Alert Section

Grantiau a Chyllid


Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau

Mae’r Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref wedi’i sefydlu i gefnogi ffyniant canol trefi drwy drefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod â mwy o bobl i ganol y dref.

Darganfod mwy

Trawsnewid Trefi

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i dylunio i gefnogi adfywio trefi ar draws Cymru. Mae menter Trawsnewid Trefi yn darparu cyfleoedd am fuddsoddiadau cyfalaf i gynlluniau sy’n cefnogi nodau ac amcanion y rhaglen. 

Yn Sir y Fflint, mae cyllid ‘Grant Creu Lleoedd’ Trawsnewid Trefi a chyfleoedd buddsoddi ar ffurf benthyciad di-log ar gael ar hyn o bryd, i gefnogi darpariaeth amrywiaeth eang o brosiectau yng nghanol ein trefi. Gall prosiectau amrywio o ddatblygiadau isadeiledd gwyrdd i wella bioamrywiaeth a gwella mannau cyhoeddus; i welliannau masnachol a phreswyl mewnol ac allanol i berchnogion busnes.

Mae’r cyllid yn ceisio cefnogi creu canol trefi ffyniannus, sy’n cynnig mannau gweithio hyblyg a rhagor o fynediad i wasanaethau i breswylwyr lleol ac ymwelwyr â chanol ein prif drefi. Mae’r prosiect yn ceisio sicrhau bod ein trefi’n fwy gwyrdd a deniadol a’u bod yn lleoedd ffyniannus i ymweld â nhw – gan arddangos eu nodweddion gorau a sicrhau bod pawb sy’n byw neu’n gweithio yng nghanol y dref neu sy’n ymweld â hi, yn cael croeso.

Mae’r cynllun ar agor i fusnesau preifat, gan gynnwys datblygwyr, busnesau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Nid yw ar gael i unigolion preifat.

Dylai ymgeiswyr posibl ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin a chysylltu â Swyddogion Adfywio Cyngor Sir y Fflint i ddechrau er mwyn trafod unrhyw gynigion ac i weld a ydynt yn gymwys i gael y cyllid grant. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais, cysylltwch â regeneration@flintshire.gov.uk 

Trawsnewid Trefi  

Grantiau Gwella Eiddo Canol y Dref

Grant Gwella Eiddo Canol y Dref (TCPIG)

Mae dwy ffrwd i’r Grant Gwella Eiddo Canol y Dref, caiff un ei chefnogi gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a’r llall gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Sefydlodd Llywodraeth Cymru y grant hwn i gefnogi busnesau yng nghanol trefi a dinasoedd i ddatblygu ac uwchraddio eu heiddo. Yn ddiweddarach, gwnaeth Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint gais i Lywodraeth y DU i ychwanegu cynllun arall i gefnogi canol trefi ymhellach ar draws y sir. Rydym ni’n cydnabod bod busnesau canol tref yn parhau i wynebu cyfnod economaidd heriol iawn a gall y grant hwn helpu i wella eiddo’r busnes a chefnogi bywiogrwydd hirdymor canol ein trefi.  

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r Grant Gwella Eiddo Canol y Dref?

Lansiwyd cynllun Llywodraeth Cymru ym Mwcle, Shotton a Threffynnon am flwyddyn o fis Ebrill 2023 (Treffynnon o fis Awst 2023) fel cynllun peilot. Mae’r grant ar gael ar gyfer busnesau annibynnol, bychan a chanolig sy’n gweithredu (neu’n bwriadu gweithredu), yng Nghanol Tref Bwcle, Shotton neu Dreffynnon.

Lansiwyd cynllun Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2023 ac mae’n cynnwys eiddo yng nghanol y saith tref yn Sir y Fflint; Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Shotton a Queesnferry. Mae’r grant ar gael ar gyfer busnesau annibynnol, bach a chanolig yn y trefi hyn.

Mae’n rhaid i’r prosiectau gwella gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2024 ar gyfer grant Llywodraeth Cymru a grant Llywodraeth y DU. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais yn gynnar i gydymffurfio â’r amserlen hon gan ein bod yn disgwyl llawer iawn o ddiddordeb yn y grantiau hyn.

Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth i feddianwyr a pherchnogion adeiladau manwerthu a masnachol. Gellir defnyddio’r grant i wella blaen adeiladau ac i droi gofodau masnachol gwag yn ofodau busnes buddiol unwaith eto ac i roi pwrpas newydd i eiddo ble’n briodol.

Prif bwrpas yr arian yw ceisio gwneud gwir wahaniaeth i ymddangosiad canol ein trefi a’n dinasoedd trwy eu gwneud yn lleoedd mwy deniadol i ymweld a gweithio; ac annog pobl i dreulio eu hamser a gwario eu harian yno.  Felly bydd y Cyngor yn cefnogi gwelliannau i eiddo busnes o fewn y brif ardal fasnachol (yn gyffredinol y stryd fawr - neu debyg - a lleoliadau cyfagos).

Pa waith sy’n gymwys?

Gall cwmpas arfaethedig y gwaith ar yr eiddo gynnwys y canlynol:

Byddai gwaith allanol i flaen yr adeilad yn cael ei ystyried heb yr angen am waith mewnol. Gall hyn gynnwys gwaith y bernir ei fod yn angenrheidiol er mwyn uniondeb strwythurol a defnydd yr eiddo, yn enwedig pan fo newid defnydd. Gall eitemau gynnwys:

  • Blaen Siopau
  • Gwella Ffenestri Arddangos  
  • Gwelliannau i Arwyddion
  • Ffenestri a Drysau 
  • Goleuadau Allanol 
  • Toeau a Simneiau  
  • Nwyddau Dŵr Glaw
  • Rendro, Glanhau ac Atgyweirio Cerrig, Ail-bwyntio a 
  • Gwaith Strwythurol 

Byddai gwaith mewnol ond yn gymwys i gael yr arian fel rhan o becyn o welliannau allanol i’r adeilad, neu pan fo angen newid defnydd arfaethedig.  Dylai hyn gynnwys yr holl waith, gweledol neu strwythurol, sydd ei angen i gwblhau’r prosiect i safon Rheoliadau Adeiladu. Gallai hyn gynnwys:  

  • Ffenestri a Drysau
  • Gwell Hygyrchedd 
  • Waliau, Nenfydau, Goleuadau  
  • Cyfleustodau a Gwasanaethau, gan gynnwys Gwresogi
  • Cyfleusterau Lles (e.e. cyfleusterau glanhau ac ymolchfa hanfodol yn unig); a 
  • Gwaith Strwythurol 

Hefyd, bydd unrhyw waith i wella effeithlonrwydd ynni adeilad (e.e. insiwleiddio gwell), yn gymwys, fel rhan o gyfres ehangach o waith.

Rwy’n ddeiliad prydles, ydw i’n parhau i fod yn gymwys? 

Bydd y grant a benthyciadau ar gael i berchnogion buddiant rhydd-ddaliadol yr eiddo neu unigolion sydd â phrydles gyda 7 mlynedd neu fwy ar ôl ar ddyddiad y cais, ac sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig. 

Sut ydw i’n gwneud cais?

Y cam cyntaf yw cysylltu â’r Tîm Adfywio ar e-bost ar regeneration@flintshire.gov.uk i drafod eich cais. Bydd y Tîm Adfywio yn sicrhau eich bod yn hollol wybodus ac yn cael eich cefnogi trwy gydol y broses.  Gall y Tîm Adfywio ddarparu ffurflen gais a chynorthwyo i’w llenwi a sicrhau eich bod yn gwneud cais i’r ffrwd ariannu gywir, boed hynny’r gronfa sy’n cael ei chefnogi gan gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru neu Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 

Beth ddylwn ei gynnwys gyda’r ffurflen gais i gefnogi fy nghais?

Dylid llenwi’r ffurflen gais yn unol â’r canllawiau a gynhyrchwyd i gynorthwyo ymgeiswyr a dylai gynnwys dyluniadau a chostau llawn ar gyfer y prosiect. Efallai y bydd angen i chi ddarparu rhai, neu bob un o’r canlynol yn dibynnu ar y prosiect.

  • Lluniau diweddar o’r eiddo
  • Hysbysiad o gymeradwyaeth cynllunio a chynlluniau/darluniadau cymeradwy 
  • Cynlluniau ac amserlenni gwaith mewnol ac allanol
  • Caniatâd statudol perthnasol megis rheolaethau adeilad  
  • Benthyciwr morgais neu ganiatâd landlord os yw’n berthnasol
  • Datganiad yn dangos ffioedd, megis ffioedd proffesiynol fel rhan o’r gwaith cyfalaf.  Cadarnhad y gellir talu cost lawn y gwaith cyn cyflwyno’r hawliad grant. (Gallai hyn fod ar ffurf llythyr gan y banc)
  • Mae angen gwybodaeth ariannol at ddibenion diwydrwydd dyladwy er mwyn bod yn hyderus fod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi’n briodol 
  • Gwybodaeth am gynllunio busnes i gefnogi’r fenter arfaethedig 
  • Copi o weithredoedd teitl neu ddogfen brydles

Cynghorir y dylid cyflogi pensaer proffesiynol neu asiant tebyg i gynorthwyo wrth ddylunio a rheoli’r prosiect.  Ni all y grant dalu am gostau sy’n gysylltiedig â hyn ond maent yn gymwys ar gyfer arian cyfatebol.

A oes unrhyw amodau penodol yn ymwneud â’r grant hwn?

Oes, bydd angen i chi gael y caniatâd cynllunio / rheoli adeiladu arferol cyn y gall unrhyw geisiadau gael eu hystyried.

Sut bydd fy nghais yn cael ei asesu?

Bydd y cynlluniau’n cael eu cyflwyno i Banel Adfywio Sir y Fflint ar gyfer penderfyniad am y cais grant. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i’w ystyried yn ystod un o gyfarfodydd misol y panel wedi’i nodi isod. Yn ogystal, cewch hefyd wybodaeth am ddyddiad cyfarfodydd y panel a’r dyddiad y cewch chi wybod a yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. 

Dyddiadau ymgeisio
Dyddiad cau misol i gyflwyno ceisiadau (i’w cael cyn 5pm)Cyfarfod Panel – i ystyried y ceisiadau ar:Ymgeisydd yn cael gwybod beth yw’r penderfyniad erbyn:
Dydd Llun 12 Mehefin 2023 Dydd Llun 19 Mehefin 2023 Dydd Llun 26 Mehefin 2023
Dydd Llun 10 Gorffennaf 2023 Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2023 Dydd Mercher 26 Gorffennaf 2023
Dydd Mawrth 8 Awst 2023 Dydd Iau 17 Awst 2023 Dydd Iau 24 Awst 2023
Dydd Llun 11 Medi 2023 Dydd Mawrth 19 Medi 2023 Dydd Mawrth 26 Medi 2023
Dydd Llun 9 Hydref 2023 Dydd Mawrth 17 Hydref 2023 Dydd Mawrth 24 Hydref 2023
Dydd Llun 6 Tachwedd 2023 Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023
Dydd Llun 4 Rhagfyr 2023 Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023 Dydd Mawrth 19 Rhagfyr 2023

Sylwch ni fydd y panel yn cynnal cyfarfodydd os yw’r holl gyllid wedi’i ddyrannu’n gynt. Hyn a hyn o gyllid sydd ar gael ac mae’n debyg y bydd galw mawr am y grant, felly anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu ceisiadau yn fuan. 

Caiff y ceisiadau eu hasesu ar sail y budd i’r ardal leol, yn cynnwys yr amgylchedd, ond gall lefel y grant (yn amodol ar reolau cymorth gwladwriaethol) fod yn gyfyngedig yn dibynnu ar faint a natur y prosiect arfaethedig, y bwlch hyfywedd neu statws ariannol y cwmni.  

Bydd y ceisiadau (rhwng £5,000 a £50,000) yn cael eu hasesu’n llawn a bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno gan aelod o’r Tîm Adfywio.  Gall pob awdurdod lleol benderfynu ar y gyfradd ymyrryd yn seiliedig ar amodau’r farchnad leol, a darparu hyd at 70% o gymorth grant. 

Penderfyniadau: 

  • Cymeradwyo  
  • Cymeradwyo gydag amodau
  • Gwrthod – bydd cyfiawnhad llawn yn cael ei roi i unrhyw ymgeisydd y mae ei gais wedi’i wrthod  
A allaf gael benthyciad i dalu am y 30%+ sy’n weddill sydd ei angen ar gyfer y gwaith?

Gallwch, gall Cyngor Sir y Fflint ddarparu benthyciad ad-daladwy llog 0% i dalu am y gwaith (os yw’n gymwys) na ellir defnyddio’r grant ar eu cyfer (ffioedd cais yn weithredol).  Nid oes unrhyw ffioedd ad-dalu cynnar ar gyfer benthyciad o’r math hwn.  Cysylltwch â’r Tîm Adfywio ar e-bost ar regeneration@flintshire.gov.uk os hoffech fwy o wybodaeth. 

Neu, gallwch hefyd gael benthyciadau neu gyllid gan bartïon eraill ar gyfer y 30% sy’n weddill (bydd angen tystiolaeth o hyn). 

Erbyn pryd sydd angen i mi orffen y gwaith?

Fel rhan o delerau ac amodau’r grant, bydd dau ddyddiad allweddol yn cael eu cynnig - bydd un dyddiad yn nodi erbyn pryd ddylai’r derbynnydd ddechrau gweithio ar y safle, a’r llall yn nodi erbyn pryd ddylai’r gwaith gael ei gwblhau.  

Rhaid i bob cynllun gwblhau eu gwaith a’r gwariant erbyn diwedd y flwyddyn ariannol (Ebrill tan ddiwedd Mawrth). Bydd cyfarfod cyn-cychwyn gyda swyddog o’r Tîm Adfywio i sicrhau bod derbynnydd y grant yn fodlon gyda’r holl delerau ac amodau ac i drafod unrhyw faterion pellach o ran y prosiect. Gall swyddog cynllunio, neu swyddog perthnasol arall, hefyd fynychu’r cyfarfod hwn os oes angen egluro unrhyw faterion cynllunio.  Bydd y Tîm Adfywio yn gofyn i dderbynnydd y grant neu’r contractwr i osod arwydd grant mewn lleoliad amlwg. Mae hyn yn hysbysebu bod y grant ar gael ac yn hyrwyddo’r cyrff cyllido.

A fydd angen i mi roi diweddariadau mewn perthynas â’r prosiect?

Eich cyfrifoldeb chi yw monitro’r gwaith. Fodd bynnag, bydd y swyddog grant hefyd yn mynychu cyfarfodydd safle a dylid rhoi gwybod i’r swyddog am unrhyw wyriad oddi wrth y cynllun cytunedig.  Os na ofynnir am gyngor, efallai na fydd grant a gymeradwywyd yn cael ei dalu ar gyfer yr eitemau hyn. Dylid dweud wrth swyddog o’r Tîm Adfywio ynglŷn ag unrhyw newidiadau i fanylion deunyddiau, manylion adeiladu neu ddyluniadau, a, ble’n berthnasol, y swyddog cynllunio i sicrhau fod unrhyw newidiadau yn unol â gofynion cynllunio. Dylid dweud wrth y swyddog grant hefyd ynglŷn ag unrhyw newidiadau i gost neu amserlen y prosiect cyn gynted ag y deuir yn ymwybodol ohonynt. Sylwer y bydd y canlyniadau a roddwyd ar eich ffurflen gais am y grant yn ffurfio rhan o’r contract cyfreithiol i chi ei gyflawni, ac felly mae monitro yn rhan bwysig o ran cyflawni’r rhain.

Sut ydw i’n hawlio’r arian grant?

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn teilwra’r modd o dalu’r arian mewn camau i’r ymgeisydd.  Pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau, bydd ymweliad safle’n cael ei gynnal i arolygu’r gwaith (gellir gwneud taliadau dros dro ar gais). Dylid cynhyrchu cyfrif terfynol yn nodi’r holl waith a gwblhawyd. Gwneir hyn gan y contractwr, asiant neu bensaer. Rhaid i’r holl anfonebau gan y contractwr a’r ffioedd proffesiynol gael eu cyflwyno i’r swyddog grant. Dylid hefyd gynnwys cyfriflenni banc gyda’r rhain yn dangos fod yr anfonebau wedi eu talu. Gwneir asesiad ar y cyfrif terfynol, anfonebau a chyfriflenni banc. Yna ysgrifennir adroddiad a’i gymeradwyo gan swyddogion perthnasol.  Yna bydd y Tîm Adfywio yn gweithio gyda chi i drefnu taliad mewn modd amserol.

Sylwer y bydd angen cymeradwyo’r arian cyn y gellir gwneud y gwaith.

Astudiaeth Achos

Mae Mr Jones yn berchen ar adeilad yn Shotton a arferai fod yn Siop Cigydd.  Mae’r siop wedi bod yn wag ers 3 blynedd ac mae wedi dioddef fandaliaeth yn ddiweddar yn cynnwys torri ffenestr siop a thipio anghyfreithlon ar dir wrth ymyl yr eiddo. Y tu mewn, mae’r eiddo’n cynnwys ffenestr siop fawr, dwy ystafell ar wahân yn y cefn a arferai gael eu defnyddio fel lladd-dy.  Fe hoffai perchennog yr eiddo ddefnyddio’r adeilad fel Siop Trin Gwallt ac felly mae angen gwneud newidiadau mewnol tra’n cadw hen nodweddion yr adeilad. Ymysg y gwaith arall sydd ei angen mae gwneud yr adeilad yn fwy ynni effeithlon, gwaith uwchraddio trydan ac ail blastro.

Mae Mr Jones wedi dewis arolygwr a fydd yn archwilio’r eiddo’n broffesiynol, ac maent wedi cynghori ac amcangyfrif mai’r pris ar gyfer y prosiect fyddai £10,000.  Felly fe hoffai Mr Jones ymgeisio i Gyngor Sir y Fflint am £10,000 o gynllun Grant Gwella Eiddo Canol Tref.

Cam cyntaf Mr Jones yn y broses ymgeisio oedd cysylltu â thîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint.  Cysylltodd Swyddog Adfywio o’r tîm ag o a threfnu cyfarfod byr i drafod y prosiect yn llawn.  Roedd Mr Jones yn gymwys i ymgeisio am Grant Gwella Eiddo Canol Tref, ac mae’r arian grant yn cael ei dalu’n ôl-weithredol.

Llenwodd Mr Jones ffurflen gais am Grant Gwella Eiddo Canol Tref ac roedd yn cynnwys dyluniad llawn o’r gwaith i ailwampio’r adeilad, dadansoddiad manwl o’r costau ar gyfer yr holl waith ac amserlenni ar gyfer y prosiect. Cafodd y cais ei gyflwyno i Banel Adfywio Sir y Fflint a bu Mr Jones yn llwyddiannus yn cael y cyllid grant llawn.

Derbyniodd Mr Jones y cynnig grant yn ysgrifenedig ac yna bu modd iddo fwrw ymlaen â’r gwaith.  Cafodd ddau ddyddiad, ac erbyn un o’r dyddiadau hynny roedd y gwaith fod i gael ei ddechrau a dyddiad i gwblhau’r gwaith hefyd.

Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen roedd yna broblem gyda’r gwaith trydanol a bu’n rhaid gwneud yn wahanol i’r hyn oedd ar y cynlluniau. Cysylltodd Mr Jones â’r Swyddog Grantiau o Gyngor Sir y Fflint i egluro y bu’n rhaid newid y cynlluniau, felly fe aeth y Swyddog Grantiau draw i adeilad Mr Jones er mwyn sicrhau bod y gwaith newydd yn dal i fod o fewn cyfyngiadau cymeradwyo’r grant, ac fe roeddynt.

Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau a bod Mr Jones yn hapus gyda’r gwaith, fe wahoddodd y Swyddog Adfywio i’r safle er mwyn sicrhau bod y gwaith a wnaed yn cyd-fynd â’r gwaith oedd wedi’i fanylu yn y ffurflen gais am grant ac y byddai’r arian grant yn cael ei ryddhau cyn gynted â phosibl.  Fe luniodd Mr Jones ddadansoddiad terfynol oedd yn manylu ar y gwaith oedd wedi’i wneud.   Pan oedd y Swyddog Grantiau’n fodlon, cafodd yr arian grant ei ryddhau i Mr Jones.

O ganlyniad i’r grant, mae eiddo a fu’n wag am gyfnod hir bellach yn cael ei ddefnyddio eto, gan ddarparu incwm rhent rheolaidd i’r landlord, darparu llety o safon dda i fusnes trin gwallt lleol newydd, creu 2 swydd llawn amser newydd, ac mae rhan bwysig o dreftadaeth leol y gymuned yn cael ei gadw at y dyfodol.