Alert Section

Ymgysylltu â Busnesau


Mae'r Tîm Adfywio yn Sir y Fflint yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi ac annog twf a datblygiad busnesau; o gwmnïau annibynnol ar raddfa fach i gwmnïau rhyngwladol mawr. Beth bynnag fo'ch busnes, ar ba bynnag gam, rydym yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth. Mae gennym dudalen sy’n benodol ar gyfer y mathau o gymorth y gallwn ni a phartneriaid cysylltiedig ei gynnig i fusnesau Sir y Fflint

I gael gwybod mwy am yr hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud ar gyfer economi Sir y Fflint, cliciwch yma. I weld Cynllun Cyngor Sir y Fflint 2021-2023.

Newydd Gweithdai ar-lein ym mis Mawrth

Fel rhan o Raglen Cefnogi Canol Trefi Sir y Fflint, sydd newydd ei lansio, bydd tîm Achub y Stryd Fawr yn cynnal cyfres o dri gweithdy ar-lein i helpu busnesau’r stryd fawr i wella nifer yr ymwelwyr yn lleol. Bydd pob sesiwn ryngweithiol 1 awr o hyd yn cael ei chynnal gan arbenigwr ar y pwnc a bydd yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol a thrafodaethau rhwng cymheiriaid.

Cofrestrwch gan ddefnyddio’r dolenni yma:

Cefnogaeth newydd yn cael ei lansio ar gyfer busnesau’r stryd fawr ledled Sir y Fflint

Mae Save The High Street a Chyngor Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd i helpu busnesau canol trefi ledled Sir y Fflint i gyflawni eu hamcanion pwysicaf, beth bynnag yr ydyn nhw.

Pwy sy’n gymwys i gael cymorth?

Mae pob busnes canol tref presennol a newydd yn Sir y Fflint yn gymwys ar gyfer y rhaglen cymorth busnes hon.

Ynglŷn â SaveTheHighStreet.org a JO

Mae SaveTheHighStreet.org yn fudiad diwydiant sydd wedi’i sefydlu ers 6 mlynedd. Mae’r tîm yn cyflwyno rhaglenni cymorth i roi hwb i economïau lleol o’r gwaelod i fyny drwy rymuso entrepreneuriaid y stryd fawr â’r wybodaeth, yr adnoddau, y sgiliau a’r gallu i gyflawni eu potensial.

JO yw ein hadnodd cymorth busnes perchnogol sydd wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth ac argymhellion sy’n gwella economeg ac effaith cymorth i fusnesau ar y stryd fawr.

Mae newid y strydoedd mawr er gwell yn waith tîm.

Mae gan lawer o wahanol fusnesau, grwpiau ac unigolion gyfraniad i’w wneud, yn ogystal â chyfleoedd i elwa.

Ydych chi’n adnabod unrhyw un a ddylai wybod am Save The High Street Sir y Fflint hefyd?

Allwch chi helpu i roi’r gair ar led?

Po fwyaf sy'n ymuno, y cryfaf y bydd pawb.

Cofrestrwch eich diddordeb yn y rhaglen cymorth busnes hon drwy lenwi ffurflen fer yma.

Os hoffech chi ddysgu am ymwneud yn fwy â Save The High Street Sir y Fflint, cysylltwch â ni unrhyw bryd.

Cysylltu â ni - flintshire@savethehighstreet.org neu regeneration@siryfflint.gov.uk