Ar gyfer rhywogaethau penodol (e.e. Madfall Ddŵr Gribog), mae’n annhebygol y bydd cyfnod y gaeaf yn cynnig unrhyw wybodaeth ddefnyddiol. Yn yr un modd, ni ddylid dehongli canlyniadau negyddol a gesglir y tu allan i’r cyfnod priodol fel absenoldeb o rywogaeth, ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid cynnal arolygon pellach yn ystod y tymor arolygu priodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo arolygon a chofnodion presennol yn dangos bod y rhywogaethau’n arfer bodoli ar y safle neu’r ardal amgylchynol. Efallai na fydd cais yn ddilys nes y cesglir gwybodaeth arolygu yn ystod yr amser gorau o’r flwyddyn.
- Mae arolygon rhywogaethau hefyd yn dibynnu’n fawr ar y tywydd, felly efallai y bydd yn rhaid oedi arolwg neu gwblhau mwy nag un arolwg os nad yw’r tywydd yn addas e.e. nid yw glaw trwm yn dda ar gyfer arolygon dyfrgwn gan ei fod yn golchi eu holion (baw) i ffwrdd. Yn yr un modd, efallai na fydd arolygon a gwblheir yn ystod tywydd gwlyb neu oer yn cynnig canlyniadau cywir.
- Nid yw absenoldeb tystiolaeth o rywogaeth i bob rheidrwydd yn golygu nad yw’r rhywogaethau yno, nid yw ychwaith yn golygu nad yw’r cynefin wedi’i warchod (e.e. caiff clwydfan ystlumod ei diogelu p’un a oes ystlumod yn bresennol neu beidio).
- Mae’n bosibl y bydd gan y Ganolfan Gofnodion Amgylcheddol / Biolegol Leol wybodaeth a chofnodion defnyddiol.
Ffigur 4 - Tymhorau Arolygu Ecolegol
Mae Ffigur 4 yn dangos calendr o amseroedd arolwg ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd gwahanol.
Calendr o amserlenni arolygu ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd gwahanol.