Alert Section

Cynllun Chwarae Gwyliau

Ble ydym ni?

Bydd y Cynllun Chwarae Haf 2027 yn ailddechrau ym mis Gorffennaf 2027.

Beth i’w ddisgwyl…

  • Mae ein clybiau’n caniatáu i blant gael cyfleoedd chwarae cyfartal mewn lleoliad clwb ieuenctid.
  • Cyfle i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.
  • Amgylchedd diogel a chynhwysol i ennill sgiliau newydd, magu hyder a ffynnu gyda chreadigrwydd.
  • Lle i ddysgu trwy bynciau addysgol a chwareus, trwy ddiwrnodau ymwybyddiaeth a dathliadau byd-eang.

Nodau ac Amcanion

  • Cefnogi plant sy’n pontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd.
  • Grymuso plant a phobl ifanc drwy weithgareddau chwarae, gan ddefnyddio man diogel i gymdeithasu.
  • Helpu i ddatblygu hyder a dysgu rolau a chyfrifoldebau newydd i blant.

Gweithgareddau

  • Pŵl
  • Chwarae rhannau rhydd
  • Celf a chrefft
  • Disgo tawel
  • Gwneud breichledi paracord
  • Gêm Osgoi’r Bêl
  • Heriau mewn grŵp

Gwneud Cais am Gynllun Chwarae Gwyliau