Rydym yn defnyddio cwcis hanfodol i wneud i’r wefan hon weithio.
Hoffem ddefnyddio cwcis dadansoddi i ddeall sut yr ydych yn defnyddio’r wefan er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Croeso i Ddatblygu Chwarae Sir y Fflint, lle’r ydym yn credu bod yr hud sy’n gysylltiedig â chwarae yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc.
Ein bwriad yw creu lleoedd a chyfleoedd sy’n eu grymuso i ffynnu, dysgu a datblygu trwy rym chwarae. Dewch i ni fynd â chi ar siwrnai i ddeall pwy ydym ni a’r gwaith arbennig rydym yn ei wneud.
Mae Datblygu Chwarae Sir y Fflint yn fwy na menter; mae’n fudiad sy’n dathlu plentyndod, yn grymuso ieuenctid, ac yn cefnogi hawliau pob plentyn i gael chwarae. Ymunwch â ni ar y siwrnai hon o dwf, archwilio a phosibiliadau diddiwedd.
Gyda chwareüsrwydd a phwrpas, Tîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint.
Cliciwch ar fotwm i neidio i’r maes perthnasol
Mae datblygu chwarae yn cyfeirio at ddull bwriadol a holistaidd o feithrin twf, addysg a lles plentyn drwy wahanol ffurfiau o chwarae. Mae’n cydnabod bod chwarae yn allweddol i ddatblygiad corfforol, gwybyddol emosiynol a chymdeithasol plant.
Mae datblygu chware yn cynnwys creu amgylcheddau, cyfleoedd, a gweithgareddau sy’n annog plant i ymgysylltu mewn chwarae, sydd yn ei dro yn cefnogi eu datblygiad a’u haddysg.
....a llawer mwy!
Mae datblygu chwarae yn ddull holistaidd sy’n cydnabod gwerth aruthrol chwarae o fewn twf ac addysg plant. Drwy greu amgylchedd sy’n cefnogi ac yn cynnig cyfleoedd amrywiol i chwarae, gall plant ddatblygu ystod eang o sgiliau a phrofiadau sy’n cyfrannu ar eu lles a’u datblygiad cyffredinol.
Mae Datblygu Chware Sir y Fflint yn dîm angerddol o eiriolwyr, addysgwyr ac unigolion brwd sydd wedi ymrwymo i gefnogi hawliau plant a phobl ifanc.
Rydym yn cydnabod bod chwarae yn hanfodol ar gyfer hapusrwydd, ond hefyd yn rhan annatod o ddatblygiad holistaidd. Drwy chwarae, mae plant yn archwilio, yn dysgu, ac yn datblygu sgiliau hollbwysig sy’n siapio eu dyfodol.
Wrth wraidd ein hymdrechion mae’r gred bod pob plentyn yn haeddu’r hawl i chwarae. Rydym yn gweithio’n ddiflino er mwyn creu gofodau diogel, cynhwysol, llawn dychymyg, lle gall plant ymgysylltu mewn cyfleoedd i chwarae’n greadigol, heb strwythur. Drwy feithrin amgylchedd lle mae chwarae yn ffynnu, rydym yn meithrin gwytnwch, creadigrwydd, a sgiliau cymdeithasol sy’n ymestyn tu hwnt i blentyndod.
O drefnu cynlluniau chwarae, gweithdai chware, a digwyddiadau cymunedol i gydweithio gydag ysgolion, Cynghorau Tref a Chymuned a sefydliadau lleol, mae ein gwasanaethau yn amrywiol ac yn effeithiol. Rydym yn darparu hyfforddiant ac adnoddau i addysgwyr, rhieni, a gofalwyr, gan sicrhau eu bod yn deall manteision sylweddol chwarae o fewn datblygiad plentyn.
Nid hyrwyddo chwarae a wnawn yn unig; rydym yn cefnogi hawliau plant. Mae ein hymrwymiad i gynnal egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gadarn. Ein bwriad yw cryfhau lleisiau plant a phobl ifanc drwy ein mentrau, gan sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu a’u cynnal.
Fel cefnogwyr balch y Gymraeg a threftadaeth ddiwylliannol, rydym yn cynnwys ein gweithgareddau yng nghyfoeth ein hunaniaeth leol. Drwy chwarae, rydym yn dathlu ein hiaith a’n traddodiadau, gan greu synnwyr o berthyn a balchder ymysg y bobl ifanc rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym yn deall bod creu newid effeithiol yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Felly, gweithiwn yn agos gydag ysgolion, Cynghorau Tref a Chymuned, cymunedau a sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod ein mentrau yn cyrraedd ystod o ardaloedd, ac yn gynaliadwy.
Wrth i ni fwrw ein golwg tuag at y dyfodol, mae ein cyffro yn cynyddu. Rydym wedi ymrwymo i ehangu ein cwmpas, mireinio ein rhaglenni, a chreu diwylliant chwarae cynhwysol ac egnïol yn Sir y Fflint a thu hwnt.
Dewch i gwrdd â’r wynebau y tu ôl i Dîm Chwarae Sir y Fflint!
Darren ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers 1997.
Tom ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers 2019.
Jo ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers 2022.
Mandy ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers 1991.
Lola ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers 2023.
Sophie ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers 2017.
Will ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers 2023.
Siôn ydw i ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ers dros ddegawd.
Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae yw sail ein gwaith fel tîm.
Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae.
Mae chwarae yn angen biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy’n hanfodol i ddatblygiad iach a lles.
Mae plant yn dewis sut maent yn chwarae.
Mae chwarae yn cael ei ddewis o wirfodd, a gaiff ei arwain yn bersonol a’i gymell yn reddfol.
Hwyluswch chwarae ystyrlon.
Mae cefnogi a hwyluso chwarae yn nodi polisi, strategaeth, hyfforddiant ac addysg.
Mae chwarae yn dod yn gyntaf.
Mae gweithwyr chwarae yn eirioli dros chwarae wrth ymgysylltu gyda rhaglenni a arweinir gan oedolion.
Adeiladwch amgylcheddau i chwarae.
Cefnogwch blant a phobl ifanc drwy greu lle iddynt chwarae.
Ymarfer sy’n cael ei nodi gan addysg.
Mae gweithwyr chwarae yn defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf am chwarae ac ymarfer myfyriol.
Mae dylanwad eraill yn bwysig.
Mae gweithwyr chwarae yn nodi eu heffaith ar leoedd chwarae ac effaith chwarae ar eu hunain.
Cefnogwch dwf diogel.
Dylai ymyraethau ymestyn chwarae drwy gydbwyso risg gyda manteision i ddatblygiad a lles.
Browser does not support script.