Sut mae THRIVE yn cyfrannu at Dwf Lleol
Mae THRIVE yn cyfuno buddsoddiad mewn safleoedd strategol ac eiddo masnachol â chymorth i greu busnesau, eu tyfu a gwella cynhyrchiant.
Mae’r rhaglen yn cefnogi blaenoriaethau’r Gronfa Twf Lleol, sef Gwella Seilwaith Rhanbarthol a Busnesau Mwy Cynhyrchiol a Chystadleuol, drwy helpu i:
- datgloi buddsoddiad mewn safleoedd strategol ac eiddo masnachol
- dod ag adeiladau gwag neu adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol
- gwella ansawdd, hygyrchedd a chynaliadwyedd mannau masnachol
- helpu busnesau i sefydlu, buddsoddi, gwella cynhyrchiant a thyfu