Alert Section

Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig

Dysgwch fwy am Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig yma.

Beth yw Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig?

  • Mae Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (SGO) yn rhoi cyfrifoldeb rhiant dros blentyn i rywun heblaw rhieni’r plentyn neu unigolyn arall sydd â chyfrifoldeb rhiant.
    • Pan gaiff plentyn ei eni, y fam sydd â chyfrifoldeb rhiant. Bydd gan y tad gyfrifoldeb rhiant os yw’n briod â’r fam ar adeg geni’r plentyn neu os yw ei enw wedi’i roi ar dystysgrif geni’r plentyn. Os caiff SGO ei roi i rywun arall, bydd cyfrifoldeb rhiant y rhiant/rhieni’n dod yn ‘gyfyngedig’.
  • Gallwch wneud cais am SGO dim ond os nad ydych yn rhiant biolegol i’r plentyn, wedi bod a’r plentyn yn eich gofal am o leiaf 12 mis neu gyda chytundeb yr Awdurdod Lleol/Llys
  • Mae SGO yn golygu mai Gwarcheidwad Arbennig fydd yn gwneud penderfyniadau dydd i ddydd dros blentyn ac na all pobl eraill â chyfrifoldeb rhiant cyfyngedig ymyrryd.
  • Mae rhai pethau na all Gwarcheidwad Arbennig eu gwneud heb ganiatâd y rhai hynny sydd â chyfrifoldeb rhiant cyfyngedig.
    • Ni allant fynd â’r plentyn allan o’r wlad am gyfnod hirach na 3 mis;
    • Ni allant newid enw’r plentyn;
    • Ni allant roi eu cyfrifoldeb rhiant i rywun arall; a
    • Mae’n rhaid iddynt roi gwybod i’r rhieni os yw’r plentyn yn ddifrifol wael.

Pwy all wneud cais?

  • Dan Adran 115 (12) o’r Ddeddf Plant unrhyw un dros 18 oed:
    • Sydd ddim yn rhiant i blentyn
    • Sydd yn warcheidwad i blentyn
    • Unigolyn â Gorchymyn Preswylio neu Orchymyn Trefniadau Plentyn ar gyfer y plentyn.
    • Rhiant Maeth Awdurdod Lleol os yw’r plentyn wedi byw gyda nhw am dros flwyddyn.

Y manteision

  • Ni fydd plentyn a oedd yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol cyn caniatáu SGO bellach yn Blentyn Sy’n Derbyn Gofal. Bydd unrhyw Orchmynion Gofal yn dod i ben.
  • Bydd yn cynnig sefydlogrwydd i’r plentyn.
  • Mae SGO yn hyrwyddo perthynas gydag aelodau o’r teulu heb ymyrraeth yr Awdurdod Lleol.
  • Bydd Gwarcheidwaid Arbennig yn cael mynediad at fudd-dal a chredydau treth a bydd ganddynt hawl i dderbyn taliadau Budd-dal Plant.

Cefnogaeth barhaus

  • Bydd pob Gwarcheidwad Arbennig yn cael cefnogaeth Gweithiwr Cymorth SGO am y flwyddyn gyntaf.
  • Gall Gwarcheidwaid Arbennig gysylltu â’r gwasanaeth cymorth SGO yn Sir y Fflint am gymorth, cyngor neu arweiniad ar unrhyw adeg yn ystod Gorchymyn (hyd yn oed os nad yw hyn yn ystod y 12 mis cyntaf). Gellir cysylltu â ni ar SGOSupport@flintshire.gov.uk
  • Bydd Gwarcheidwaid Arbennig yn cael newyddlen ddwywaith y mis ar e-bost a fydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw anghenion hyfforddi. Gallwch hefyd ymweld â’n gwefan.

Os ydych eisiau cysylltu â ni gallwch wneud hynny isod:

Cysylltwch â ni

Cwestiynau Cyffredin

Am faint fydd SGO yn para?

Mae SGO yn orchymyn parhaol a fydd yn para hyd nes bod y plentyn yn cyrraedd 18 oed.

Ydi SGO yn drech na chyfrifoldeb rhiant?

Mae’r SGO yn rhoi Cyfrifoldeb Rhiant dros y plentyn i’r Gwarcheidwad Arbennig fel petai’r plentyn yn blentyn iddyn nhw. Ni fydd y rhiant biolegol byth yn colli eu cyfrifoldeb rhiant pan gaiff SGO ei ganiatáu fodd bynnag ni allant fynd yn groes i ddymuniadau’r Gwarcheidwad Arbennig i arfer y cyfrifoldeb hwn.

A yw plentyn sy’n cael ei ofalu amdano o dan SGO yn Blentyn sy’n Derbyn Gofal?

Na, nid yw plentyn sy’n gael ei ofalu amdano o dan SGO yn cael ei ystyried yn blentyn sy’n ‘derbyn gofal’. Efallai y bydd y plentyn wedi cael ei ofalu amdano o dan Orchymyn Gofal cyn i SGO gael ei ganiatáu ac ar y pwynt hwnnw byddant wedi bod yn ‘Blentyn sy’n Derbyn Gofal’. Unwaith y caniateir SGO bydd y Gorchymyn Gofal yn darfod.

Pa gymorth ariannol sydd ar gael?

Bydd pob Gwarcheidwad Arbennig yn cwblhau asesiad ariannol cyn iddynt gael eu hasesu. Mae cymorth ariannol yn ddibynnol ar brawf modd a bydd yn rhaid darparu prawf o incwm a gwariant. Caiff yr asesiad ariannol ei adolygu’n flynyddol a gall ail-asesiad ddigwydd ar unrhyw adeg os bydd newid mewn amgylchiadau, er enghraifft colli swydd. Mae gan Warcheidwaid Arbennig hawl i fudd-dal a chredydau treth yn union yr un ffordd â rhieni biolegol.

Os bydd gennych bryderon ar unrhyw adeg am sut y gallwch ymdopi’n ariannol mae digonedd o gyngor a chymorth ar gael. Dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth Gwarcheidiaeth Arbennig yn y lle cyntaf.

Sut beth yw’r broses asesu SGO?

Caiff asesiad SGO fel arfer ei orchymyn gan y Llys a byddant yn ei ddefnyddio i’w helpu nhw i wneud penderfyniad ynghylch sefydlogrwydd. Mae’r asesiad yr dilyn yr un broses a’r asesiadau cyffredinol a phobl gysylltiedig a bydd yn cynnwys nifer o wiriadau statudol gyda’r gwasanaeth iechyd, prawf, cynghorau leol, yr heddlu a chyflogwyr. Bydd angen i chi roi manylion tri chanolwr.

Pa gymorth mae Gwarcheidwaid Arbennig yn ei derbyn?

Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol sy’n asesu yn cwblhau Cynllun Cymorth Gwarcheidiaeth Arbennig fel rhan o’r broses asesu. Bydd hyn yn ystyried anghenion cymorth y plentyn, y darpar Warcheidwad/aid Arbennig ac unrhyw un arall sy’n byw ar yr aelwyd. Bydd unrhyw anghenion cymorth a ddynodir yn cael eu hamlinellu ac yn cael sylw. Caiff y cynllun hwn ei adolygu 12 mis ar ôl caniatáu SGO a gall Gwarcheidwad/aid arbennig ofyn bod eu hanghenion cymorth yn cael eu hail-asesu ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod SGO.

Beth yw Cais Gwarcheidiaeth Arbennig preifat?

Os ydych wedi bod yn gofalu am blentyn sydd ddim yn blentyn sy’n derbyn gofal ac os ydych yn dymuno gwneud cais i’r llys am Gyfrifoldeb Rhiant, ystyrir hyn yn gais Gwarcheidiaeth Arbennig preifat. Bydd yn rhaid i chi ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol i roi gwybod iddynt eich bod yn bwriadu gwneud cais am Orchymyn gan roi 3 mis o rybudd cyn i chi wneud cais i’r llys. Ni all Llys wneud penderfyniad oni bai bod adroddiad SGO ar gael iddynt.

Faint fydd asesiad Gwarcheidiaeth Arbennig yn ei gymryd?

Mae’r Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (2005) a ddiweddarwyd yn 2016 yn argymell bod Awdurdod Lleol yn cwblhau adroddiad SGO o fewn 12 wythnos. Bydd y cyfnod o 12 wythnos yn dechrau pan fydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn eich Hysbysiad o Fwriad ysgrifenedig. Gellir oedi’r cyfnod hwn wrth aros am ganlyniad gwiriadau statudol ac ati.

Pa wybodaeth sydd ei hangen mewn asesiad SGO?

Mae’r adroddiad SGO yn cynnwys y canlynol: gwybodaeth am y plentyn, gwybodaeth am y rhiant/rhieni biolegol, gwybodaeth am y darpar warcheidwad a dymuniadau a theimladau’r unigolion cysylltiedig, y cymorth a’r gofynion statudol, materion allweddol perthnasol i’r SGO ac unrhyw Orchmynion y gellid eu gwneud, argymhellion y Gweithiwr Cymdeithasol sy’n asesu ac argymhellion ynghylch cyswllt rhwng y plentyn a’u teulu.

Pa benderfyniadau all Gwarcheidwad Arbennig ddim eu gwneud?

Heb ganiatâd y bobl eraill sydd â Chyfrifoldeb Rhiant, ni all y Gwarcheidwad Arbennig:

  • newid enw’r plentyn
  • mynd â’r plentyn allan o’r wlad am gyfnod hirach na 3 mis ar unrhyw un adeg.
  • rhoi caniatâd i’r plentyn cael ei fabwysiadu

Yn ychwanegol, dylai’r Gwarcheidwad Arbennig roi gwybod i’r rhiant/rhieni biolegol os bydd y plentyn yn mynd yn ddifrifol wael.

Pwy fydd yn gweld yr asesiad Gwarcheidiaeth Arbennig?

Bydd yr adroddiad yn cael ei weld gan y Barnwr, gwarcheidwad y plentyn a’r rhieni biolegol. Os oes unrhyw wybodaeth bersonol yn yr adroddiad na fyddech yn dymuno i’r rhiant/rhieni biolegol ei gweld, dylech drafod hyn gyda’r gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu a gofyn bod y wybodaeth honno’n cael ei golygu.

Beth os yw fy asesiad yn negyddol?

Os ydych yn cael eich hun yn y sefyllfa hon dylech ofyn am gopi o’r adroddiad terfynol a’r rheswm dros yr argymhelliad negyddol. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol sy’n Asesu yn ysgrifennu atoch ac yn disgwyl i chi ymateb ymhen 10-14 diwrnod i gael gwybod os ydych yn mynd i herio canlyniad yr asesiad a’ch rheswm dros hyn. Os bydd Llys yn credu bod eich rhesymau’n ddilys gallant ofyn i’r gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu ymgymryd ag atodiad pellach i’r asesiad neu ofyn bod asesiad newydd yn cael ei gwblhau gan weithiwr cymdeithasol annibynnol.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng SGO a gofal gan berthynas/gofal maeth?

Maen nhw i gyd yn gwireddu’r un canlyniad i’r plentyn yn eich gofal ond maent yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth wahanol. Mae gofal gan berthynas neu ofalwyr maeth cyffredinol yn cael ei reoli gan Reoliadau Maethu, a’r Awdurdod Lleol sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Yr Awdurdod Lleol fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau allweddol am fywyd y plentyn hwnnw. Bydd gan Warcheidwad Arbennig gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a gall wneud y penderfyniadau hyn heb ofyn am gymeradwyaeth yr Awdurdod Lleol. Nid yw’r plentyn yn un sy’n ‘Derbyn Gofal’ pan fydd o dan SGO.

Beth fydd yn digwydd os yw’r SGO yn chwalu?

Nid yw lleoliad Gwarcheidiaeth Arbennig bob amser yn hawdd ac mae llawer o resymau pam y gallai lleoliad chwalu. Yn y lle cyntaf byddech yn ceisio cymorth y Gwasanaeth Cymorth Gwarcheidiaeth Arbennig i weld pa gefnogaeth sydd ar gael i rwystro’r lleoliad rhag chwalu.

Os nad yw hyn yn bosibl, gallai’r Awdurdod Lleol ofyn i’r Gwarcheidwad Arbennig roi caniatâd i’r plentyn gael eu rhoi mewn gofal maeth prif ffrwd neu mewn gofal maeth unigolyn sy’n berthynas gydag aelod arall o’r teulu. Bydd yn ofynnol i’r Awdurdod Lleol wedyn geisio dod o hyd i ofal sefydlog amgen i’r plentyn.