Alert Section

Symud Ysgol yn Ystod y Flwyddyn

Gallech wneud cais i symud eich plentyn i ysgol arall, neu i wneud cais i ddychwelyd i ysgol, gan ddefnyddio y cais ar y tudalen yma. 

Os gwelwch yn dda, darllenwch y wybodaeth ar y tudalen yma, yn ofalus cyn dechrau.

Ar hyn o bryd, rydym yn derbyn nifer o geisiadau ar gyfer newid Ysgol – Gynradd ac Uwchradd. 

Er ein bod yn anelu prosesu ceisiadau, a rhoi canlyniad o fewn 15 diwrnod ysgol, efallai y bydd fwy ar hyn o bryd.

Sicrhewch fod eich plentyn yn parhau i fynychu ei hysgol bresennol nes i chi derbyn canlyniad.

Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.


Symud ysgol yn ystod y flwyddyn

Symud yn ystod y flwyddyn yw pan fyddwch chi'n gofyn i ni symud eich plentyn o un ysgol i'r llall, y tu allan i'r rowndiau derbyn arferol.

Mae symud ysgol yn gam difrifol iawn y dylech ei ystyried yn ofalus, oni bai bod y cais yn ganlyniad i symud tŷ. 

Mae llawer o anawsterau y gellir eu datrys heb newid ysgol eich plentyn, ac mae’n bwysig i siarad a gweithio gyda’ch ysgol bresennol cyn gwneud cais i symud - Gall symud ysgol darfu’n fawr ar addysg eich plentyn ac efallai NI FYDD y problemau yn cael ei datrys.

Does dim sicrwydd y gallwn gynnig lle yn eich ysgol ddewisol.

Rhaid i’ch plentyn barhau i fynychu ei ysgol bresennol nes bod y ysgol newydd wedi cadarnhau ei le ac wedi cytuno ar ddyddiad cychwyn. Peidiwch â thynnu'ch plentyn o'i ysgol bresennol cyn hyn.


Ffactorau y mae'n rhaid i chi eu hystyried cyn cymryd cam mor bwysig:

Cwricwlwm

Mae’n bwysig ystyried bod pob ysgol yn addysgu'r Cwricwlwm i Gymru mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol adegau o'r flwyddyn academaidd.

Gallai newid ysgolion hanner ffordd drwy flwyddyn olygu bod eich plentyn yn ailadrodd neu'n colli gwaith, a gallai hyn gael effaith sylweddol ar gynnydd.

Mae cyrhaeddiad disgyblion sy'n symud yn ystod y flwyddyn yn sylweddol is na'u cyfoedion ac yn is fyth ymhlith disgyblion sy'n newid ysgol sawl gwaith.

Mewn addysg uwchradd, mae pynciau dewisol TGAU, cyrsiau coleg a dyluniad y cwricwlwm yn amrywio’n fawr o ysgol i ysgol, ac felly, gall newid ysgol gael effaith negyddol iawn ar gynnydd eich plentyn.

Mae symud ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn achosi llawer iawn o darfu, a gall gael effaith niweidiol ddifrifol ar addysg eich plentyn. Mae blynyddoedd 10 ac 11 yn gwrs dwy flynedd o hyd, ac mae'n debygol na fydd yr ysgol rydych chi'n dymuno symud eich plentyn iddi yn gallu cynnig yr un dewis o bynciau ag ysgol bresennol eich plentyn, neu gallai fod ar wahanol gamau o ddysgu'r cwricwlwm.

Os mai dyma’r achos, efallai na fydd modd defnyddio'r gwaith y mae eich plentyn eisoes wedi'i wneud tuag at ei TGAU.


Cymorth Anghenion Dysgu

Os ydych chi’n ystyried newid ysgol gan eich bod yn teimlo nad yw ysgol bresennol eich plentyn yn gallu diwallu ei anghenion dysgu, trafodwch hyn gyda chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol eich ysgol cyn cyflwyno cais i symud ysgol.

Ysgol bresennol eich plentyn sydd yn y sefyllfa orau i drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi, a helpu i'w datrys.

Gall y tîm derbyn i ysgolion neilltuo lleoedd mewn ysgolion prif ffrwd yn unig, ac ni allant ddyrannu lleoedd mewn dosbarthiadau darpariaeth adnoddau.


Pwysau Ariannol 

Mae pwysau ariannol ynghlwm wrth symud ysgol oherwydd ffactorau fel gwisg ysgol newydd a chostau trafnidiaeth.

Dylech ystyried yn ofalus sut y bydd eich plentyn yn teithio i'r ysgol rydych chi’n gwneud cais amdani. Mae trafnidiaeth ysgol a ariennir yn cael ei darparu i ysgol addas agosaf eich plentyn pan fydd hyn y tu hwnt i bellter cerdded addas. Os byddwch chi'n dewis symud eich plentyn i ysgol ar wahân i’r ysgol addas agosaf, chi fydd y llwyr gyfrifol am drefnu trafnidiaeth.  Bydd hyn yn cynnwys gwneud y trefniadau trafnidiaeth angenrheidiol a thalu'r gost.  Am fwy o wybodaeth darllenwch ein polisi trafnidiaeth ysgol.


Symud i Sir y Fflint

Mae rhai ysgolion yn Sir y Fflint eisoes yn llawn ac nid yw symud mewn i ardal yn golygu y bydd lle ar gael yn yr ysgol agosaf.

E-bostiwch admissions@siryfflint.gov.uk i gael y wybodaeth ddiweddaraf am leoedd mewn ysgolion.

Cyn i chi wneud cais, rydym ni’n argymell eich bod yn taro golwg ar wefan yr ysgol i ddysgu mwy, yn cynnwys strwythur y diwrnod ysgol, beth yw’r gofynion o ran gwisg a’r pynciau sydd ar gael. Rydym ni hefyd yn argymell eich bod yn darllen Canllaw i Addysg Sir y Fflint.


Pryd Fydda i'n Clywed yn Ôl?

Unwaith y byddwn yn derbyn ffurflen gais wedi'i chwblhau, rydym yn anelu at ymateb i'ch cais o fewn 15 diwrnod ysgol. Rhaid i’ch plentyn aros yn ei ysgol bresennol tra bod y cais i symud yn cael ei brosesu. 

Bydd y cais i symud yn cael ei ystyried yng nghyd-destun ein polisi derbyn, sydd i'w weld yma.

Os yw eich cais ar gyfer ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir (Ffydd) neu ysgol Sefydledig, bydd y cais yn cael ei drosglwyddo i'w Chorff Llywodraethu i'w ystyried, a bydd yr ysgol yn ymateb i chi'n uniongyrchol.

Os nad yw cais i drosglwyddo yn llwyddiannus, bydd rhieni'n cael eu hysbysu o'u hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gwrthod. Nid yw'r hawl i apelio yn berthnasol ar y cam meithrin.

Os yw’ch cais yn llwyddiannus, bydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol newydd ar ddechrau'r tymor neu'r hanner tymor nesaf, pa un bynnag sydd gyntaf.


Sut i Wneud Cais

Dim ond pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn all wneud cais ysgol.

Lle ceir cyfrifoldeb rhiant a rennir, rhaid i bob person sy'n dal y cyfrifoldeb hwn gytuno â'r cais i symud. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i wneud yn siŵr bod pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant yn ymwybodol o'ch cais ac yn cytuno ag ef.  

Os yw'ch plentyn yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint ar hyn o bryd, bydd y wybodaeth ar eich ffurflen gais (gan gynnwys y rhesymau dros symud) yn cael ei rhannu ag ysgol bresennol eich plentyn yn ogystal â'ch ysgol newydd ddewisol.

Gwneud Cais Ar-lein