Alert Section

Gwaith ar Stryd Fawr Shotton

Darperir y wybodaeth ddiweddaraf ganlynol mewn perthynas â’r gwaith parhaus i wella’r ffordd fawr sy’n digwydd ar y safle ar hyn o bryd.

Gwerthfawrogwn amynedd a chydweithrediad trigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd tra bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud.


Trefniadau Rheoli Traffig

Fel rhan o’r gwaith parhaus i reoli’r safle, mae set newydd o signalau bellach wedi’u gosod wrth yr arwyddion traffig. Nod y newid hwn yw darparu mwy o hyblygrwydd a gwell rheolaeth o lif traffig wrth i’r cynllun barhau drwy’r camau amrywiol.

Caiff amodau traffig eu monitro’n barhaus mewn cydweithrediad â’n contractwr. Oherwydd y traffig trwm ar y darn hwn o’r ffordd, nid oes modd osgoi’r amhariad yn anffodus tra bydd y gwaith i’r ffordd yn cael ei gynnal. Felly, caiff trefniadau rheoli traffig eu hadolygu’n barhaus, a mesurau pellach yn cael eu hystyried yn barhaus i reoli llif traffig mor effeithiol â phosibl.

Lle y bo’n ddiogel ac yn weithredol hyfyw, caiff trefniadau rheoli traffig eu lleihau neu eu tynnu gyda’r nos er mwyn helpu i leihau tagfeydd. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn bosibl bob amser oherwydd gofynion yn ymwneud â diogelwch, logisteg neu raglen.


Gwaith Cyfredol - ardal Chester Close

Mae gwaith wrthi’n cael ei gynnal yn ardal Chester Close. Mae’r gwaith yn cynnwys addasiadau i gysoni palmantau i greu pocedi troi i’r dde a gwella llif traffig ac effeithlonrwydd cyffyrdd.

Bydd y gwaith yn parhau nes dechrau’r cam rhoi wyneb newydd, a ddylai gychwyn yn ystod wythnos 16 Mawrth 2026.


Rhaglen Rhoi Wyneb Newydd

Caiff cam cyntaf y gwaith i roi wyneb newydd - o ochr ddwyreiniol Nelson Street i Shotton Lane, gan gynnwys ardal y gyffordd - ei wneud drwy drefniadau gwaith confoi dros nos rhwng 7:00pm a 7:00am, er mwyn lleihau amhariad yn ystod cyfnodau o draffig trwm yn ystod y dydd.

Bydd y rhaglen i roi wyneb newydd yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

  • Tynnu wyneb presennol y ffordd
  • Addasiadau i’r gweithfeydd haearn, gan gynnwys gosod ac addasu gorchuddion a gylïau
  • Rhoi wyneb newydd ar y ffordd i gyd (sydd i fod i gychwyn ar 24 Mawrth ac yn cymryd tair noson)
  • Gwaith i’r signalau traffig (torri’r ddolen) yn ystod penwythnos 27 a 28 Mawrth 2026
  • Marciau newydd ar y ffordd am ddwy noson yn olynol

Caiff arwyddion rhybudd ymlaen llaw eu gosod ar y safle cyn dechrau’r gwaith confoi dros nos, ynghyd â llythyr ar gyfer eiddo a gaiff eu heffeithio’n uniongyrchol gan y gwaith.


Rhybudd o’r Rhaglen

Mae’r dyddiadau a amlinellir uchod yn adlewyrchu’r rhaglen arfaethedig gyfredol. Fodd bynnag, gall amserlen y gwaith newid dan amgylchiadau anweladwy, megis tywydd drwg neu gyfyngiadau safle annisgwyl.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi wrth i’r cynllun fynd rhagddo.