Alert Section

Cyfrifiad Plant sy'n derbyn gofal a chymorth


Hysbysiadau preifatrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer setiau data’r Cyfrifiad Plant sy’n derbyn gofal a chymorth

Dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016 mae’n ofynnol i awdurdodau lleol roi i Lywodraeth Cymru is-set o’r wybodaeth sydd ganddynt am blant sy’n derbyn gofal a chymorth sy’n cael gwasanaethau, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r is-set hon i fonitro perfformiad awdurdodau lleol a chyflawni gwaith ymchwil a dadansoddi ehangach gan gynnwys, er enghraifft, gwaith sy’n ymwneud â datblygu polisi a datblygu arfer gorau.

Caiff yr is-set hon ei phennu gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, a bydd ar ffurf cyfres o bigion allan o ddata ar lefel plant unigol (heb yr enwau), a elwir yn “Gyfrifiad Plant sy’n derbyn gofal a chymorth” ac yn “Ymarfer Casglu Data am Blant sy’n Derbyn Gofal Llywodraeth Cymru”.

Mae’r is-set o ddata ynghylch Plant sy’n Derbyn Gofal a chymorth yn cynnwys rhif unigryw disgybl ar gyfer pob plentyn, os yw ar gael. Bydd mynediad i rif unigryw disgybl plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn galluogi Llywodraeth Cymru i gysylltu’r data â chofnodion addysgol ac asesu gwybodaeth am nodweddion a chyrhaeddiad addysgol y plant dan sylw.

Wrth gysylltu’r data, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gweld enw’r plentyn sydd yn y data am addysg wrth brosesu neu ddadansoddi data o’r is-set ynghylch Plant sy’n Derbyn Gofal a chymorth, ac ni fydd Llywodraeth Cymru chwaith yn defnyddio’r wybodaeth sy’n ei gwneud yn bosibl adnabod unigolyn, er mwyn cymryd unrhyw gamau gweithredu mewn perthynas â phlentyn unigol neu er mwyn adnabod unrhyw blentyn unigol mewn adroddiad. 

Hysbysiadau preifatrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer setiau data’r Cyfrifiad Plant sy’n derbyn gofal a chymorth a’r Ymarfer Casglu Data am Blant sy’n Derbyn Gofal: Sut rydym yn defnyddio’ch data ar gyfer yestadegau ac ymchwil

Gellir gweld rhagor o wybodaeth sy’n esbonio’r hysbysiad hwn yn fanylach ar:Hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru i blant sy'n derbyn gofal a chymorth gan awdurdodau lleol 

Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y modd y bydd data amdanoch chi (neu am eich plentyn) yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, cysylltwch â Thîm Casglu Data Llywodraeth Cymru yn ysgrifenedig gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. 

Tîm Casglu Data
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Llawr 4 y De, CP2, Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ 

E-bost: stats.pss@wales.gsi.gov.uk