Mae cymuned sy'n gyfeillgar i oed yn cefnogi pobl hŷn i wneud penderfyniadau ynglŷn â lle maent yn byw, gan alluogi  pobl i aros yn eu cartrefi hunain wrth iddynt heneiddio, neu i ddod o hyd i lety sy'n addas i'w hanghenion yn agos at y bobl a'r llefydd sydd yn bwysig iddynt.
 

Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma? 
- Cynlluniau sy’n helpu i addasu cartrefi i gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain
 
- Amrywiaeth o gynlluniau tai i gwrdd ag anghenion unigolion
 
- Gwasanaethau darparu prydau iach/fforddiadwy
 
- Prosiectau sy’n galluogi preswylwyr cartrefi gofal i gymryd rhan yn y gymuned