Alert Section

Adfywio Canol Trefi

Mae Sir y Fflint yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn ffinio ar y Gogledd wrth aber Afon Dyfrdwy ac wrth ymyl siroedd Dinbych a Wrecsam, a siroedd Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Chilgwri.

Er ei bod yn cael ei gweld fel rhanbarth diwydiannol yn bennaf, mae Sir y Fflint yn wledig yn bennaf ac mae’n cynnal amrywiaeth o drefi: o drefi marchnad Treffynnon a’r Wyddgrug, i drefi mwy diwydiannol Cei Connah, Bwcle, y Fflint, Queensferry, Saltney a Shotton. Mae'r Sir yn gartref i gwmnïau mawr gan gynnwys Airbus UK, Tata Steel a moneysupermarket.com ymhlith eraill.

Buckley Town Centre

Flint Town Centre

Mold Town Centre

Mae trefi yn y rhanbarth wedi addasu i dueddiadau cymdeithasol ac economaidd newidiol, gyda llai o eiddo gwag na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae gan Sir y Fflint amrywiaeth o safleoedd hanesyddol a diwylliannol o bwys, o Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon i gastell y Fflint a’r dreftadaeth ddiwydiannol ar hyd arfordir Sir y Fflint. Mae gan y Sir ddarpariaeth bwyd a diod amrywiol, gydag ystod o gwmnïau bwyd a chynnyrch o safon uchel, gŵyl fwyd flynyddol a grwpiau bwyd amrywiol. Daw’r dreftadaeth, y bwyd a’r diwylliant hwn ynghyd mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n gweddu â’r rhanbarth.

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu datblygiad Cynlluniau Creu Lleoedd ar ran ystod o bartneriaid, sy’n seiliedig ar angen lleol bob canol tre yn Sir y Fflint.

Rhaglen Fuddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys 8 o brosiectau, sy’n cyd-fynd â phwyslais Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a gefnogir gan amcanion Ffyniant Bro Llywodraeth y DU

Flintshire News and Promotions

Ymgysylltu â Busnesau

Mae'r Tîm Adfywio yn Sir y Fflint yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi ac annog twf a datblygiad busnesau; o gwmnïau annibynnol ar raddfa fach i gwmnïau rhyngwladol mawr.

Grantiau a Chyllid

Mwy o wybodaeth am unrhyw gynlluniau grant presennol sydd ar gael i adfywio canol trefi.