Alert Section

Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth

Mae llawer o bobl hŷn eisiau bod yn rhan o agweddau o fywyd y gymuned megis gwirfoddoli, bod yn wleidyddol weithgar neu gymryd rhan mewn grwpiau a chlybiau lleol. Mae helpu pobl hŷn i aros yn eu gwaith neu ddod o hyd i waith newydd yn gwella eu diogelwch economaidd a'u hannibyniaeth ac mae o fudd i'r economi ehangach drwy fanteisio ar eu sgiliau a'u profiad.

Civic participation and Employment

Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma?

  • Cefnogaeth ar gyfer gwirfoddoli a grwpiau cymunedol a grwpiau eraill sy’n cynrychioli pobl hŷn
  • Hyfforddiant a chefnogaeth i helpu pobl hŷn i wirfoddoli a/neu gael gwaith
  • Cyfleoedd cyllido i grwpiau a gweithgareddau cymunedol

Astudiaethau Achos

Caffis Trwsio Sir y Fflint

Mae gan bobl hŷn ddiddordebau amrywiol, ac mae nifer o bobl hŷn yn awyddus i fod yn rhan o ystod eang o weithgareddau fel gweithio, gwirfoddoli, bod yn weithgar yn wleidyddol neu gymryd rhan mewn grwpiau neu glybiau lleol. Yn aml gall sgiliau a phrofiad pobl hŷn, sydd wedi eu datblygu yn ystod eu hoes, gael eu hanwybyddu. Gall cefnogi pobl hŷn i wirfoddoli a rhannu eu sgiliau roi synnwyr cynyddol o bwrpas ac ymdeimlad o berthyn iddynt, gwella eu lles ac mae hyn hefyd o fudd i’r gymuned leol.

Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, eu canolfan wirfoddoli a gyda grwpiau a chlybiau pobl hŷn ar hyd a lled Sir y Fflint, rydym wedi canfod unigolion gyda sgiliau gwerthfawr yn y grefft o drwsio ac atgyweirio eitemau’r cartref i weithio gyda Chaffi Trwsio Cymru i wirfoddoli mewn Caffi Trwsio lleol.

Mae Caffi Trwsio Cymru yn agor ac yn cefnogi caffis trwsio ar hyd a lled Cymru. Yn eu ffurf symlaf, mae caffis trwsio yn ddigwyddiadau dros dro a gaiff eu cynnal ar ddyddiadau rheolaidd lle gall y gymuned leol gael atgyweirio eitemau o’r cartref sydd wedi torri a hynny yn rhad ac am ddim gan wirfoddolwyr. Ymhlith y mathau o bethau y bydd y Caffi Trwsio yn eu hatgyweirio mae eitemau o’r cartref sydd wedi difrodi neu wedi torri fel dillad, nwyddau trydanol, technoleg, gwaith coed, teganau plant, dodrefn a beiciau.

Er bod rhai o’r gwirfoddolwyr yn arbenigwyr, dim ond pobl sy’n hoffi trwsio ac atgyweirio yw rhai eraill. Nid yw rhai yn ymarferol o gwbl ond gallant drefnu digwyddiadau’r Caffi Trwsio, helpu gyda’r gwaith gweinyddol neu ofalu am y ddesg flaen. Mae’r gwirfoddolwyr wedi galluogi 5 caffi trwsio newydd i agor yn Sir y Fflint, tri yn Yr Wyddgrug, un yn Sandycroft ac agorodd y diweddaraf yn Neuadd y Dref y Fflint yn Ionawr 2024.

Bob mis mae gwirfoddolwyr y Caffi Trwsio yn trwsio pethau a fyddai fel arall yn cael eu taflu i ffwrdd. Wrth wneud hynny maent yn helpu i achub yr amgylchedd, rhannu sgiliau gyda phobl sydd angen pethau wedi eu trwsio, a chyfarfod pobl sydd o’r un anian â nhw. Mae rhestr lawn o’r Caffis Trwsio ar hyd a lled Cymru yma: https://repaircafewales.org/cy/events/. Os hoffech ddarganfod mwy neu os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn wirfoddolwr neu hyd yn oed cychwyn Caffi Trwsio yn eich ardal, ewch i: https://repaircafewales.org/cy/get-involved/.

Parthau Ychwanegol

Social Participation

Cyfranogiad cymdeithasol

Respect and Social Inclusion

Parch a chynhwysiant cymdeithasol