Alert Section

Grantiau Datblygu Gofal Plant


Childcare Development Logo - cmyk

Mae Tîm Cymorth y Blynyddoedd Cynnar yn eich croesawu i’n Grantiau Datblygu Gofal Plant. Rydym ni yma i’ch helpu chi i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Plant  i:

  • Gefnogi rhieni, sy’n camu i fyd gwaith neu hyfforddiant, i gael cymhorthdal ar gyfer gofal plant.
  • Cefnogi plant ag anghenion ychwanegol i gael gafael ar grantiau dwylo ychwanegol, offer ac adnoddau yn eu lleoliadau gofal plant. Hefyd darparu hyfforddiant i'r lleoliad weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol.
  • Cefnogi darparwyr gofal plant i agor darpariaeth newydd, ehangu neu gynnal eu darpariaeth gofal plant (Grant Cynaliadwyedd).
WG logo 3

Cyn cwblhau unrhyw rai o’r ceisiadau grant uchod, gwiriwch gyda’r darparwr gofal plant yr ydych wedi ei ddewis eu bod wedi cofrestru eu lleoliad ar ein porthol er mwyn galluogi prosesu unrhyw grantiau a gymeradwywyd. 

Gweler y Ffurflen Cofrestru Darparwr Grant Datblygu Gofal Plant yma.

Grant Gofal Plant 2023 - 2024

Mae’r Grant Gofal Plantyn darparu cyllid i gynorthwyo â chostau gofal plant i deuluoedd ar incymau isel;

  • i rieni sy’n mynd yn ôl i’r gwaith neu sydd eisiau gwneud cwrs hyfforddi; 
  • i alluogi mynediad i ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg;
  • i gefnogi lles plant. Mae cyllid cyfyngedig ar gael felly efallai na fyddwn yn gallu ariannu pob cais.

Mae’n rhaid i’r rhiant/gofalwr gyflwyno’r ceisiadau.

Os oes gennych chi fwy nag un plentyn, llenwch gais ar wahân ar gyfer pob plentyn.

Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried a’u hateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Os yw ceisiadau’n llwyddiannus, bydd y cyllid yn dechrau o’r diwrnod cymeradwyo a bydd y taliadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i’r darparwr gofal plant bob mis.

Darganfyddwch fwy a sut i wneud cais yma

Grant Cymorth Ychwanegol a Ariennir a Grant Offer / Adnoddau

Diben y grantiau hyn yw i alluogi plant gydag Anghenion Cymorth Ychwanegol i gael mynediad at a chyfranogi’n llawn mewn gofal plant. Mae’n rhaid i’r ceisiadau gael eu cyflwyno gan y darparwr gofal plant.

Darganfyddwch fwy a sut i wneud cais yma

Grant Cynaliadwyedd

Mae’r grant Cynaliadwyedd hwn wedi ei sefydlu i gefnogi darparwyr gofal plant yn Sir y Fflint ac mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno gan y lleoliad gyda chymeradwyaeth gan yr Unigolyn Cofrestredig / Unigolyn Cyfrifol

Nag ydan ni’n derbyn ymgeision ar gyfer y grant cynaladwyedd ar y funud. Mae ceisiadau ar fin ailagor 01/04/2024

Menter Genedlaethol Twyll

Mae’n rhaid i’r Cyngor, yn ôl y gyfraith, ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, gallwn felly rannu eich data personol â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus i atal ac i ddarganfod twyll. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol, o dan ei bwerau yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, i’r holl awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth mae’n ei chadw at y diben hwn. Mae’r data yn cael ei rannu â Swyddfa Archwilio Cymru/y Comisiwn Archwilio. Wrth gyflwyno’r ffurflen gais hon, rwy’n datgan fy mod yn deall y gall Cyngor Sir y Fflint ofyn am wirio unrhyw ffaith a ddarparwyd. Rwyf yn deall, os canfyddir bod gwybodaeth a ddarparwyd yn ffug, yn gamarweiniol neu os oes gwybodaeth heb ei datgelu, y gall hynny olygu na fydd Cyngor Sir y Fflint yn darparu’r Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth  i mi.

Byddwch yn cael e-bost gennym ni o bryd i’w gilydd, i gadarnhau bod eich amgylchiadau yn dal yr un fath, fodd bynnag mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni’n syth os byddwch chi’n newid i ddarparwr arall, neu os bydd eich cyfeiriad, eich amgylchiadau gwaith neu eich trefniadau byw yn newid. Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni, mae’n bosibl y caiff y cyllid ei golli. Llenwch y ffurflen cais   isod gan sicrhau eich bod yn nodi'r darparwyr gofal plant cywir yn y ddewislen ar y ffurflen.

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Tîm y Blynyddoedd Cynnar

Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion Canolfan Gyswllt

Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau i gymunedau lleol a’r bobl sy’n byw ynddynt.  Mae cynnal y gwaith hwn yn golygu ein bod yn gorfod casglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydym yn rhoi gwasanaethau iddynt, ac i gadw cofnod o’r gwasanaethau hynny.  Oherwydd ein bod yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod yn gwybod beth rydym yn bwriadu ei wneud gyda'u gwybodaeth, a gyda phwy y gellir ei rhannu.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, rydym wedi crynhoi rhai o’r ffyrdd allweddol rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol yn Nhîm y Blynyddoedd Cynnar, a pham rydym yn recordio galwadau.  Dylid darllen yr wybodaeth hon ar y cyd â Hysbysiad Preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar yn gyfrifol am ateb galwadau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, y Tîm Datblygu Gofal Plant, Cyfle Cynnar a Chanolfan Westwood. 

Mae pob galwad i Dîm y Blynyddoedd Cynnar yn cael eu recordio, ac eithrio:

  • Galwadau lle gwneir taliadau
  • Galwadau sy’n gadael Tîm y Blynyddoedd Cynnar h.y. yn cael eu trosglwyddo'n fewnol i adrannau, gan fod recordiadau'n dod i ben pan wneir trosglwyddiad.

Pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw, a gwybodaeth gan bwy?

Lle mae cwsmeriaid yn dewis ymgysylltu â Thîm y Blynyddoedd Cynnar, gellir cadw eu data personol gyda’r maes gwasanaeth perthnasol/a'r sefydliadau ehangach os oes angen, er mwyn iddynt brosesu cais y cwsmer.

Ac eithrio manylion cerdyn talu, mae’r holl ddeialog a gwybodaeth a roddir gan y cwsmer i Ganolfan Westwood (ac i’r gwrthwyneb) yn ystod galwad ffôn gyda Thîm y Blynyddoedd Cynnar, yn cael eu dal a'u cadw yn y recordiad o'r alwad. Bydd y math o wybodaeth a gedwir gan y recordiadau hyn yn amrywio fesul galwad, ond maent fel arfer yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt fel enw, cyfeiriad, rhif ffôn, eiddo a chyfeiriadau e-bost.
  • Manylion adnabyddadwy, fel dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol.
  • Gwybodaeth ariannol, yn cynnwys manylion cyflogaeth, incwm a chyfrif banc.
  • Gwybodaeth deuluol yn cynnwys oedrannau, dibynyddion, statws priodasol.
  • Gwybodaeth am faterion fel iechyd a manylion meddygol.

O ble y caiff y gwasanaeth fy ngwybodaeth?

Gall ffynhonnell/ffynonellau gwybodaeth bersonol a roddir yn ystod galwad i/gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar gynnwys:

  • Gwybodaeth a roddwyd yn uniongyrchol gan y pwnc
  • Gwybodaeth a roddir gan aelod arall o’r cyhoedd (e.e. cwyn neu bryder)
  • Gwybodaeth a roddwyd gan Gynghorydd etholedig ar ran eu hetholwr.
  • Gwybodaeth a roddwyd gan swyddogion/gwasanaethau eraill y Cyngor sy’n ymgysylltu â Thîm y Blynyddoedd Cynnar er budd ei gwsmeriaid, neu'r Cyngor ei hun
  • Gwybodaeth a roddwyd gan sefydliadau eraill (e.e. Gwasanaethau Brys, Landlordiaid) ynghylch unigolyn.

Beth fyddwn yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol?

Mae wedi dod yn arferiad cyffredin i gofnodi galwadau oherwydd twf y busnes a gynhelir dros y ffôn.  Mae recordio sgyrsiau cwsmeriaid yn galluogi’r Cyngor i asesu boddhad cwsmeriaid, hyfforddi a datblygu staff, adolygu ansawdd galwadau, a chael mynediad at gofnod llafar o’r hyn a ddywedir os bydd cwyn ddilynol.

Mae hefyd yn golygu y bydd gweithwyr yn teimlo eu bod wedi’u hamddiffyn yn fwy gan wybod y bydd tystiolaeth o unrhyw ymddygiad bygythiol, ac y gweithredir ar hyn lle bydd angen.

Gellir defnyddio gwybodaeth a gedwir o fewn recordiad o alwad yn y ffyrdd canlynol:

  • Dibenion Ansawdd a Hyfforddi – Dim ond gwybodaeth rannol y mae cofnodion ysgrifenedig yn ei ddarparu.  Mae recordiad o alwad yn rhoi safbwynt mwy cyflawn ac yn caniatáu i ni ddeall profiad cwsmeriaid yn well ac asesu’r prosesau a ddefnyddiwyd.    Gall hyn ein helpu i nodi unrhyw feysydd o welliant a sicrhau ansawdd gwasanaeth a roddir gan Swyddogion Cyswllt â Chwsmeriaid, drwy ddefnyddio’r wybodaeth o fewn y recordiad i lywio gwrthrychau'r hyfforddiant a chynlluniau datblygu gweithwyr unigol.
  • Ennill gwell dealltwriaeth o’n cwsmeriaid – Mae sawl galwad yn cael eu datrys ar lafar heb yr angen i gwblhau unrhyw gofnodion.  Bydd gwrando ar alwadau sampl yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o anghenion ein cwsmeriaid, ac ennill safbwynt mwy gwybodus ynghylch y sefydliadau y cyfeiriwn bobl atynt.
  • Cwynion ac Anghydfodau – Mae rhai galwadau’n cael eu datrys ar lafar.  Lle rhoddir gwybodaeth ar system electronig, dyma yw'r cofnod sefydledig wedyn.  Os bydd cwyn neu anghydfod, gall recordiad o'r alwad (os ydyw ar gael), roi gwybodaeth ychwanegol i'n helpu i ymchwilio i unrhyw honiadau, i ddiogelu buddion y gwrthrych a/neu'r Cyngor drwy ddefnyddio'r wybodaeth yn y recordiad i ymateb i gwynion ynghylch y Ganolfan Gyswllt a/neu wasanaethau eraill y Cyngor.
  • Hawliadau cyfreithiol - I’w defnyddio i amddiffyn hawliadau cyfreithiol yn erbyn y Cyngor.
  • Diogelwch a lles gweithwyr - Gall recordiad ddod yn ddarn hanfodol o dystiolaeth os bydd unrhyw fygythiadau’n cael eu gwneud i’r Cyngor neu unigolyn.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio’r wybodaeth hon?

Mae recordio pob galwad yn amddiffyn buddion y gwrthrych a'r Cyngor mewn cyfarfod:

  • Rhwymedigaethau Cyfreithiol – defnyddio’r wybodaeth i gydymffurfio â chyfraith gyffredin neu rwymedigaeth statudol
  • Tasgau Cyhoeddus – i arfer ‘awdurdod swyddogol’ a phwerau wedi’u gosod mewn cyfraith; neu i berfformio tasg benodol er budd y cyhoedd sydd wedi’i osod mewn cyfraith.

A yw’r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Er bod gwybodaeth a gesglir yn ystod yr alwad yn gallu cael ei rhannu â gwasanaethau eraill y Cyngor, neu sefydliadau allanol i gynorthwyo i ddatrys ymholiad y gwrthrych, mae recordiadau ffôn yn gyfrinachol a byddant ond yn cael eu rhannu gyda'r canlynol, lle mae rhesymau dros rannu'n cael eu cyfiawnhau:

  • Gwasanaethau eraill y Cyngor sy’n gweithio gyda’r Ganolfan Gyswllt, gyda’r bwriad o gynorthwyo i ddatrys anghydfod neu gŵyn.
  • Sefydliadau eraill ynghlwm wrth ofal y gwrthrych (h.y. Gwasanaethau Cymdeithasol/gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac ati)

Am ba hyd y cedwir fy ngwybodaeth?

Mae recordiadau galwad a gedwir gan y Ganolfan Gyswllt yn cael eu cadw am 24 mis.  Unwaith y bydd y cyfnod hwn o gadw wedi dod i ben, bydd recordiadau'n cael eu dileu ac ni fydd modd eu hadfer mwyach.

Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, yn cynnwys yr hawl i gael mynediad at yr wybodaeth bersonol sydd gan y gwasanaethau amdanoch.

Am ragor o wybodaeth am eich gwybodaeth, a sut i’w gweithredu, ymweliad tudalen Deddf Diogelu Data

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw bryderon neu eisiau gwybod mwy am sut mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni yn un o'r ffyrdd canlynol:

Trwy e-bost:  westwoodcentre@flintshire.gov.uk
Dros y ffôn: 01352 703930
Yn ysgrifenedig: Swyddog Cymorth Prosiect y Blynyddoedd Cynnar, Tabernacle Street, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 2JT