Alert Section

Derbyn i Ddosbarth Derbyn (Medi)

A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022?
A fyddan nhw’n 4 oed erbyn 31 Awst, 2026?

Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth derbyn ym Medi 2026.


Bydd ceisiadau ar gyfer y brif rownd hon ar gael o ddydd Llun 22 Medi 2025 am 7 o’r gloch y bore.

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais cyn y dyddiad hwn.

Bydd dolen i’r ffurflen gais ar gael o’r dyddiad a nodir uchod.

Yr amserlen ar gyfer derbyn i’r Dosbarth Derbyn yw.

Amserlen ar gyfer derbyniadau Derbyn
Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni:Cyfnod i’r rhieni ystyried:Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni:Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd:Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”)

22/09/25

7yb

22/09/25
-
17/11/25
17/11/25 18/11/25
-
23/02/26

16/04/26

8yb

Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y dyddiad cau.

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (23 Chwefror 2026) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (16 Ebrill 2026).