Alert Section

Cynnig Ffederasiwn – Gwernymynydd C.P. School & Ysgol Y Waun, Gwernaffield


Cynnig Ffederasiwn – Gwernymynydd C.P. School & Ysgol Y Waun, Gwernaffield

 Mae Cyrff Llywodraethu Gwernymynydd C.P. School and Ysgol Y Waun, Gwernaffield wedi cytuno ar y cyd i gynnal ymgynghoriad ar gynnig i sefydlu Ffederasiwn rhwng Gwernymynydd C.P. School and Ysgol Y Waun, Gwernaffield o Dydd Iau 1 Chwefror, yn unol â Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (2014).

Bydd yr ymgynghoriad ar ffedereiddio Gwernymynydd C.P. School and Ysgol Y Waun, Gwernaffield yn unol â Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (2014) yn dechrau Dydd Mawrth 23 Mai 2017 ac yn cau Dydd Llun 10 Gorffennaf 2017.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd copi o’r ddogfen ymgynghori hon ar gael i bob rhiant/gofalwr a budd-ddeiliaid allweddol, a bydd copïau caled ar gael ym mhob ysgol. 
Mae fersiwn o’r ddogfen ymgynghori hon wedi’i chynhyrchu ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y cynnig.  

Mae'r ddogfen plant a phobl ifanc wedi cael ei hysgrifennu a'i chyflwyno’n benodol i alluogi plant a phobl ifanc ddeall ac ymgysylltu â'r broses ymgynghori. Bydd digwyddiadau ymgynghori hefyd yn cael eu trefnu gyda’r Cynghorau Ysgol priodol.

Mae modd gweld dolenni at y dogfennau ymgynghori drwy ddefnyddio'r dolenni isod.

Llythyr Ysgol G.G Gwernymynydd i Rieni a Gofalwyr;
Ysgol Y Waun Llythyr i Rieni a Gofalwyr;
Dogfen Ymgynghori Ffederasiwn;
Dogfen Ymgynghori Plant a Phobl Ifanc;
Adroddiad Ymgynghori Ffederasiwn.