Mae Cefnogwyr Eco Sir y Fflint yn rhaglen ddysgu 5 wythnos o hyd, sy'n seiliedig ar chwarae ac wedi'i chynllunio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6, er mwyn ceisio sicrhau bod ganddynt y wybodaeth, y sgiliau a'r cymhelliant i weithredu fel gwarcheidwaid cyfrifol o'u hamgylchedd.
Mae Cefnogwyr Eco Sir y Fflint yn cael ei ddarparu gan Dîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint ar ran Tîm Bioamrywiaeth Sir y Fflint, mae’r rhaglen yn cefnogi ysgolion i ymgorffori ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd yn y cwricwlwm drwy brofiadau egnïol ac ymarferol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bedair thema graidd: Bioamrywiaeth, Ynni, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.
Yn ystod yr wythnos olaf, er mwyn cyfuno’r hyn a ddysgwyd o’r pedair thema graidd, mae’r dosbarth yn cynnal asesiad amgylcheddol o’u hysgol. Mae pob sesiwn wedi’i llunio i ennyn chwilfrydedd ac ymgysylltiad, gan ddefnyddio dulliau llawn hwyl fel gemau rhyngweithiol a thasgau ymarferol, adrodd straeon, ac archwilio yn yr awyr agored i gefnogi ac ymgorffori dysgu. Mae’r dull yn ennyn dychymyg y plant ond hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau amgylcheddol cymhleth mewn modd sy’n addas i’w datblygiad.
Yn ystod yr wythnos olaf, caiff y Gyfrifiannell Carbon Ysgol ei chyflwyno i’r disgyblion, a byddant yn cynnal asesiad amgylcheddol syml o’u hysgol. Mae defnyddio’r wybodaeth i gyflawni tasg ymarferol yn helpu plant i gysylltu materion amgylcheddol byd-eang â chamau gweithredu lleol, ac mae’n ennyn effaith yn y byd go iawn. Mae’r prosiect hefyd yn darparu man cychwyn defnyddiol i ysgolion er mwyn dechrau neu wella eu gwaith carbon a bioamrywiaeth eu hunain, gan gyfrannu at gynlluniau datblygu ysgol gyfan ar gyfer cynaliadwyedd ac eco-lythrennedd.
Er mwyn mynegi diddordeb yng nghynllun Cefnogwyr Eco Sir y Fflint anfonwch e-bost at bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk gyda ‘Cefnogwyr Eco Sir y Fflint’ yn y llinell destun a nodwch fanylion eich ysgol. Sylwer bod y rhaglen yn dibynnu ar gyllid grant.