Amserlenni bysiau
13/1/21 Cyhoeddiad Pwysig ar Drafnidiaeth Gyhoeddus:
Mae trafnidiaeth yn parhau I weithredu yn Sir y Flint ond yn dilyn cyhoeddiadau diweddar y Llywodraeth, ar gyfer cau I lawr cenedlaethol a chyfnygiadau haen 4, fe’n gwnaed yn ymwybodol bod rhai gweithredwyr yn bwriadu lleihau amalder gwasanaethau.
Felly, cynghorir teithwyr yn gryf I sicrhau bod teithiau’n hanfodol ac I wirio gwefannau gweithredwyr unigol cyn cynllunio ac ymgymryd ag unrhyw deithiau. Atgoffir teithwyr bod gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar bob trafnidiaeth gyhoeddus.
Os bydd anghen unrhyw gymorth arnoch I gael gwybodaeth Tranfnidiaeth Gyhoeddus, peidiwch ag aros I gysylltu a chyswllt Streetscene ar rhif ffon 01352 701234.
Arriva amserlen:
https://www.arrivabus.co.uk/help/coronavirus/coronavirus-timetable-information
Tocyn Teithio Ieuenctid Llywodraeth Cymru / fyngherdynteithio:
Mae cynllun sy'n cynnig y cyfle i arbed traean oddi ar bris o tocyn bws i oedolion ei lansio gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ddydd Mercher bobl ifanc 16-21 oed 110,000 Nghymru. O 1 af Medi 2015 o bobl ifanc sy'n byw yng Nghymru yn gallu defnyddio eu cardiau i gael teithio am bris gostyngol ar y gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Gallwch wneud cais am eich cerdyn teithio drwy fynd ar-lein neu gysylltu â'r rhif isod.
Gwneud cais ar-lein (ffenestr newydd) - Ffôn 0300 200 2233
Gwasanaethau Bws yn ystod gwyliau cyhoeddus:
Ar wyliau cyhoeddus, mae’r rhan fwyaf o wasanaethau bws yn cadw at amserlen DYDD SUL. Nid yw bysus yn rhedeg fel arfer ar ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan na dydd Calan. Ar Noswyl Nadolig a Nos Galan, mae’r gwasanaethau bws yn gorffen yn gynt nag arfer, am tua 20:00.
Gynllunio eich taith (ffenestr newydd)
Defnyddiwch wefan Traveline Cymru i gynllunio'ch taith a lawrlwytho amserlenni.
Bydd yr amserlenni bysiau canlynol i gyd yn agor mewn ffenestr newydd ar ffurf dogfennau PDF a bydd maint y ffeil yn llai nai 100Kb
Cerdyn teithio rhatach – gwnewch gais am docyn bws neu gerdyn rheilffordd (ar gyfer rhai dros 60 neu ddefnyddwyr anabl).
BwsAbout - teithio undydd diderfyn yr Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
PlusBus – teithio undydd neu deithio tymor diderfyn yn Nhref Y Fflint.
Pàs Archwilio Cymru – teithio diderfyn ar holl wasanaethau trên prif reilffyrdd Cymru a llawer o lwybrau bws.
Os ydych yn meddwl eich bod wedi gadael eitem ar fws, cysylltwch â’r cwmni perthnasol. Os ceir hyd i’r eitem, eich cyfrifoldeb chi yw ei chasglu o’r depo perthnasol.
Safleoedd a chysgodfannau bws
Os oes gennych unrhyw bryderon yn ymwneud â chysgodfan neu saflebws, neu os ydych am roi gwybod am fandaliaeth neu ddifrod, ffoniwch Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234 gan roi gymaint o fanylion âphosib gan gynnwys lleoliad y safle bws dan sylw.