Alert Section

Bathodyn Glas - Rhestr wirio i weld a ydych chi'n gymwys


Nod cynllun y Bathodyn Glas yw ei gwneud yn haws i bobl sydd â Bathodyn Glas fanteisio ar wasanaethau drwy ganiatáu iddynt barcio'n agosach i lle bynnag y maent am fynd.

Mae'r meini prawf i gael Bathodyn Glas fel arfer yn anelu at bobl sy'n cael trafferth symud ac yn cael budd-daliadau penodol, a bydd angen cynnal asesiad o'u gallu i symud. Mae'r meini prawf wedi eu hymestyn yn ddiweddar i gynnwys rhai pobl sydd â nam gwybyddol.

Mae'r meini prawf cymhwysedd wedi'u hysgrifennu mewn deddfwriaeth er mwyn gofalu bod y bathodynnau'n cael eu rhoi i'r bobl iawn.

Oes gennych chi hawl i'r budd-daliadau a ganlyn?

  • Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (HRMCDLA)
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel (WPMS)
  • Budd-dal ar ffurf cyfandaliad, tariffau 1-8, fel rhan o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, a chadarnhawyd bod gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n ei gwneud yn amhosibl, neu'n anodd iawn, i chi gerdded.
  • Tariff 6 - Anhwylder meddylion parhaol - cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Nam bach
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) sef:
    - Gweithgaredd symudedd 1, disgrifydd f, 12 pwynt; neu
    - Gweithgaredd symudedd 2, disgrifyddion c, d, e, neu f, 8-12 pwynt

Ydw

Mae hyn yn golygu'ch bod yn gymwys i gael bathodyn yn awtomatig. Gallwch wneud cais ar-lein drwy ddefnyddio'r botwm isod. Bydd yn rhaid i chi, fodd bynnag, ddangos dogfennau gyda'ch cais. Dyma'r dogfennau y bydd angen i chi eu dangos:

Prawf o bwy ydych chi

Bydd angen i chi ddangos un o'r isod:

  • Tystysgrif geni / mabwysiadu
  • Tystysgrif priodas / ysgariad
  • Tystysgrif partneriaeth sifil/diddymu partneraeth sifil
  • Trwydded yrru ddilys
  • Pasbort dilys

Prawf o ble rydych yn byw

Gallwch brofi lle'r ydych yn bwy mewn gwahanol ffyrdd, sef:

  • Bil Treth Gyngor
  • Caniatáu i ni chwilio am gofnodion eich treth gyngor, y gofrestr etholiadol / cofnodion ysgol ar eich rhan

Llun i'w roi ar y Bathodyn Glas

Dylai hwn fod yn debyg i lun pasbort, a rhaid iddo fod yn un diweddar. Dylai ddangos wyneb llawn y person sy'n gwneud y cais, er mwyn medru ei adnabod yn hawdd ac ni ddylai neb arall fod yn y ffotograff. Bydd y ffotograff yn cael ei osod ar gefn y bathodyn ac ni fydd i'w weld pan fydd wedi'i osod ar y cerbyd. Gall un o'n cynghorwyr cwsmeriaid dynnu'r llun yn un o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

Prawf eich bod yn cael budd-dâl

Gan ddibynnu ar y math o fudd-dâl rydych yn ei gael, bydd angen i chi ddangos yr isod:


Budd-dalTystiolaeth
Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (HRMCDLA) Y llythyr dyfarnu HRMCDLA gwreiddiol - dyddiedig o fewn 12 mis cyn gwneud y cais
Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel Y llythyr gwreiddiol yn dweud bod gennych hawl iddo
Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog - tariff 1-8 Y llythyr dyfarnu gwreiddiol, sydd hefyd yn tystio bod gennych nam parhaol a sylweddol sy'n ei gwneud yn amhosibl, neu'n anodd iawn, i chi gerdded.
Tariff 6, – Anhwylder Meddylion Parhaol yng Nghynllun Iawndal y Lluoedd Arfog. Y llythyr dyfarnu gwreiddiol sy'n dangos bod yr ymgeisydd yn cael tariff 6, - Anhwylder Meddylion Parhaol yng Nghynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
Nam bach Adroddiad gan Ophthalmolegydd neu ffurflen CV1/BD8 sy'n dangos eich bod wedi cofrestru â'r awdurdod lleol fel rhywun â nam ar eich golwg
Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) sef:
- GWeithgaredd Symudedd 1, disgrifydd f, 12 pwynt; neu
- GWeithgaredd Symudedd 2, disgrifyddion c, d, e, neu f, 8-12 pwynt
Y llythyr dyfarnu gwreiddiol sy'n dangos y sgôr am bob gweithgaredd yn glir & llythyr gwybodaeth blynyddol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sut rydw i'n darparu'r dogfennau hyn?

Gwneud cais ar-lein 

Neu

Argraffu ffurflen gais (awtomatig yn unig)

Na

Ai 'Oes/Ydw' yw'r ateb i unrhyw un o'r cwestiynau a ganlyn?

  • Oes gennych chi anabledd parhaol a sylweddol sy'n ei gwneud yn amhosibl, neu'n anodd iawn, i chi gerdded?
  • Ydych chi'n gyrru cerbyd yn rheolaidd a chithau ag anabledd yn y ddwy fraich, sy'n ei gwneud yn amhosibl, neu'n anodd iawn, i chi ddefnyddio offer parcio, neu rai mathau o offer parcio?
  • Oes gennych chi ffurflen achosion arbennig DS1500 ar gyfer pobl sy'n derfynol wael? (sylwch y bydd yn rhaid dangos ei bod yn anodd i chi symud)
  • Oes gennych chi blentyn, neu ydych chi'n gofalu am blentyn, sydd, oherwydd ei gyflwr, yn gorfod cael offer meddygol swmpus gydag ef neu hi bob amser, ac ni ellir ei gario o gwmpas gyda'r plentyn heb gryn anhawster?
  • Oes gennych chi blentyn, neu ydych chi'n gofalu am blentyn, sydd, oherwydd ei gyflwr, yn gorfod aros yn agos at gerbyd rhag ofn y bydd angen trin ei gyflwr yn y cerbyd neu rhag ofn y bydd angen mynd â'r plentyn yn gyflym i rywle lle gellir ei drin?

Ydw/Oes     Nac oes / Nac ydw