Alert Section

Coed, Gwrychoedd a Glaswellt


Coed/gwrychoedd sy'n bargodi'r briffordd
Gall llystyfiant sy’n bargodi priffyrdd orchuddio arwyddion a pheri problemau i bobl sy’n teithio ar y palmant.  Mae’n drosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 gadael i unrhyw lystyfiant beri rhwystr i lwybr defnyddwyr y briffordd.

Cynnal a chadw glaswellt, chwyn a phrysglwyni
Rydym yn torri gwair, yn cynnal a chadw perthi, yn torri coed sy'n gorhongian ac yn rheoli chwyn mewn nifer o ardaloedd ledled Sir y Fflint.

Byddwn yn cynnal a chadw tir sydd o dan berchnogaeth y cyngor, gan gynnwys:

  • ymylon a llain canol priffyrdd
  • cylchfannau
  • ardaloedd cyhoeddus agored
  • parciau ac ardaloedd gwyrdd
  • ystadau tai
  • canol trefi
  • gerddi coffa
  • mynwentydd
  • tai gwarchod
  • meysydd chwarae
  • mannau hamdden
  • mannau amwynder
  • meysydd chwarae plant
  • ardaloedd cadwraeth natur
  • rydym yn rheoli llysiau'r gingroen a chanclwm Japan os ydynt yn tyfu wrth ochr y ffordd.

Rydym yn torri gwair ar ochr ffyrdd ac yn cynnal a chadw perthi er mwyn sicrhau bod y ffyrdd yn ddiogel a bod arwyddion yn weladwy wrth ystyried yr amgylchedd a materion cadwraethol.

Nid ydym yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar dir preifat neu dir o dan berchnogaeth cyrff ar wahân i'r Cyngor.

Nid ydym yn gwaredu'r rhan fwyaf o'r gwair rydym yn ei dorri. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod y torion yn weddol fyr ac yn pydru yn gyflym gan arafu'r tyfiant. Byddai eu cribinio, llwytho, cludo a chael gwared arnynt yn cynyddu costau. Fodd bynnag, rydym yn brwsio neu'n chwythu unrhyw wair oddi ar lwybrau neu arwynebau caled sy'n achosi perygl.

Tenantiaid tai cyngor sy'n gyfrifol am gynnal eu gerddi eu hunain. Fodd bynnag, mae gan y Gwasanaeth Tai Gynllun Cynnal a Chadw Gerddi sy'n helpu pensiynwyr neu bobl anabl cofrestredig nad ydynt yn gallu gofalu am eu gerddi. Cysylltwch â swyddog tai eich ardal am fwy o wybodaeth.

Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd am 01352 701234.

Rhoi gwybod am broblem