Hoffem glywed gennych - Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion.
Mae arnom eisiau i’r gwasanaethau rydym yn eu darparu fod y rhai gorau bosibl a dyma pam bod eich adborth yn bwysig i ni.
Rydym yn gobeithio eich bod yn hapus â’r gwasanaeth a gawsoch gennym, ac os felly, rhowch wybod i ni!
Fodd bynnag, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, weithiau mae’n bosibl y byddwch yn anhapus neu’n bryderus am y gwasanaeth a gawsoch, neu efallai eich bod yn dymuno gwneud awgrym fyddai’n ein helpu i’w wella.
Rydym yn defnyddio pob canmoliaeth, sylw neu gŵyn gyda’n timau i nodi’r hyn rydym yn ei wneud yn dda a sut y gallwn wella.
Dylai’r wybodaeth isod eich helpu gyda phopeth y bydd arnoch angen ei wybod.
Pwy all wneud cwyn neu sylw?
Os ydych yn anhapus â’ch gofal neu gefnogaeth, mae gennych hawl i gwyno. Safonau uchel yw ein nod, ond weithiau mae pethau’n mynd o chwith. Ond os na fyddwch yn dweud wrthym, ni fyddwn yn gwybod eich bod yn anhapus. Os byddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn gallu gweithio gyda chi i wneud pethau’n iawn cyn gynted â phosibl.
Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd wneud cwyn, yn cynnwys plentyn sydd wedi cael, neu oedd â hawl i gael gofal cymdeithasol wedi’i ddarparu gan Gyngor Sir y Fflint neu wasanaeth a gomisiynwyd gan y Cyngor.
Gallwch gysylltu â’r Swyddog Cwynion gyda’ch sylw, canmoliaeth neu gŵyn neu gall rhywun arall wneud hynny ar eich rhan.
Canmoliaeth
Rydym hefyd eisiau clywed gennych os ydych chi’n credu ein bod wedi gwneud rhywbeth yn dda. Gallech fod eisiau canmol eich Gweithiwr Cymdeithasol neu eich Gofalwr. Mae’n bwysig ein bod yn clywed am unrhyw waith da y gallai rhywun fod wedi ei wneud gyda chi. Gallwch gysylltu â’r Swyddog Cwynion, a fydd yn sicrhau bod eich canmoliaeth yn cael ei rhannu â’r aelod o staff dan sylw, yn ogystal â Rheolwyr a Chynghorwyr. Mae manylion cyswllt y Swyddog Cwynion isod.
Sut ydw i’n gwneud Cwyn neu roi Canmoliaeth?
Mae pob canmoliaeth a chwyn yn cael eu cofnodi a’u rheoli gan y Swyddog Cwynion.
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol, neu pam rydych yn anhapus, ac fe fyddwn ni’n gwrando. Nod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yw darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai achlysuron pan fydd pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau neu eisiau eu defnyddio yn dymuno gwneud sylw neu gwyno am y gwasanaeth maen nhw’n ei gael.
Pan fyddwch yn mynegi eich pryderon neu gŵyn byddwn yn gwrando. Mae angen i ni wybod os nad yw pethau’n mynd yn iawn neu ddim yn mynd fel y bwriadwyd er mwyn i ni allu adolygu'r sefyllfa a helpu i wneud pethau’n iawn i chi.
Peidiwch â bod ofn cwyno a gallwn eich sicrhau na fydd y ffaith eich bod yn gwneud cwyn yn cael unrhyw effaith ar y gefnogaeth rydych yn ei chael gennym nac ar unrhyw gyswllt rydych yn ei gael gyda ni yn y dyfodol.
Cam 1 – Datrysiad Lleol
Credwn mai’r peth gorau i’w wneud yw ymdrin ag unrhyw fater ar unwaith yn hytrach na cheisio datrys y broblem yn nes ymlaen. Os oes gennych bryder, rhowch wybod i’r unigolyn yr ydych yn delio â nhw (e.e. eich Gweithiwr Cymdeithasol). Byddant yn ceisio datrys hyn i chi yn y fan a’r lle.
Os na allwn ddatrys eich cwyn ar unwaith neu erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf, gallwch gysylltu’n uniongyrchol â’r Swyddog Cwynion. Gallwch wneud hyn wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ar bapur neu drwy e-bost. Gellir cysylltu â’r Swyddog Cwynion ar y manylion uchod.
Ar ôl derbyn eich cwyn:
- Byddwn yn cofnodi ac yn cydnabod eich cwyn cyn pen 2 ddiwrnod gwaith ar ôl ei derbyn.
- Ein nod yw ymateb i chi cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl cydnabod eich cwyn.
- Bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod y problemau’n cael eu datrys ar y cam hwn.
- O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn awgrymu cyfryngu neu ddull arall i geisio dod i hyd i ddatrysiad.
Cam 2 – Ystyriaeth Ffurfiol
Os nad ydych yn fodlon gyda’n hymateb yng Ngham 1, mae hawl gennych i ofyn i’ch cwyn gael ei hymchwilio’n annibynnol yng Ngham 2.
Bydd y Swyddog Cwynion yn trafod eich cais yn fanylach gyda chi a byddwn yn penodi Ymchwilydd Annibynnol i ymchwilio i’ch cwyn.
Dylai’r ymchwiliadau hyn gymryd 25 diwrnod gwaith i’w cwblhau, ond efallai y bydd angen mwy o amser yn dibynnu ar gymhlethdod y gŵyn.
Mae gennych yr hawl i fynd â’ch cwyn yn syth i Gam 2, ond credwn mai’r ffordd gyflymaf a symlaf i ddatrys eich problemau yw gwneud hyn yng Ngham 1.
Bydd adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol yn cael ei anfon at Wasanaethau Cymdeithasol i ddechrau iddyn nhw ystyried y darganfyddiadau a’r argymhellion. Yna bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn anfon ymateb ffurfiol atoch ynghyd â’r adroddiad. Dyma weithdrefn arferol fel y gwelir yn Rheoliadau (Cymru) Gweithdrefn Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cynhelir archwiliad ffurfiol Cam 2 os:
- Ydych yn parhau i fod yn anhapus ar ôl i Reolwr o Wasanaethau Cymdeithasol ymateb i’ch cwyn yng Ngham 1.
- Rydych wedi mynnu ar eich hawl i fynd â’ch cwyn i’r cam hwn ac felly’n osgoi Cam 1.
- Mae Gwasanaethau Cymdeithasol wedi symud y mater ymlaen i’r cam hwn oherwydd cymhlethdod a difrifoldeb yr achosion a godwyd.
Beth yw Cam 2 (Ymchwiliad Ffurfiol)?
Ar Gam 1 bydd Rheolwr o Wasanaethau Cymdeithasol wedi edrych ar eich cwyn ac wedi ymateb gyda’u darganfyddiadau. Dyma gyfle Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud iawn am bethau os ydyn nhw wedi mynd o’i le, neu os ydi’r prosesau cywir wedi cael eu dilyn, bydd hynny’n cael ei egluro i chi.
Ymchwiliad ffurfiol Cam 2 yw ymchwiliad wedi’i gomisiynu gan y Swyddog Cwynion i edrych ar yr achosion a godwyd gennych yn annibynnol. Bydd Ymchwilydd Annibynnol yn cael ei benodi. Nid ydyn nhw’n gweithio i Gyngor Sir y Fflint, ond mae ganddyn nhw gefndir gofal cymdeithasol a phrofiad o ymchwilio i gwynion.
Mae gennych yr hawl i gael eich cefnogi gan Eiriolwr yn ystod y cam hwn (os wnaethoch chi ddefnyddio Eiriolwr ar Gam 1, bydd disgwyl iddyn nhw barhau i’ch cefnogi chi).
Beth sy’n digwydd yn ystod Cam 2?
Bydd y Swyddog Cwynion yn cyfarfod â chi i drafod eich cwyn yn fanwl a’r canlyniadau rydych yn chwilio amdanynt.
Beth yw rôl yr Ymchwilydd Annibynnol?
- Ymchwilio eich cwyn drwy ymarfer darganfod ffeithiau sy’n ddiduedd, agored a chymesur i ddifrifoldeb y gwyn.
- Darllen cofnodion achos perthnasol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a chyfweld rheolwyr neu staff sy’n rhan o’r gwyn.
- Llunio adroddiad o’u darganfyddiadau a gwneud argymhellion adeiladol, cymesur a chyraeddadwy.
Byd cwynion am Wasanaethau Cymdeithasol Plant yn benodol hefyd yn cynnwys Unigolyn Annibynnol. Eu rôl yw:
- Cymryd rhan yn yr ymchwiliad a sicrhau ei fod yn deg ac yn ddiduedd, a bod pawb sy’n rhan ohono yn gallu mynegi eu safbwyntiau yn llawn a heb unrhyw bwysau.
- Goruchwylio adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol a chadarnhau ei fod yn darparu darlun llawn a chywir o’r ffordd y mae’r Gwyn wedi cael ei thrin.
Beth sy’n digwydd ar ôl gorffen Cam 2?
Bydd adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol yn cael ei anfon at Wasanaethau Cymdeithasol i ddechrau iddyn nhw ystyried y darganfyddiadau a’r argymhellion. Yna bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn anfon ymateb ffurfiol atoch ynghyd â’r adroddiad. Dyma weithdrefn arferol fel y gwelir yn Rheoliadau (Cymru) Gweithdrefn Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dylai’r ymchwiliad ac ymateb yr Adran gael ei gwblhau o fewn 25 diwrnod gwaith ohonoch yn cytuno i grynodeb o’ch cwyn gyda’r Swyddog Ymchwilio.
Os am unrhyw reswm y bydd yr ymchwiliad yn gor-redeg (h.y. staff allweddol ar eu gwyliau neu fod yna nifer sylweddol o achosion i’w hymchwilio), byddwch yn cael gwybod am hyn gan y Swyddog Cwynion ynghyd â dyddiadau cwblhau disgwyliedig. Credwn ei fod yn bwysig i’r Swyddog Ymchwilio gwblhau ymchwiliad trylwyr ac o safon a’i fod ddim yn cael ei frysio neu’n methu â mynd i’r afael â’r achosion a godwyd.
Cewch y cyfle i gwrdd â’r Swyddog Cwynion ac i fynd trwy ddarganfyddiadau’r adroddiad a’r ymateb gan Wasanaethau Cymdeithasol.
Bydd y Swyddog Cwynion yn ychwanegu’r argymhellion a gytunwyd arnynt i gynllun gweithredu ‘gwersi a ddysgwyd’ parhaus, a bydd y cynnydd yn cael ei adolygu gan uwch reolwyr bob chwarter a’i adrodd i Gynghorwyr.
Mae gennych hawl i ofyn i rywun arall eich cefnogi i wneud eich cwyn.
Mae gan Sir y Fflint amryw o sefydliadau di-dâl ac annibynnol a all eich helpu i leisio eich barn a’ch cefnogi i wneud cwyn.
Oedolion
Os ydych yn oedolyn sy’n mynegi cwyn, gall Llais, eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu. Mae Llais yn gorff annibynnol a gall ei wasanaeth eirioli am ddim roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno codi pryder.
Gall Llais eich cefnogi i godi pryder a rhoi cyngor ar y ffordd orau ymlaen. Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan.
Manylion cyswllt Llais:
- Gwefan: Llais
- E-bost: ymholiadaugogleddcymru@llaiscymru.org
- Ffôn: 01978 356178 / 01248 679284
Os ydych chi’n iau na 18 oed
Byddwn yn trefnu eiriolydd o TGP Cymru i chi os ydych yn hapus i ni wneud hynny.
Mae TGP Cymru yn cynnig Gwasanaethau Eirioli Proffesiynol Annibynnol i blant a phobl ifanc sy’n byw yn Sir y Fflint. Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan.
- Gwefan: TGP Cymru
- E-bost: northwalesadvocacy@trosgynnalplant.org.uk
- Ffôn: 0800 111 6880
Gwasanaethau eirioli eraill
Mae gan Sir y Fflint hefyd ystod o sefydliadau di-dâl ac annibynnol a all eich helpu i leisio eich barn a’ch cefnogi i wneud cwyn.
Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru (GEGDdC)
Mae Gwasanaethau Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn cefnogi gwaith gydag oedolion, pobl hŷn, pobl iau gyda dementia a gofalwyr.
Cymdeithas Cyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru
Mae Cymdeithas Cyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru yn rhoi cyngor ac eiriolaeth i bobl gydag anableddau dysgu.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC)
Comisiynydd Plant Cymru
Gall Comisiynydd Plant Cymru gynghori a chefnogi plant a phobl ifanc (a’u rhieni/gofalwyr) sydd o dan 18 oed (neu dan 25 oed os ydynt wedi bod mewn gofal).
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos gyda llawer o sefydliadau eraill. Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth rydym wedi ei ddarparu ar y cyd â sefydliad arall e.e. pecyn gofal gan staff iechyd a gofal cymdeithasol, byddwn yn edrych ar eich cwyn gyda’n gilydd ac fel arfer yn anfon un ymateb.
Mae’n bosibl y bydd gennych gŵyn am wasanaeth rydym wedi’i drefnu (comisiynu) i chi gyda darparwr gofal arall, megis cartref gofal nyrsio neu breswyl, asiantaeth gofal yn y cartref neu wasanaeth dydd. Bydd gan bob sefydliad ei phroses gwyno ei hun ac fel arfer, byddwn yn anfon eich cwyn atynt a sicrhau eu bod yn ymdrin â hi. Byddwn yn dweud wrthych yn union beth ydym yn ei wneud.
Os ydych eisoes wedi cwyno i sefydliad arall a gomisiynir gennym ni i ddarparu eich gofal ac os nad ydych yn hapus gyda’u hymateb, gallwch gysylltu â ni i ofyn i ni ymchwilio ymhellach.
Os byddwch yn gwneud cwyn neu sylw, pan fo’n bosibl byddwn yn parchu eich hawl i gyfrinachedd. Ond bydd angen i ni rannu’r wybodaeth a roddwch i ni gydag eraill er mwyn ymdrin â’ch cwyn. Dim ond os oes angen y byddwn yn gwneud hyn.
I wybod mwy am y ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth fel rhan o’n proses gwynion, gallwch gael golwg ar ein hysbysiadau preifatrwydd. Os nad ydych yn gallu cael gafael ar yr hysbysiadau preifatrwydd ar-lein ac os oes arnoch eisiau copi, cysylltwch â’r Swyddog Cwynion ar y manylion uchod.