Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Gofal Plant wedi'i ariannu i blant 2 oed yn Sir y Fflint.
Mae Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi y bydd gofal plant wedi ei ariannu ar gyfer plant 2 oed cymwys ar gael.
Cymhwysedd a Hawliad
Bydd eich plentyn yn gymwys i gael gofal plant wedi'i ariannu y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn 2 oed hyd at ddiwedd y tymor y byddant yn troi'n 3 oed.
Mae gan blant yr hawl i 12.5 awr o ofal plant yr wythnos (sesiwn 2.5 awr y diwrnod, hyd at 5 diwrnod yr wythnos) yn ystod y tymor yn unig. Gall fod amgylchiadau lle byddwch eisiau i’ch plentyn fynychu llai na 5 diwrnod, a/neu efallai y byddwch eisiau addasu’r sesiynau. Gallwch drafod hyn gyda'ch darparwr gofal plant a'ch Tîm Blynyddoedd Cynnar.
Lleoliadau Gofal Plant Cofrestredig
| Mae fy mhlentyn yn cael ei ben-blwydd yn ddwy oed rhwng | y cyfnod mae cyllid ar gyfer gofal plant yn dechrau |
| 1 Medi - 31 Rhagfyr |
Ionawr (Tymor y Gwanwyn) |
| 1 Ionawr – 31 Mawrth |
Ebrill (Tymor yr Haf) |
| 1 Ebrill – 31 Awst |
Medi (Tymor yr Hydref) |
Rhaid i'ch darparwr gofal plant dewisol fod wedi'i gofrestru i ddarparu gofal plant a ariennir gan blant 2 oed, gweler ein rhestr gyfredol o ddarparwyr trwy glicio ar y ddolen isod.
Lleoliadau Gofal Plant Cofrestredig
| Ardal | Enw | Rhif Ffôn |
| Abermorddu |
ABERMORDDU KIDS CLUB |
07837 350397 |
| Alltami |
COUNTRY HOUSE CHILDCARE |
07917 770903 |
| Bagillt |
HOLYWELL CHILDCARE LTD |
01352 713929 |
| MERLLYN CHILDCARE |
01352 733366 |
| Brychdyn |
CERI MORRIS |
07824 700428 |
| CORAL’S CHILDMINDING |
07799 620840 |
| LOWRI WILLIAMS |
07538 703055 |
| S4YC @ ROCKING HORSE DAY NURSERY |
07946 062750 |
| SARA’S LITTLE EXPLORERS (Gwarchodwr Plant) |
07516 316509 |
| Bwcle |
CATHERINE MORRIS |
07759 817272 |
| EMMA’S CHILDMINDING |
07483 824658 |
| FIRST STEPS DAY NURSERY |
01244 547990 |
| HAWKESBURY PLAYGROUP |
01244 541327 |
| LITTLE RAYS EARLY YEARS HUB |
07895 427588 |
| OAKTREE CHILDREN’S CENTRE |
01244 550839 |
| PENGUIN DAYCARE |
07955 114184 |
| SHELLY IACURTI (Gwarchodwr Plant) |
07590 631490 |
| Caergwrle |
SEREN BACH CHILDMINDING |
07793 323044 |
| Cefyn-y-Bedd |
NICOLA JANE BECK |
07712 669245 |
| Cei Connah |
CABAN CAE’R NANT |
07592 810235 |
| JIGSAW PLAYGROUP |
01244 830080 |
| KELSTERTON PLAYGROUP |
07590 288566 |
| SIAN’S CHILDMINDING SERVICES |
07766 750543 |
| SQUIB & SQUIDGE CHILDMINDING |
07831 803031 |
| TOYBOX DAY NURSERY |
01978 267159 |
| WEPRE PRIMARY SCHOOl OUT OF SCHOOL CLUB |
01244 830104 |
| Coed-llai |
LEESWOOD UNDER FIVES PLAYGROUP |
07851 975198 |
| Ewlo |
BUSY BEES DAY NURSERY |
01244 537787 |
| HIGHWAY PLAYDAYS NURSERY |
01244 520259 |
| PENARLAG WRAP AROUND CARE AND HOLIDAY CLUB |
07743225161 |
| Garden City |
GARDEN CITY CHILDCARE |
07775 221449 |
| LITTLE ANGELS (Gwarchodwr Plant) |
01244 470160 |
| Gronant |
ALL ABOUT KIDS CHILDCARE |
07990 760302 |
| Gwernaffield |
SUNBEAMS PLAYGROUP |
07593 233467 |
| Maes Glas |
GREENFIELD PLAYGROUP |
07593 864016 |
| LITTLE LADYBIRDS CHILDMINDING |
07917 631859 / 07920 838910 |
| Kinnerton |
JANE BARHAM |
07815 098925 |
| KINNERTON LITTLE ACORNS |
07594 265652 |
| Mancot |
SANDYCROFT FLYING START PLAYGROUP |
01244 538624 / 07572 008213 |
| Mynydd Isa |
ARGOED PLAYGROUP |
07594 216148 |
| JANE MAY |
07790 348174 |
| KATE’S DAY NURSERY |
01352 751195 |
| Nannerch |
Nannerch Under 5's |
07737 836669 |
| Nercwys |
SUNRAY DAY CARE NURSERY LTD (O fis Tachwedd 2026) |
01352 700329 |
| Penarlag |
S4YC @ KINGFISHER HOUSE DAY NURSERY |
01244 530198 |
| THE HIGHWAY DAY NURSERY |
01244 537259 |
| Pen-y-ffordd, Treffynnon |
CYLCH MEITHRIN YSGOL MORNANT |
07510 441119 |
| PEN-Y-FFORDD AND FFYNNONGROYW PLAYGROUP |
07984 047318 |
| Penyffordd / Penymynydd |
HOPE GREEN DAY NURSERY |
01978 761033 |
| LYNSEY HUGHES |
01244 545375 |
| STEPPING STONES DAY NURSERY |
01244 544594 |
| Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy |
LITTLE STARS DEESIDE LTD |
01244 280020 |
| Rhosesmor |
TINY TOTS |
01352 780265 |
| Saltney |
MICHELLE CARPENTER (Gwarchodwr Plant) |
07765 388937 |
| Saltney Ferry |
SALTNEY SMALLSTEPS PLAYGROUP |
07510 304962 |
| Shotton |
CLAIRE’S CHILDCARE (Gwarchodwr Plant) |
07837 050987 |
| CYLCH MEITHRIN TY MAIR GLANNAU DYFRDWY |
07950 716432 |
| JOANNE BROOMFIELD (Gwarchodwr Plant) |
07855 462799 |
| LI’L ANGELS DAY NURSERY |
01244 811880 |
| Shotton Uchaf |
THE CROFT PLAYGROUP |
07946 318902 |
| Sychdyn |
SYCHDYN PLAYGROUP |
07508 952847 |
| Treffynnon |
CARMEL PLAYGROUP |
07715 647791 |
| CYLCH CHWARAE TREFFYNNON |
07484 905714 |
| EARLY EXPLORERS FLEXI CARE |
07301 969336 |
| KIDS PLANET MEITHRIN DYDDIOL BRYNFORD |
01352 715100 |
| ROOTS AND WINGSCHILD DAY CARE LTD |
01352 748964/ 07955 125778 |
| ST WINEFRIDE’S PLAYGROUP |
07938 061871 |
| THE FUN CLUB, YSGOL MAES Y FELIN |
07871 068462 |
| Treuddyn |
CHEEKY RASCALZ CHILDCARE (Gwarchodwr Plant) |
07738 285407 |
| CYLCH MEITHRIN TERRIG |
01352 770235 |
| TREUDDYN UNDER 5’S PLAYGROUP |
07932 539944 |
| Y Fflint |
CYLCH MEITHRIN TY MAIR |
07950 716432 |
| CILFAN@CORNIST |
01352 735657 |
| TEDDY BEAR TOWERS DAY NURSERY |
01352 763089 |
| THE OAKS DAY NURSERY |
01352 761598 |
| TYRRAU BACH (SAFLE YSGOL GWYNEDD) |
07469 357474 |
| Yr Wyddgrug |
BRYN COCH CLUB |
07566 252495 |
| BRYN GWALIA EARLY YEARS PLAYGROUP |
07752 217212 |
| BUTTERCUPS DAY NURSERY LTD |
01352 751267 |
| CYLCH MEITHRIN GLANRAFON |
07548 217315 |
| RISE AND SHINE DAY NURSERY |
01352 756432 |
| STEP BY STEP |
07423 802296 |
| Yr Hôb |
AMANDA EVANS |
07766 056692 |
Gall darparwr gofal plant fod yn warchodwr plant, cylch/cylch chwarae, meithrinfa ddydd breifat, neu fath arall o ddarpariaeth gofal plant sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Bydd cyllid y plentyn yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r darparwr gofal plant a gellir ei ddefnyddio gydag un darparwr ar y tro yn unig.
Sut i wneud cais?
- Defnyddiwch y gwirydd cymhwysedd isod i ddarganfod pryd all eich plentyn gael mynediad at ofal plant wedi’i ariannu.
- Bydd ceisiadau’n agor 2 fis cyn i’ch plentyn ddod yn gymwys.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os fydd eich cais wedi’i gymeradwyo oddeutu 3 wythnos cyn dyddiad dechrau eich plentyn.
- Sicrhewch fod eich cais yn cael ei gyflwyno gyda’r holl dystiolaeth ofynnol.
Yn anffodus, gall ceisiadau hwyr olygu bydd eich plentyn yn methu allan ar y cyllid.
- Unwaith caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau dyddiad dechrau eich plentyn gyda’ch darparwr gofal plant dewisol.
Os nad ydych eisoes wedi cwblhau ffurflen gofrestru’r darparwr, cysylltwch â nhw o fewn 14 diwrnod i wneud hynny.
- Os yw eich darparwr gofal plant dewisol yn llawn, byddwn yn cynnig lle gyda’ch ail ddewis o ddarparwr.
Os nad yw hyn yn addas, mae croeso i chi ddewis darparwr arall neu ymuno â rhestr aros hyd nes bydd lle yn dod ar gael.
- Os ydych yn penderfynu newid darparwyr gofal plant, rhowch rybudd ysgrifenedig 28 diwrnod i’ch darparwr presennol a rhowch wybod i’r Tîm Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint.
Unwaith i’r cyfnod rhybudd ddod i ben, gall eich cyllid gael ei drosglwyddo i’ch darparwr newydd.
Cyn cyflwyno'ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau'r camau canlynol:
- Cysylltwch â darparwyr gofal plant i wneud ymholiadau am argaeledd ar gyfer eich plentyn (Darparwyr Gofal Plant Cofrestredig yn Sir y Fflint).
Mae holl ddarparwyr yn wahanol ac yn cynnig profiadau gwahanol i blant. Mae dewis gofal plant yn ddewis ar gyfer y rhieni.
- Unwaith i chi sicrhau lle gofal plant ar gyfer eich plentyn gyda’ch darparwr gofal plant dewisol, gallwch gwblhau ffurflen gais a’i anfon drwy e-bost at flyingstartapplications@siryfflint.gov.uk ynghyd â thystiolaeth o breswyliaeth a dyddiad geni eich plentyn.
Gall dyddiad geni eich plentyn gael ei brofi gyda chopi o’i basbort, tystysgrif geni neu lythyr gan y meddyg.
Gall breswyliaeth gael ei brofi gyda bil cyfleustodau diweddar neu fil treth y Cyngor.
Gwirio Cymhwyster Cod Post...
Cysylltwch â Ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’ch cais gofal plant, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at flyingstartapplications@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 01352 703930.
A oes unrhyw gost i mi?
Na, Llywodraeth Cymru yn talu am y sesiynau gofal plant.
Beth ydi manteision fy mhlentyn yn mynychu gofal plant?
Bydd eich plentyn yn cael cyfleoedd i:
- Chwarae gyda phlant eraill
- Datblygu eu sgiliau mewn llawer o wahanol feysydd
- Chwarae yn yr awyr agored
- Dod yn ddysgwyr annibynnol
- Siarad a chlywed Cymraeg
- Cael eu hanghenion unigol eu hunain wedi’u diwallu
- Cael hwyl!
A all fy mhlentyn fynd i leoliad Cymraeg?
Gallent, mae nifer o gylchoedd yn Sir y Fflint. Darllenwch i Buddion Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg.
Beth os ydw i'n rhiant sy'n gweithio – a allaf i hawlio o hyd?
Oes, y prif amcanion ar gyfer ehangu gofal plant a ariennir gan blant 2 oed yw sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd, a chynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal plant a lleoedd a lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg.
Fodd bynnag, gall darparu lleoedd gofal plant a ariennir i blant ddwy oed hefyd alluogi rhieni i weithio neu gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi ac addysg na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall.
Yn ogystal, gall y rhai sy'n gweithio'n llawn amser dalu rhai o'u costau gofal plant drwy'r ddarpariaeth hon, os yw eu plentyn yn mynychu lleoliad gofal plant cofrestredig.
Mae Dechrau’n Deg yn ariannu darpariaeth gofal plant i blant 2 flwydd oed o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed, tan ddiwedd y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Bydd data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at ddibenion penodol o weinyddu, monitro a rheoli Gofal Plant Dechrau’n Deg. Gall ‘data personol’ ymwneud â’r rhiant/rhieni neu blant/plentyn. Mae angen prosesu eich data personol fel rhan o’n Tasg Gyhoeddus a ddiffiniwyd gan Lywodraeth Cymru a budd sylweddol y cyhoedd er mwyn cyflwyno rhaglen Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn Sir y Fflint.
Mae’n rhaid i Ddechrau’n Deg a’r lleoliad gofal plant rydych wedi’i ddewis rannu data personol, a fydd yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol i ddarparu’r rhaglen yn unig.
Mae Tîm Gofal Plant Dechrau'n deg yn cefnogi darpariaeth gofal plant ar gyfer plant sy’n cael eu hariannu drwy Dechrau’n Deg, ac er mwyn gwneud hyn, fe all rannu gwybodaeth berthnasol am blant sydd wedi’u cofrestru/ariannu, yn cynnwys eu presenoldeb mewn lleoliadau a/neu eu datblygiad gyda gwasanaethau eraill megis:
- Ymwelwyr Iechyd
- Cyfle Cynnar
- Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd
- Cynhwysiant
- Seicoleg
- Staff ysgolion Sir y Fflint
- Gwasanaeth Cefnogi Synhwyrau Gogledd Ddwyrain Cymru
- Gwasanaeth Iaith a Lleferydd
- Tîm Datblygu Cyn Ysgol Sir y Fflint
Pan fo angen, ac er mwyn cefnogi dysgu a lles eich plentyn, fe all Tîm Gofal Plant Dechrau’n Deg hefyd rannu gwybodaeth sydd wedi’i gasglu gan y gwasanaethau uchod gyda’r lleoliad gofal plant y mae’ch plentyn yn ei fynychu.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data nes pen blwydd eich plentyn yn 4 oed ac am gyfnod o 6 blynedd ar ôl y dyddiad hwnnw. Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch eu hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx