Wyneb yn wyneb
Mae’n bosib y byddwn yn cadw cofnod o'ch ymweliad â ni er mwyn ein helpu i gyflawni a gwella'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi ac eraill. Bydd unrhyw gofnodion o'r fath sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol yn cael eu cadw'n ddiogel.
Galwadau ffôn
Dim ond yn y Tîm Dyletswydd Brys y caiff galwadau eu recordio. Byddwch yn cael gwybod eich bod yn cael eich recordio ar adeg y sgwrs. Efallai y byddwn yn gwneud hyn i gynyddu eich diogelwch; fel bod gennym gofnod o alwad sy'n digwydd a/neu at ddibenion hyfforddi ac ansawdd.
Negeseuon e-bost
Os byddwch yn anfon e-bost atom, efallai y byddwn yn cadw eich e-bost fel cofnod eich bod wedi cysylltu. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost. Ni fyddwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol nac unrhyw wybodaeth gyfrinachol fel arall mewn unrhyw e-bost a anfonwn atoch oni bai ei fod yn cael ei anfon yn ddiogel neu eich bod wedi cytuno i ni gysylltu â chi gyda'r wybodaeth hon yn y ffordd hon. Byddem hefyd yn argymell eich bod yn cadw faint o wybodaeth bersonol neu gyfrinachol a anfonwch atom drwy e-bost i'r lleiafswm.
Ar-lein
Ar ein gwefan gallwch ddod o hyd i ddolenni eraill i wefannau allanol, yr ydym wedi eu darparu er gwybodaeth a hwylustod i chi. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Gyngor Sir y Fflint yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y safleoedd hynny. Pan fyddwch yn ymweld â gwefannau eraill, awgrymwn eich bod yn cymryd amser i ddarllen eu hysbysiadau preifatrwydd.